Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar at University of Wales Trinity Saint David - UCAS

University of Wales Trinity Saint David

Degree level: Undergraduate
Awarded by: University of Wales Trinity Saint David (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant)

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar

There are other course options available which may have a different vacancy status or entry requirements – view the full list of options

Course summary

Mae’n bosibl astudio'r cwrs hwn ar gampws SA1 Abertawe neu ar ein campws yng Nghaerfyrddin, yn ddibynnol ar ba leoliad sy’n well gan y myfyriwr. Mae Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (2 flynedd) wedi'i llunio ar gyfer y rheini sydd eisoes yn gweithio yn y sector addysg a gofal plant, ac mae’n caniatáu iddynt astudio’n hyblyg o gwmpas eu hymrwymiadau gwaith. Mae hon yn rhaglen radd lawn amser, arloesol sydd wedi’i chywasgu i ddwy flynedd ac wedi’i chynnwys yn rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o gymwysterau gofynnol i weithio o fewn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus yn cael gradd yn ogystal â thrwydded i ymarfer o fewn ystod o sefydliadau blynyddoedd cynnar. Bydd darlithoedd yn cael eu cyflwyno gyda’r hwyr ac ar ambell ddydd Sadwrn er mwyn galluogi myfyrwyr i barhau i weithio tra byddant yn cwblhau eu gradd. Yn gysylltiedig ag agwedd ymarferol y rhaglen, bydd myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o arfer a damcaniaeth addysg a gofal blynyddoedd cynnar a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth lawn a chytbwys o’r pwnc. Datblygwyd y rhaglen er mwyn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu am bob agwedd ar addysg a gofal plant ifanc. Mae’r rhaglen yn rhoi cyfleoedd i gysylltu gweithgareddau ymarferol a phrofiadau yn yr amgylchedd gwaith â damcaniaethau’n gysylltiedig ag addysg a gofal plant. Bydd y dysgu’n digwydd drwy drafodaethau grŵp, gweithdai, ymweliadau astudio yn ogystal â darlithoedd er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o bynciau perthnasol. Mae pwyslais ar ddysgu ymarferol er mwyn cefnogi dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng damcaniaeth ac arfer o fewn y blynyddoedd cynnar. Hefyd mae ymweliadau preswyl dewisol ag ardaloedd eraill o’r DU a thramor.

Modules

Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA) Chwarae plant: Damcaniaeth ac Arfer (20 credyd; gorfodol) Datblygiad Dynol (20 credyd; gorfodol) Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion) Amlieithrwydd, Aml-feddwl (20 credyd; gorfodol) Y 1,000 Diwrnod Cyntaf (20 credyd; gorfodol) Yr Ymarferydd Proffesiynol (20 credyd; gorfodol). Lefel 5 (Dip AU a BA) Ennyn Parch a Rhyfeddod – Mathemateg, Gwyddoniaeth a’r Awyr Agored (20 credyd; gorfodol) Iaith a Llythrennedd yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol) Arweinyddiaeth a Gwaith Tîm yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol) Ymchwil ar gyfer Dysgu (20 credyd; gorfodol) Diogelu: Arfer, Deddfwriaeth a’r Tîm Aml-ddisgyblaeth (20 credyd; gorfodol) Llesiant, Gofal a Byw yn Iach (20 credyd; gorfodol). Lefel 6 (BA) Arweinyddiaeth Gatalytig – Hawliau, Gwydnwch a Newid Cymdeithasol (20 credyd; gorfodol) Cwricwla’r Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol) Arweinyddiaeth Gynhwysol Gweithio gyda’n gilydd i Gefnogi Teuluoedd (20 credyd; gorfodol) Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Systemau Ansawdd (20 credyd; gorfodol) Adennill Paradwys? Cynaliadwyedd yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol) Cynorthwyo Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (20 credyd; gorfodol).

Assessment method

Mae’r rhaglen yn cael ei hasesu 100% drwy waith cwrs. Nid oes unrhyw arholiadau. Rydym ni wedi gweld bod defnyddio ystod amrywiol o ddulliau asesu’n cynyddu sgiliau cyflogadwyedd. Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu datrys problemau ac sydd ag ystod o sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy. Mae’r asesu’n rhoi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis y gallu i weithio mewn tîm, cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ar yr un pryd â defnyddio ystod o ddulliau o rannu gwybodaeth yn cynnwys papurau briffio, posteri academaidd, dadleuon grŵp a thrafodaethau proffesiynol. Hefyd ceir cyfleoedd am brofiadau gwaith ymarferol, gan gefnogi cyflogadwyedd, datblygiad proffesiynol a gyrfaoedd. Mae astudiaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn ganolog i’n darpariaeth; gallwch ddewis cofrestru ar y rhaglen cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg a gallwch gyflwyno’ch aseiniadau yn y naill iaith neu’r llall.


How to apply

Application codes

Course code:
YBC2
Institution code:
T80
Campus name:
Carmarthen Campus
Campus code:
C

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

This course may be available at alternative locations, please check if other course options are available

Entry requirements

Qualification requirements

Additional entry requirements

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)

Other

Work Experience


Fees and funding

Tuition fees

EU £9000 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1
International £13500 Year 1

Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .

Additional fee information

No additional fees or cost information has been supplied for this course, please contact the provider directly.
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar at University of Wales Trinity Saint David - UCAS