Rheoli Busnes gyda’r Gymraeg at Cardiff University - UCAS

Cardiff University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Cardiff University (Prifysgol Caerdydd)

Rheoli Busnes gyda’r Gymraeg

Course options

Course summary

Mae’r cwrs BSc Rheoli Busnes a’r Gymraeg yn un arloesol a modern sy’n ceisio cyfuno prif elfennau gradd Rheoli Busnes ag astudio’r Gymraeg a diwylliant Cymru ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyfleoedd o fewn y farchnad lafur newidiol yng Nghymru. Bwriedir i’r cyfuniad hwn gwella amrywiaeth y cyfleoedd gwaith proffesiynol sydd ar gael i raddedigion wrth roi addysg amlddisgyblaethol ac eang ym meysydd Rheoli Busnes a’r Gymraeg, yn ogystal â chynnig opsiynau hyblyg i fyfyrwyr sydd am ddilyn pynciau gwahanol sy’n datblygu sgiliau iaith. Drwy astudio Rheoli Busnes, byddwch yn meithrin gwybodaeth drylwyr am y prif ddisgyblaethau sy’n berthnasol i reoli a busnes, ynghyd â gwerthfawrogiad o’r gwahanol feysydd swyddogaethol sy’n rhan o sefydliadau busnes. Felly, byddwch yn datblygu craidd cadarn o wybodaeth ym maes Rheoli Busnes a fydd yn eich galluogi i adeiladu ar sylfeini cryf i arbenigo mewn meysydd sy’n ennyn eich diddordeb ac yn adlewyrchu eich dyheadau o ran gyrfa. Drwy astudio’r Gymraeg, byddwch yn datblygu sgiliau lefel uchel yn yr iaith ei hun, yn ogystal â datblygu dealltwriaeth drylwyr o’i lle yn y Gymru gyfoes. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, cewch gyfle i ddatblygu arbenigedd drwy ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol. Mae'r rhain yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd sy’n arbennig o berthnasol i reoli a busnes, gan gynnwys cynllunio ieithyddol a pholisi iaith, cymdeithaseg iaith, sosioieithyddiaeth, technoleg iaith a chyfieithu proffesiynol, yn ogystal â phynciau llenyddol, ieithyddol a diwylliannol. Mae’r Ysgol Busnes yn darparu ar gyfer myfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa mewn busnes a rheoli, gan adlewyrchu ehangder ein harbenigedd ymchwil a datblygiadau cyfredol yn y byd busnes. Mae cyfres o gyrsiau ar gael i’w gwneud ym maes Rheoli Busnes, ac mae'r cynllun newydd hwn yn ychwanegu at ein portffolio ac yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr astudio'r Gymraeg ochr yn ochr â Rheoli Busnes. Mae Cymraeg yn ddisgyblaeth ddeinamig ac amrywiol, ac mae'r ystod eang o fodiwlau arbenigol a gynigir gan yr Ysgol yn adlewyrchu ei chyfoeth. Mae llawer o feysydd dan sylw wrth astudio’r Gymraeg sydd, yn naturiol, yn ategu astudio busnes a rheoli, fel cynllunio ieithyddol (yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector), polisi iaith a thechnoleg iaith. Agwedd werthfawr arall ar ddarpariaeth yr Ysgol ar gyfer israddedigion yw'r ffordd y mae modiwlau llenyddol, diwylliannol a chreadigol yn pwysleisio cyd-destun diwylliannol ehangach y Gymraeg. Mae modiwlau mewn ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth plant a threftadaeth a thwristiaeth, er enghraifft, yn cyfuno gwybodaeth am bwnc arbenigol, y cyd-destun diwylliannol a sgiliau perthnasol er mwyn cyfoethogi dealltwriaeth myfyrwyr o’r Gymraeg yn y Gymru gyfoes. Gallai modiwlau o'r fath fod yn arbennig o berthnasol i fyfyrwyr sydd o bosibl am ddatblygu gyrfa yn y diwydiant creadigol, y diwydiant cyhoeddi neu’r diwydiant treftadaeth, er enghraifft. Mae Ysgol y Gymraeg hefyd yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau llenyddol, diwylliannol a chreadigol i fyfyrwyr sydd o bosibl am ddatblygu gyrfa yn y diwydiant cyhoeddi neu’r diwydiant treftadaeth, er enghraifft. A hithau’n adnabyddus am ansawdd ac effaith ei hymchwil, mae darpariaeth yr Ysgol yn y Gymraeg ar gyfer israddedigion wedi’i chynllunio i fod yn berthnasol i’r Gymru gyfoes. Mae Ysgol y Gymraeg yn ceisio cynhyrchu graddedigion dwyieithog a galluog â dealltwriaeth drwyadl o'r iaith Gymraeg, ei diwylliant a'i lle mewn cymdeithas fodern. Bydd gan raddedigion y cwrs Rheoli Busnes a’r Gymraeg sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol da iawn, wedi’u cyfuno â chraffter busnes dwyieithog sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr yn y gweithle cystadleuol sydd ohoni. Bydd myfyrwyr sy’n gwneud y cwrs hwn yn gymwys i wneud cais am Ysgoloriaeth Cymhelliant o £500 y flwyddyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan y byddant yn astudio o leiaf 33% (40 o gredydau’r flwyddyn) o bwnc yr ysgoloriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.


