Course summary
UCAS Code: 3F5T TAR Uwchradd - Addysg Grefyddol gyda GAA (gyda SAC) Ar ôl cwblhau'r TAR yn llwyddiannus, bydd AC yn dod yn ymarferwyr effeithiol, brwdfrydig ac adfyfyriol Addysg Grefyddol. Y prif bwyslais fydd hyrwyddo dealltwriaeth glir o'r hyn a olygir gan Addysg Grefyddol ragorol, a datblygu sgiliau hyfforddeion wrth gymhwyso'r nodweddion hyn i addysgu dosbarth. Bwriad y rhaglen TAR Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol. Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill. Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru. Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi.
Course details
Qualified teacher status (QTS)
To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:
- Secondary
Entry requirements
Gradd anrhydedd dda mewn maes yn gysylltiedig â’r pwnc. TGAU Gradd B/Gradd 5 (neu gyfwerth) mewn Saesneg Iaith a Mathemateg/Rhifedd, TGAU Gradd C/Gradd 4 mewn Cymraeg Iaith. Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg. IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5)
English language requirements
For the most up-to-date information on acceptable English Language proficiency qualifications, please visit our webpage below.
https://www.bangor.ac.uk/international/future/englishlanguage
Fees and funding
Tuition fees
No fee information has been provided for this course
Additional fee information
Provider information
Bangor University
Bangor (Wales)
LL57 2DG