Course summary
Mae rhaglen LLB y Gyfraith a'r Gymraeg yn heriol ac yn gyffrous ac yn rhoi cyfle i chi feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y gyfraith ac amrywiaeth eang o broffesiynau. Yn ogystal â'r modiwlau sylfaen sy'n cynnwys y cam hyfforddi academaidd sydd ei angen er mwyn dod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, y cyfeirir ato fel 'Gradd Gymhwyso yn y Gyfraith', rydym yn cynnig amrywiaeth eang o feysydd astudio dewisol sy'n cwmpasu pynciau cyfreithiol traddodiadol a chyfoes. Mae’r rhaglen yn cael ei haddysgu ar y cyd gan ysgolion y Gymraeg, a’r Gyfraith a Gwleidyddiaeth, gan roi cyfle i chi astudio’n fanwl yn naill ddisgyblaeth a’r llall. Mae ein gradd yn eich galluogi chi i gwblhau cyfnodau academaidd hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr ac i symud ymlaen yn syth at y cyfnodau hyfforddi galwedigaethol ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr: y Cwrs Hyfforddiant Bar Proffesiynol neu'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol. Ni yw’r unig Brifysgol yng Ngrŵp Russell i gynnig y ddau gwrs hyn, sydd yn golygu bod gennych y dewis i aros gyda ni yng Nghaerdydd i gwblhau eich addysg gyfreithiol gyfan. Yn rheolaidd, mae’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol wedi cael sgôr uchaf yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr / Cymdeithas y Gyfraith. Mae datganoli Llywodraeth Cymru a chyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg wedi golygu bod y gallu i siarad a deall Cymraeg at lefel uchel yn ddeniadol i gyflogwyr. Mae astudio yng Nghaerdydd yn gyfle i elwa ar ymchwil sy’n berthnasol i’r gymdeithas sy'n cyfrannu at ddatblygiad y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain. Nodweddion nodedig Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu eich cyflogadwyedd, gydag ein Hymgynghorydd Gyrfaoedd pwrpasol wrth law ddau ddiwrnod yr wythnos yn adeilad y Gyfraith. Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol, rhai sy’n unigryw i Brifysgol Caerdydd, sydd yn rhoi mantais gystadleuol i’n myfyrwyr. Cynlluniau Pro Bono* Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau a sefydliadau gwirfoddol i roi'r cyfle i fyfyrwyr ymarfer ac ehangu eu sgiliau. Dau o’n cynlluniau mwyaf sefydledig yw ein Prosiect Dieuog (y cyntaf yn y DU i wrthdroi dyfarniad o euogrwydd gan y Llys Apêl) a’n Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG sy’n unigryw i Gaerdydd. Mae’r ddwy fenter wedi ennill neu wedi cael lle ar restr fer dyfarniadau cenedlaethol o fri ac wedi rhoi cymorth i grwpiau bregus ac aelodau o’r gymuned sy’n cael trafferth cael mynediad at gymorth cyfreithiol. Gallwch hefyd wneud cais am le ar ein cynllun gydag Undeb Rygbi Cymru, lle’r ydym yn cynghori clybiau rygbi amatur ar faterion cyfreithiol. Mae’r broses ymgeisio ar gyfer pob un o'n cynlluniau yn wahanol ac ni allwn warantu y bydd myfyrwyr yn sicrhau lle ar y cynllun o'u dewis, nac ar unrhyw un o'n cynlluniau. Mae ein portffolio yn cael ei adolygu'n rheolaidd ac mae’r hyn rydym yn ei gynnig yn gallu newid. Ymryson (Mooting) Caiff ein myfyrwyr eu hannog i gystadlu mewn cystadlaethau ymryson blynyddol. Mae'r cystadlaethau hyn yn rhoi cyfle i chi gyflwyno materion cyfreithiol gerbron barnwr, yn erbyn cwnsler sy’n gwrthwynebu. Mae ymryson yn sgil wych i chi ei hychwanegu at eich CV ac mae’n rhoi profiad gwerthfawr o siarad yn gyhoeddus mewn lleoliad ffurfiol. Cystadleuaeth cyfweld â chleientiaid Anogir ein myfyrwyr i gymryd rhan mewn cystadleuaeth cyfweld cleientiaid flynyddol, gyda Syr Geoffrey Bindman QC yn Llywydd arni. Byddwch yn meithrin profiad cyfweld a chwnsela mewn lleoliad ffug a byddwch yn cael eich asesu yn erbyn meini prawf asesu penodol sy’n cynnwys sgiliau rhyngbersonol a’ch gallu i ddelio gyda phroblemau cyfreithiol.
How to apply
This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application codes
- Course code:
- MQ15
- Institution code:
- C15
- Campus name:
- Main Site - Cardiff
- Campus code:
- -
Points of entry
The following entry points are available for this course:
- Year 1
Entry requirements
Qualification requirements
UCAS Tariff - Not accepted
A level - AAA - AAB
Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)
International Baccalaureate Diploma Programme - 34 - 36 points
Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)
Extended Project - A
GCSE/National 4/National 5
T Level
If you’d like to progress to either the Legal Practice Course or the Bar Training Course after you graduate, we urge you to first read the fitness to practise requirements of the relevant professional body to make sure you’d be eligible to register with them: - Bar Standards Board handbook - Solicitors Regulation Authority period of recognised training We do not accept Critical Thinking, General Studies, Citizenship Studies, or other similar equivalent subjects. We will accept a combination of BTEC subjects, A-levels, and other qualifications, subject to the course specific grade and subject requirements.
English language requirements
All applicants are expected to have demonstrable English language skills. Most courses ask for GCSE English grade C/4 or equivalent, but some courses ask for GCSE English grade B/6 or equivalent.
To find out more, please go to:
https://www.cardiff.ac.uk/study/international/english-language-requirements/undergraduate
Student Outcomes
The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.
Fees and funding
Tuition fees
Republic of Ireland | £9000 | Year 1 |
Channel Islands | £9000 | Year 1 |
EU | £22700 | Year 1 |
England | £9000 | Year 1 |
Northern Ireland | £9000 | Year 1 |
Scotland | £9000 | Year 1 |
Wales | £9000 | Year 1 |
International | £22700 | Year 1 |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .
Additional fee information
Sponsorship information
Mae llawer o ysgoloriaethau ar gael i ddarpar fyfyrwyr. Ewch i https://www.cardiff.ac.uk/cy/study/undergraduate/funding/scholarships i gael rhagor o wybodaeth.
Provider information
Cardiff University
PO Box 921
Cardiff
CF10 3XQ