How to apply

Application codes

Course code:
NQ26
Institution code:
C15
Campus name:
Main Site - Cardiff
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

We do not accept Critical Thinking, General Studies, Citizenship Studies, or other similar equivalent subjects. We will accept a combination of BTEC subjects, A-levels, and other qualifications, subject to the course specific grade and subject requirements.


English language requirements

All applicants are expected to have demonstrable English language skills. Most courses ask for GCSE English grade C/4 or equivalent, but some courses ask for GCSE English grade B/6 or equivalent.

To find out more, please go to:

https://www.cardiff.ac.uk/study/international/english-language-requirements/undergraduate


Student Outcomes

Operated by the Office for Students
74%
Employment after 15 months (Most common jobs)
100%
Go onto work and study

The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

Republic of Ireland £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1
EU £22700 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
International £22700 Year 1

Additional fee information

Students from the UK and Islands: Fees stated are for the 2024/25 academic year. The University reserves the right to increase tuition fees in the second and subsequent years of a course as permitted by law or Welsh Government policy. Where applicable we will notify you of any change in tuition fee by the end of June in the academic year before the one in which the fee will increase. Fees for entry in subsequent years are subject to increase and will be confirmed by the end of October in the year preceding your start date of your programme. Tuition fees cover all reasonable costs required for you to complete to the degree programme stated. Please note that you may choose to participate in study trips, associated placements or purchase equipment while studying on your degree programme which will be at your own cost. Tuition fees do not include living costs such as accommodation, subsistence or travel. Students from the EU, EEA, and Switzerland: If you are an EU/EEA/Swiss national, unless you qualify for UK fee status, tuition fees for 2024/25 will be in line with the fees charged for international students. You can check whether you are eligible for UK (Home) fee status on the UKCISA website: https://www.ukcisa.org.uk/Information--Advice/Fees-and-Money/Wales-fee-status#layer-6099 Students from the rest of the world (international): Fees stated are for 2024/25 entry and are fixed for the duration of the programme, excluding Medicine and Dentistry programmes. Please note that during the pre-clinical element of Medicine and Dentistry programmes the fee rate will be fixed, after which the clinical fee rate will be charged. Further details are available on the university website at: http://www.cardiff.ac.uk/study/international/funding-and-fees Fees for entry in subsequent years are subject to increase and will be confirmed by the end of October in the year preceding your start date of your programme. Tuition fees cover all reasonable costs required for you to complete the degree programme stated. Please note that you may choose to participate in study trips, associated placements or purchase equipment while studying on your degree programme which will be at your own cost. Tuition fees do not include living costs such as accommodation, subsistence or travel.

Sponsorship information

Mae llawer o ysgoloriaethau ar gael i ddarpar fyfyrwyr. Ewch i https://www.cardiff.ac.uk/cy/study/undergraduate/funding/scholarships i gael rhagor o wybodaeth.

Rheoli Busnes gyda’r Gymraeg at Cardiff University - UCAS