Cymraeg (i fyfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith) at Aberystwyth University - UCAS

Aberystwyth University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Aberystwyth University (Prifysgol Aberystwyth)

Cymraeg (i fyfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith)

Course summary

Wrth ddewis astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddi'n ymuno â chymuned Gymraeg fyrlymus, o fewn y brifysgol a'r tu allan. Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn gartref i gymuned fywiog o fyfyrwyr ac ymchwilwyr, o Gymru a’r tu hwnt, o fewn tref ac ardal ddwyieithog sy'n llawn hanes, a lle mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'r gwead cymdeithasol. Byddi'n dysgu am lenyddiaeth, diwylliant, gwleidyddiaeth, hanes a chymdeithaseg Cymru. Bydd hyn oll yn ehangu dy orwelion a bydd dy wybodaeth am Gymru'n werthfawr wrth iti ymgeisio am swyddi yng Nghymru heddiw. Mae’r cynllun gradd hwn yn addas i fyfyrwyr Cymraeg ail iaith, ac i siaradwyr iaith gyntaf. Beth bynnag yw dy sefyllfa di, tyrd i ymuno â ni ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd gradd yn y Gymraeg yn profi dy fod yn gallu mynegi dy hun yn Gymraeg yn effeithiol a phwrpasol, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

  • Cymuned Gymraeg fyrlymus yng nghalon Cymru - Byddi'n ymuno ag un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg.
  • Enw da – Mae safon ymchwil ac addysgu’r adran hon yn Aberystwyth gyda’r uchaf posib.
  • Arwain - Mae'r Adran yn arwain y sector mewn meysydd fel ysgrifennu creadigol, y Gymraeg yn y gweithle proffesiynol ac astudiaethau cyfieithu, ac mae pawb yn yr Adran yn rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth, a’i lle yn y byd modern.
  • Hanes - Hon yw'r Adran Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru (1875).
  • Arbenigwyr - Cei dy ddysgu gan ddarlithywyr sydd yn arbenigwyr yn eu meysydd.
  • Dewis eang o fodiwlau - Byddi'n astudio pynciau hynod ddiddorol sy'n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr, o hanes ein llên i lenyddiaeth gyfoes, ac o gymdeithaseg yr iaith Gymraeg i gyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, ac ysgrifennu creadigol a sgriptio.
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drws Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'i chasgliad o adnoddau llenyddol, clywedol a gweledol gwych.
  • Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Cei ymaelodi ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), byw yn neuadd Pantycelyn, a chymryd rhan mewn llu o weithgareddau hwyliog a drefnir gan yr undeb.
  • Boddhad Myfyrwyr - Yn yr arolwg cenedlaethol diweddar o fodlonrwydd myfyrwyr, roedd 100% o foddhad cyffredinol ym maes Astudiaethau Cymraeg (NSS 2020).
Rydym yn cynnig amrywiaeth hynod ddiddorol o fodiwlau unigol sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, llenyddiaeth plant, llên gwerin, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg. Beth fydda i’n ei ddysgu? Dyma grynodeb: Iaith Gyntaf - Yn y flwyddyn gyntaf cei gyfle i weld pa agwedd ar y Gymraeg sydd o ddiddordeb mwyaf i ti. Byddi'n dysgu am amrywiaeth o gyfnodau llenyddol ac agweddau eraill ar y pwnc er mwyn gallu dewis dy gyfuniad unigryw di o fodiwlau yn yr ail a'r drydedd flwyddyn. Ail Iaith - Yn y flwyddyn gyntaf byddi'n cael dy ddysgu ar wahân i'r myfyrwyr iaith gyntaf. Bydd hyn yn rhoi cyfle iti fagu hyder a gwella dy sgiliau iaith gyda chefnogaeth staff a dy gyd-fyfyrwyr. Yn yr ail flwyddyn byddi'n dilyn modiwlau iaith eraill er mwyn datblygu dy hyder ymhellach a byddi hefyd yn gallu dewis o blith yr amrywiaeth eang o fodiwlau sydd ar gael gan yr Adran. Sut bydda i’n cael fy addysgu? Yn Adran y Gymraeg byddi'n dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored. Sut bydda i'n cael fy asesu? Bydd dy waith yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.


How to apply

Application codes

Course code:
Q560
Institution code:
A40
Campus name:
Main Site (Aberystwyth)
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

Applicants are selected on their individual merits and offers can vary. We allow you flexibility in meeting our entry requirements, and all qualifications that you have already gained, or are working towards, will be considered when reviewing your application. We have an inclusive policy which recognises a broad range of qualifications. The entry requirements listed above represent typical offers for some of the most popular qualifications taken by applicants. If you cannot find the qualifications that you are studying (or have previously studied) please contact our Undergraduate Admissions Office (Telephone: +44 (0)1970 622021; Email: [email protected]) for advice on your eligibility and details of the typical offer you are likely to receive.

Additional entry requirements

Other

A minimum grade C or grade 4 pass in GCSE (or equivalent) English or Welsh is a requirement for entry to all our degree schemes. Business, Mathematics, Psychology and Science degree schemes also require a minimum grade C or grade 4 pass in GCSE (or equivalent).


English language requirements

TestGradeAdditional details
Cambridge English AdvancedB
Cambridge English ProficiencyC
IELTS (Academic)6.5With minimum 5.5 in each component.
PTE Academic62With minimum scores of 51 in each component.
TOEFL (iBT)88With minimum scores in components as follows: Listening 21; Writing 21; Reading 22; Speaking 23.

If you are an international student needing more information about the English Language requirement for your course (e.g. country-specific English Language tests, Partner Institution tests, EU/EEA English Language qualifications where the school curriculum is taught in a native language) please contact the Undergraduate Admissions Office for further advice.


Student Outcomes

Operated by the Office for Students
55%
Employment after 15 months (Most common jobs)
100%
Go onto work and study

The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1
Republic of Ireland £9000 Year 1
EU £15375 Year 1
International £15375 Year 1

Additional fee information

The UK and Welsh Governments have confirmed that EU students commencing their studies in the academic year 2021/22 will no longer be eligible for home fee status. Fees for EU students will therefore be charged in line with international fees from 2021/22 onwards. Please note Irish nationals will continue to be eligible for home fee status and support by the Welsh Government under the Common Travel Area arrangement

Sponsorship information

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig pecyn gwerthfawr o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gynorthwyo myfyrwyr. Mae ein cystadleuaeth Ysgoloriaeth Mynediad hirsefydlog yn golygu y gallech gael hyd at £2,000 y flwyddyn tuag at eich costau byw a’ch costau astudio. Gallwch gyfuno Ysgoloriaeth Mynediad gydag unrhyw un, neu â’n holl wobrau eraill, i wneud eich pecyn ariannol yn fwy gwerthfawr. Mae’n ein gwobrau’n cynnwys Bwrsariaeth Aberystwyth, sy’n dibynnu ar brawf modd, yr Ysgoloriaethau Chwaraeon a Cherddoriaeth, bwrsariaethau i rai sy’n gadael gofal/gofalwyr ifainc/myfyrwyr dieithredig ac ystod o wobrau adrannol-benodol. Ewch i’n gwefan i gael y manylion llawn.

Cymraeg (i fyfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith) at Aberystwyth University - UCAS