Addysg Gorfforol at University of Wales Trinity Saint David - UCAS

Course options

Course summary

Dyluniwyd y radd hon i fyfyrwyr sydd wedi nodi addysgu Addysg Gorfforol (cynradd neu uwchradd), neu chwaraeon ieuenctid, fel llwybr gyrfaol posibl iddynt yn y dyfodol.Mae holl feysydd ymarferol profiad a nodir yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gorfforol yn cael eu cynnwys fel modylau craidd neu ddewisol. Yn ogystal â’r cynnwys academaidd a astudir, mae holl feysydd ymarferol profiad a nodir yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gorfforol yn cael eu cynnwys fel modylau craidd neu ddewisol. Mae’r radd hon yn eich paratoi ar gyfer cymhwyster ôl-raddedig mewn addysgu a gyrfa ddilynol mewn addysg. Fel arall, wedi cwblhau’r radd, mae llawer o raddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd ym maes chwaraeon ieuenctid a gweithgarwch corfforol. Gallwch astudio 40 credyd o’r cwrs yma drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwch astudio 80 credyd o’r cyrsiau yma drwy gyfrwng y Gymraeg.

Modules

Blwyddyn Un – Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA) Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth (20 credyd; gorfodol; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion) Addysgol Greadigol trwy Symudiad (20 credyd; gorfodol) Hwyluso Gweithgareddau Anturus (20 credyd; gorfodol) Ffisioleg a Ffitrwydd Dynol (20 credyd; dewisol) Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd ac Ymarfer Corff (20 credyd; dewisol) Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion) Addysg Gorfforol a Gweithgareddau Dyfrol (20 credyd; gorfodol). Blwyddyn Dau – Lefel 5 (Dip AU a BA) Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (20 credyd; gorfodol; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion) Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion) Gweithgareddau Cystadleuol: Ymagwedd Seiliedig ar Fodelau (20 credyd; gorfodol) Ffisioleg Ymarfer Corff (20 credyd; dewisol) Sylfeini mewn Dysgu Corfforol ac Awyr Agored o Ansawdd Uchel (20 credyd; gorfodol) Iechyd a Llesiant mewn Addysg (20 credyd; gorfodol) Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (20 credyd; dewisol). Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA) Asesu mewn Addysg Gorfforol (20 credyd; gorfodol) Addysgeg Hyfforddi (20 credyd; dewisol) Antur Cwricwlwm (20 credyd; gorfodol) Addysg, Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (20 credyd; gorfodol) Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion) Safbwyntiau mewn Iechyd a Gweithgarwch Corfforol (20 credyd; dewisol).

Assessment method

Yn unol â'r athroniaeth sy'n tanategu'r radd, rhoddir pwyslais cryf ar ddulliau dysgu ac addysgu wrth asesu modylau. Er bod perfformiad personol o ansawdd da yn cael ei annog, nid yw’n ffocws asesiadau’r modylau ymarferol eu natur. Yn lle hyn, caiff materion cynhwysiant, hawl a gwahaniaethu eu mewnosod yn llawer o’r asesiadau, a bydd rhaid i fyfyrwyr gynllunio a gwerthuso eu haddysgu nhw eu hunain ac eraill. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno dadl gytbwys â thystiolaeth trwy eu gwaith ysgrifenedig ffurfiol, yn ogystal â thrwy cyflwyniadau unigol a grŵp. Yn y flwyddyn olaf, bydd myfyrwyr yn dylunio a chynnal eu prosiect ymchwil neu bortffolio beirniadol eu hunain mewn maes arbenigol o’u dewis. Ymhlith y mathau penodol o asesiad mae: traethodau; adroddiad labordy; cyflwyniadau (grŵp ac unigol); tasgau ymarferol; a, arholiadau (papurau a welwyd ac na welwyd).


How to apply

Application codes

Course code:
XC96
Institution code:
T80
Campus name:
Carmarthen Campus
Campus code:
C

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

Additional entry requirements

Audition

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)

Interview


Student Outcomes

Operated by the Office for Students

There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

EU £9000 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1
International £13500 Year 1

Additional fee information

No additional fees or cost information has been supplied for this course, please contact the provider directly.
Addysg Gorfforol at University of Wales Trinity Saint David - UCAS