Cymraeg y Gweithle Proffesiynol/Busnes a Rheolaeth at Aberystwyth University - UCAS

Aberystwyth University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Aberystwyth University (Prifysgol Aberystwyth)

Cymraeg y Gweithle Proffesiynol/Busnes a Rheolaeth

Course summary

Yn y Gymru gyfoes mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol dwyieithog o’r safon uchaf. Wrth ddewis astudio Cymraeg Proffesiynol / Busnes a Rheolaeth, byddi'n cyfuno sgiliau ieithyddol a phroffesiynol y Gymraeg ag arbenigedd mewn busnes a rheolaeth, a thrwy hynny yn agor drysau i ragolygon gyrfaol gwych. Ar y cwrs arloesol hwn, cei gamu i’r byd busnes yng Nghymru ac ennill sgiliau a phrofiadau hynod werthfawr. Bydd cyfle iti ddysgu sut i weinyddu, golygu, cyfieithu a marchnata. Cei hefyd ennill sgiliau rheoli, cyflwyno, arwain a chydweithio, a dysgu am entreprenwriaeth a datblygu dy fusnes dy hun. Mae’r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith, ac mae cyfle unigryw i’w astudio hyd yn oed os nad wyt ti wedi gwneud Cymraeg Safon Uwch Iaith Gyntaf. Pam Aberystwyth?

  • Cymuned Gymraeg fyrlymus yng nghalon Cymru - Byddi'n ymuno ag un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg, a lle sydd yn enwog am fod yn gyfeillgar a chroesawgar dros ben.
  • Enw da – Mae safon ymchwil ac addysgu Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac Ysgol Fusnes Aberystwyth gyda’r uchaf posib.
  • Arbenigwyr - Cei dy ddysgu gan ddarlithywyr yn y ddwy Adran sydd yn arbenigwyr yn eu meysydd.
  • Arloesi - Byddi'n cael dy addysgu mewn awyrgylch arloesol a dynamig yn y ddwy Adran.
  • Arwain - Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn arwain y sector ym maes Cymraeg yn y gweithle proffesiynol ac astudiaethau cyfieithu.
  • Dewis eang – Bydd amrywiaeth hynod ddiddorol o gyrsiau unigol ar gael iti, sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr, o ddysgu am y Gymraeg mewn cyd-destunau proffesiynol ac yn y cyfryngau i astudio strategaethau busnes a marchnata.
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'i chasgliad o adnoddau llenyddol, clywedol a gweledol gwych.
  • Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Cei ymaelodi ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), byw yn neuadd Pantycelyn, a chymryd rhan men llu o weithgareddau hwyliog a drefnir gan yr undeb.
  • Boddhad Myfyrwyr - Mae'r canlyniadau ar gyfer Bodlonrwydd Myfyrwyr yn dangos bod canran uchel iawn o'n myfyrwyr yn hapus yn y ddwy Adran. Yn ogystal, mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar y brig yn y DU o safbwynt Astudiaethau Celtaidd fel pwnc (NSS 2020).
Beth fydda i'n ei ddysgu? Yn dy flwyddyn gyntaf, byddi'n darganfod cyweiriau’r iaith, ynghyd â nodweddion Cymraeg safonol; egwyddorion sylfaenol busnes a rheolaeth; cyweiriau'r iaith gyfoes mewn amgylchiadau amrywiol; egwyddorion marchnata ac ymarfer cyfoes; sgiliau ysgrifenedig, ac yn atgyfnerthu dy ddealltwriaeth o ramadeg y Gymraeg. Yn dy ail flwyddyn byddi'n archwilio adnoddau dynol a sut y cânt eu rheoli; sut i ddefnyddio'r Gymraeg yn raenus ac yn gywir, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn y flwyddyn gyntaf; y gadwyn cyflenwi a sut y caiff ei gweithredu a'i rheoli; gwahanol agweddau ar gyfieithu ac addasu llenyddol, technegol, hanesyddol ac ymarferol. Yn dy flwyddyn olaf, cei gyfle i astudio gwahanol agweddau ar gyfieithu ac addasu, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn yr ail flwyddyn; astudio strategaeth ariannol; astudio arweinyddiaeth strategol; ymgymryd â phrosiect hir wedi ei seilio ar ymchwil wreiddiol. Byddi'n gallu dewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol yn ogystal.


How to apply

Application codes

Course code:
QN51
Institution code:
A40
Campus name:
Main Site (Aberystwyth)
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

Applicants are selected on their individual merits and offers can vary. We allow you flexibility in meeting our entry requirements, and all qualifications that you have already gained, or are working towards, will be considered when reviewing your application. We have an inclusive policy which recognises a broad range of qualifications. The entry requirements listed above represent typical offers for some of the most popular qualifications taken by applicants. If you cannot find the qualifications that you are studying (or have previously studied) please contact our Undergraduate Admissions Office (Telephone: +44 (0)1970 622021; Email: [email protected]) for advice on your eligibility and details of the typical offer you are likely to receive.

Additional entry requirements

Other

A minimum grade C or grade 4 pass in GCSE (or equivalent) English or Welsh is a requirement for entry to all our degree schemes. Business, Mathematics, Psychology and Science degree schemes also require a minimum grade C or grade 4 pass in GCSE (or equivalent).


English language requirements

TestGradeAdditional details
Cambridge English AdvancedB
Cambridge English ProficiencyC
IELTS (Academic)6.5With minimum 5.5 in each component.
PTE Academic62With minimum scores of 51 in each component.
TOEFL (iBT)88With minimum scores in components as follows: Listening 21; Writing 21; Reading 22; Speaking 23.

If you are an international student needing more information about the English Language requirement for your course (e.g. country-specific English Language tests, Partner Institution tests, EU/EEA English Language qualifications where the school curriculum is taught in a native language) please contact the Undergraduate Admissions Office for further advice.


Student Outcomes

Operated by the Office for Students
55%
Employment after 15 months (Most common jobs)
100%
Go onto work and study

The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1
Republic of Ireland £9000 Year 1
EU £15375 Year 1
International £15375 Year 1

Additional fee information

The UK and Welsh Governments have confirmed that EU students commencing their studies in the academic year 2021/22 will no longer be eligible for home fee status. Fees for EU students will therefore be charged in line with international fees from 2021/22 onwards. Please note Irish nationals will continue to be eligible for home fee status and support by the Welsh Government under the Common Travel Area arrangement

Sponsorship information

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig pecyn gwerthfawr o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gynorthwyo myfyrwyr. Mae ein cystadleuaeth Ysgoloriaeth Mynediad hirsefydlog yn golygu y gallech gael hyd at £2,000 y flwyddyn tuag at eich costau byw a’ch costau astudio. Gallwch gyfuno Ysgoloriaeth Mynediad gydag unrhyw un, neu â’n holl wobrau eraill, i wneud eich pecyn ariannol yn fwy gwerthfawr. Mae’n ein gwobrau’n cynnwys Bwrsariaeth Aberystwyth, sy’n dibynnu ar brawf modd, yr Ysgoloriaethau Chwaraeon a Cherddoriaeth, bwrsariaethau i rai sy’n gadael gofal/gofalwyr ifainc/myfyrwyr dieithredig ac ystod o wobrau adrannol-benodol. Ewch i’n gwefan i gael y manylion llawn.

Cymraeg y Gweithle Proffesiynol/Busnes a Rheolaeth at Aberystwyth University - UCAS