Addysg Gynradd Yn arwain at Statws Athro Cymwysedig at Bangor University - UCAS

Bangor University

Degree level: Undergraduate

Addysg Gynradd Yn arwain at Statws Athro Cymwysedig

Course summary

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o sut mae plant yn dysgu a'r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu i fod yn athro/athrawes arloesol a chreadigol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc. Mae’r lleoliadau ysgol mewn amrywiaeth eang o leoliadau. yn cynnwys ysgolion trefol a gwledig, ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig lle cewch gefnogaeth gan staff profiadol i ddysgu sut i baratoi cynlluniau gwaith priodol ac ystyried strategaethau asesu ac adrodd. Mae'r radd gyffrous hon gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn eich hyfforddi fel athro cynradd wedi’ch cymhwyso’n arbennig i addysgu yng Nghymru ac mae'r un mor ddilys i'r rhai sydd eisiau dysgu yng ngweddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae'n amser gwych i ddod i astudio i fod yn athro yng Nghymru. Mae addysg yng Nghymru yn cychwyn ar oes newydd gyffrous ac yn datblygu cwricwlwm o'r radd flaenaf i ysgolion. Mae Prifysgol Bangor, sydd ag enw rhagorol hirsefydlog am hyfforddiant ac addysg athrawon, mewn partneriaeth ag ysgolion o ansawdd uchel yng ngogledd Cymru sydd wedi chwarae rhan bwysig yn cynllunio'r cwrs y byddwch yn ei astudio. Cyflwynir y cwrs hwn fel rhan o'r Bartneriaeth CaBan rhwng ysgolion, Prifysgol Bangor, Consortiwm Rhanbarthol GwE a sefydliad ymchwil CIEREI. Gyda'n gilydd rydym yn rhannu'r nod cyffredin o addysgu'r genhedlaeth nesaf o addysgwyr o safon ryngwladol, a hynny o addysg gychwynnol athrawon hyd at ddysgu proffesiynol parhaus ar hyd eu gyrfa. Mae gan ein hysgolion partner fentoriaid sydd wedi'u hyfforddi'n dda a fydd yn cefnogi eich cynnydd tuag at fod yn athro rhagorol ac arloesol. Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff ysgolion yn cynnig cefnogaeth ragorol a sesiynau dysgu ysgogol yn y brifysgol ac yn yr ysgol ar leoliad. Bydd myfyrwyr ar y cwrs cyfrwng Cymraeg hwn yn cael eu gosod mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a byddwn yn eich cefnogi a'ch annog i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach mewn lleoliad addysgol trwy gydol y cwrs. Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.

Modules

For details of the modular structure, please see the course description on Bangor University's website.

Qualified teacher status (QTS)

To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:

  • Primary

How to apply

Application codes

Course code:
X130
Institution code:
B06
Campus name:
Main Site
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Pwysig: • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol o ran ceisio gwella eu defnydd personol o'r Gymraeg. • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestr rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. • Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth. Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion sylfaenol iaith Saesneg - Lefel 7 IELTS yn gyffredinol (heb unrhyw elfen dan 6.5)). Manylion yma: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements

Additional entry requirements

Health checks

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)

Interview


English language requirements

For the most up-to-date information on acceptable English Language proficiency qualifications, please visit our webpage below.

https://www.bangor.ac.uk/international/future/englishlanguage


Student Outcomes

Operated by the Office for Students
85%
Employment after 15 months (Most common jobs)
90%
Go onto work and study

The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

Republic of Ireland £9000 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1

Additional fee information

Tuition fees and scholarship information for International applicants can be found here: https://www.bangor.ac.uk/international/tuition
Addysg Gynradd Yn arwain at Statws Athro Cymwysedig at Bangor University - UCAS