Course summary
Diben rhaglenni Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) (PgDip, MA) yw arfogi myfyrwyr â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth i ddod yn weithwyr ieuenctid effeithiol sydd â chymwysterau proffesiynol. Caiff y rhaglenni eu hardystio'n broffesiynol gan ETS Cymru, gan gynnig cymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Ieuenctid. Gweledigaeth y rhaglenni yw creu ymarferwyr ac arweinwyr effeithiol ac adfyfyriol, ac mae'r rhaglen yn herio myfyrwyr i fagu mwy a mwy o annibyniaeth wrth nodi eu hanghenion dysgu a datblygu eu hunain. 5 Rheswm dros astudio 1. Ennill cymhwyster sy'n cael ei gymeradwyo'n *broffesiynol a chymhwyster ôl-raddedig academaidd 2. Archwilio ymarfer gyda phobl ifanc a'u cymunedau trwy gymryd rhan mewn cyfleoedd lleoliadau gwaith ieuenctid ymhlith ystod eang o bobl ifanc a lleoliadau cymunedol. 3. Y Drindod Dewi Sant yw’r unig le y gallwch astudio’r radd hon trwy gyfrwng y Gymraeg. 4. Staff brwdfrydig, cefnogol a dwyieithog sy’n weithwyr proffesiynol cymwys yn eu maes a chanddynt arbenigedd cydnabyddedig. 5. Pwyslais ar ddatblygiad personol a chymdeithasol unigol. Mae myfyrwyr hefyd yn elwa o gael eu haddysgu mewn grwpiau bach mewn amgylchedd dysgu cefnogol.
Modules
Lefel 7 Diploma Ôl-raddedig • Arfer Proffesiynol 1: Theori, Polisi ac Arfer Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (30 credyd; craidd) • Arfer Proffesiynol 2: Pobl Ifanc a Chymdeithas mewn Ffocws (30 credyd; craidd) • Athroniaeth ac Arfer Ymchwil Cymdeithasol (30 credyd; gorfodol). Yn ogystal bydd myfyrwyr yn dewis un o’r modylau dewisol canlynol: • Goruchwylio, Arwain a Rheoli i Weithwyr Proffesiynol (30 credyd; dewisol) • Arwain Hawliau Plant: Datblygu Arfer Proffesiynol (30 credyd; dewisol) • Cymunedau Cynaliadwy (30 credyd; dewisol). MA Yn ogystal â’r themâu uchod bydd yn ofynnol i’r myfyrwyr astudio: • Traethawd Hir (60 credyd; gorfodol).
Entry requirements
Bydd gofyn i ymgeiswyr ddarparu dogfen datgeliad manylach foddhaol ar gyfer y Gweithlu Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Fel arfer bydd gofyn bod gan ymgeiswyr radd anrhydedd. Caiff ymgeiswyr sydd â chymwysterau a phrofiadau galwedigaethol hefyd eu hystyried. O ganlyniad i gymeradwyaeth broffesiynol y rhaglen radd, rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf 200 awr o brofiad o Waith Ieuenctid diweddar a pherthnasol.
Fees and funding
Tuition fees
EU | £7800 | Whole course |
England | £7800 | Whole course |
Northern Ireland | £7800 | Whole course |
Scotland | £7800 | Whole course |
Wales | £7800 | Whole course |
Channel Islands | £7800 | Whole course |
International | £15000 | Whole course |
Additional fee information
Provider information
University of Wales Trinity Saint David
College Road
Carmarthen
SA31 3EP