Bioleg - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University - UCAS

Bangor University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Bangor University (Prifysgol Bangor)

Bioleg - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

Course summary

UCAS Code: 3D3J TAR Uwchradd - Bioleg (gyda SAC) Bwriad y rhaglen TAR Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol. Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill. *Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno. Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru. Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi. Byddwn yn rhoi cefnogaeth wahaniaethol beth bynnag fo'ch sgiliau a'ch cymhwysedd yn y Gymraeg a'ch ymwybybyddiaeth a'ch dealltwriaeth o'r iaith a diwylliant Cymraeg. Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored. Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am 3F5M.

Qualified teacher status (QTS)

To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:

  • Secondary

How to apply

Application codes

Course code:
3D3J
Institution code:
B06
Campus name:
Main Site
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

*Gofynion Mynediad* • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig a'r pwnc. • Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg. • Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd. • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg. • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5).

Additional entry requirements

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)

Interview


Student Outcomes

Operated by the Office for Students

There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

Republic of Ireland £9000 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1

Additional fee information

Tuition fees and scholarship information for International applicants can be found here: https://www.bangor.ac.uk/international/tuition
Bioleg - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University - UCAS