Course summary
Mae nifer o fyfyrwyr o’r farn bod astudio gradd gydanrhydedd yn brofiad gwerth chweil gan eu bod yn gallu gweld yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol rhwng y ddau bwnc. Trwy gyfuno'r Gymraeg ac Eidaleg, byddwch yn dysgu cyfoeth o sgiliau a gwybodaeth y gellir eu defnyddio mewn sawl maes. Bydd y rhain hefyd o les yn y byd gwaith byd-eang ac yn helpu agor y drysau i amrywiaeth o yrfaoedd posibl. CYMRAEG Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern. Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen ichi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa. EIDALEG Ers y cyfnod Rhufeinig, mae cyfraniad yr Eidal i ddiwylliant y byd wedi bod yn aruthrol fel y mae'n amlwg i unrhyw un sy'n ymweld â’r wlad, hyd yn oed am gyfnod byr. Ond nid yw’r Eidal yn wlad o bwysigrwydd diwylliannol eithriadol yn unig. Mae’r Eidal hefyd yn bartner gwleidyddol sylweddol yn yr Undeb Ewropeaidd, ac yn rym blaenllaw mewn meysydd fel peirianneg a phensaernïaeth. Dyma gartref y diwydiannau dylunio a ffasiwn. Mae Eidaleg ym Mhrifysgol Caerdydd yn eich galluogi chi i astudio, dadansoddi a gwerthuso datblygiadau cyfredol ar draws y byd sy'n siarad Eidaleg, yn ogystal â diwylliannau a gwerthoedd y gorffennol. Wedi ichi astudio Eidaleg, byddwch chi’n barod i fanteisio ar y cyfleoedd eang sy’n agored i raddedigion yr iaith heddiw Byddwch yn datblygu sgiliau iaith lefel uchel gyda'r nod o gyflawni cymwyseddau yn agos at safon frodorol ynghyd â gwybodaeth fanwl am agweddau ar ddiwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a’r gymdeithas yn yr Eidal. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn yr Eidal, yn ymarfer ac yn datblygu eich sgiliau iaith. Rydym yn cynnig Eidaleg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr. O ran caffael iaith, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, llafar a gwrando drwy amrywiaeth o weithgareddau dysgu, a chan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau clyweledol. Yn eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs. Mae'n bwysig cofio nad yw astudio ieithoedd yn golygu astudio’r iaith a dim arall. Mae'n golygu edrych ar sawl agwedd ar y wlad a'i diwylliant, ei strwythurau cymdeithasol a’i sefydliadau, ei gwleidyddiaeth, ei hanes, ei llenyddiaeth a'i sinema. Drwy astudio meysydd o'r fath rydych chi’n gallu cael dealltwriaeth well o ddiwylliant Eidalaidd a sut mae wedi esblygu dros y canrifoedd, gan ddatblygu i fod yr hyn ydyw heddiw. Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil diweddar. Mae pob ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i gefnogi gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr. Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych hyfedredd iaith lefel uchel yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol o lenyddiaeth, diwylliant, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Cymreig ac Eidaleg.
How to apply
This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application codes
- Course code:
- QR53
- Institution code:
- C15
- Campus name:
- Main Site - Cardiff
- Campus code:
- -
Points of entry
The following entry points are available for this course:
- Year 1
Entry requirements
Qualification requirements
UCAS Tariff - Not accepted
A level - BBB - BBC
Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)
International Baccalaureate Diploma Programme - 30 - 31 points
Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)
Extended Project - A
GCSE/National 4/National 5
T Level
Nid ydym yn derbyn Meddwl Beirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau tebyg eraill tebyg. Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Lefel A, a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc. We do not accept Critical Thinking, General Studies, Citizenship Studies, or other similar equivalent subjects. We will accept a combination of BTEC subjects, A-levels, and other qualifications, subject to the course specific grade and subject requirements.
English language requirements
All applicants are expected to have demonstrable English language skills. Most courses ask for GCSE English grade C/4 or equivalent, but some courses ask for GCSE English grade B/6 or equivalent.
To find out more, please go to:
https://www.cardiff.ac.uk/study/international/english-language-requirements/undergraduate
Student Outcomes
The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.
Fees and funding
Tuition fees
Republic of Ireland | £9000 | Year 1 |
Channel Islands | £9000 | Year 1 |
EU | £22700 | Year 1 |
England | £9000 | Year 1 |
Northern Ireland | £9000 | Year 1 |
Scotland | £9000 | Year 1 |
Wales | £9000 | Year 1 |
International | £22700 | Year 1 |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .
Additional fee information
Sponsorship information
Mae llawer o ysgoloriaethau ar gael i ddarpar fyfyrwyr. Ewch i https://www.cardiff.ac.uk/cy/study/undergraduate/funding/scholarships i gael rhagor o wybodaeth.
Provider information
Cardiff University
PO Box 921
Cardiff
CF10 3XQ
Clearing contact details
Admissions
0333 241 2800