Course summary
Mae’r Theatr Gerddorol (BA) yn rhaglen unigryw a addysgir yn ddwys dros gyfnod o ddwy flynedd, sy’n cynnig hyfforddiant ymarferol a fydd yn cymhwyso cyfranogwyr yn y disgyblaethau triphlyg, actio, canu a dawnsio. Trwy weithio gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant, bydd y BA Theatr Gerddorol yn cynnig i berfformwyr ifanc gwrs astudio rhagorol ag iddo ffocws penodol sy’n berthnasol i’r diwydiant. Mae athrawon y cwrs wedi ymrwymo i ddatblygu artistiaid creadigol, sy’n meddwl yn annibynnol; artistiaid perthnasol i’r diwydiant. Mae pob aelod o’n staff addysgu yn weithwyr proffesiynol ym myd y theatr ac yn gweithio mewn addysg uwch yn ogystal â’r diwydiant. Dymuna’r Drindod Dewi Sant Caerdydd weld y cwrs hwn yn darparu graddedigion proffesiynol dawnus a chlir eu ffocws ar gyfer llwyfannau ledled Cymru a thu hwnt. Mae strwythur y cwrs yn uchelgeisiol ac mae’r profiadau mae’r myfyrwyr yn eu cael yn gyfoethog, yn amserol ac yn amrywiol, a fydd yn sicrhau eu bod yn cael eu paratoi’n drylwyr ar gyfer gyrfa ym maes y Theatr Gerddorol.
Modules
Ar ôl cwblhau’r modwl hwn yn llwyddiannus, dylai’r myfyriwr allu: Dangos yr amrywiaeth angenrheidiol o sgiliau a amlinellir ym mhob un o’r modylau eraill i safon y diwydiant; Cynhyrchu portffolio o ddeunydd addas i fynd i mewn i’r proffesiwn Gwerthuso’n feirniadol eu cryfderau a’u gwendidau; Prosiect Annibynnol (40 credyd) Nod y modiwl yw datblygu gallu y myfyrwyr i fynd i’r afael yn feirniadol ac yn arloesol â theori a/neu arfer sy’n berthnasol i’r meysydd pwnc a astudir ganddynt er mwyn llunio prosiect manwl sy’n benodol i’w disgyblaeth. Ar ôl cwblhau’r modwl hwn yn llwyddiannus, dylai’r myfyriwr allu: Arddangos sgiliau deallusol wrth ddynodi pwnc, problem neu her briodol i’w harchwilio sy’n berthnasol i’w maes astudio a ffurfio cynllun addas i’w ymchwilio ymhellach gan ddefnyddio dulliau archwiliadol perthnasol er mwyn llunio ymateb. Dangos gwybodaeth fanwl a dealltwriaeth feirniadol o’r egwyddorion sy’n angenrheidiol i ategu eu haddysg o fewn eu maes astudio dewisol a thechnegau datrys problemau sy’n berthnasol i hyn. Dangos meddwl annibynnol a gwerthuso beirniadol wrth lunio darn o waith annibynnol, gan arddangos sgiliau trosglwyddadwy trwy ddefnyddio menter a chyfrifoldeb personol wrth gynllunio eu dysgu eu hunain a’u hunanreolaeth. Trefnu eu gwybodaeth a’u dysgu trwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau, a chyflwyno’u gwaith yn briodol mewn ffordd sy’n ddealladwy i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
Assessment method
Perfformiadau/digwyddiadau Mae myfyrwyr yn cael cyfle yn rheolaidd i gymryd rhan mewn perfformiadau/ digwyddiadau trwy gydol eu gradd, lle gwelwn eu sgiliau a’u gwybodaeth yn cynyddu ac yn cael eu cymhwyso. Tiwtorialau rheolaidd Rydym yn cynnal tiwtorialau ffurfiol ac anffurfiol trwy gydol y radd lle mae pob myfyriwr yn trafod ei waith gyda’r tiwtor modwl neu’r Cyfarwyddwr Rhaglen. Edrychwn ar ddatblygiad ymarferol, twf cysyniadol a bwriadau i’r dyfodol. Cyflwyniadau Cynhelir cyflwyniadau fel arfer ar ddiwedd modwl, arddangosfa neu berfformiad, er mwyn mesur perfformiad myfyriwr yn erbyn meini prawf asesu. Gweithlyfrau proses Bydd myfyrwyr yn cofnodi eu proses a’u gwaith ymarferol mewn gweithlyfr sy’n dangos eu dysgu a’u llwybr unigol.
How to apply
This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application codes
- Course code:
- THG2
- Institution code:
- T80
- Campus name:
- Cardiff (Caerdydd)
- Campus code:
- F
Points of entry
The following entry points are available for this course:
- Year 1
Entry requirements
Qualification requirements
Unistats information
There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.
Fees and funding
Tuition fees
EU | £9000 | Year 1 |
England | £9000 | Year 1 |
Northern Ireland | £9000 | Year 1 |
Scotland | £9000 | Year 1 |
Wales | £9000 | Year 1 |
Channel Islands | £9000 | Year 1 |
International | £13500 | Year 1 |
Additional fee information
Provider information
University of Wales Trinity Saint David
College Road
Carmarthen
SA31 3EP