Course summary
CYMRAEG Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern. Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen ichi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa. SBAENEG Sbaeneg yw'r ail iaith fwyaf yn y byd o ran nifer ei siaradwyr. Mae mwy na 400 miliwn o bobl yn siarad Sbaeneg mewn mwy nag 20 o wledydd ledled y byd, a dyma un o’r ieithoedd mwyaf defnyddiol ym myd busnes a hamdden fel ei gilydd. Mae'n agor drysau i amrywiaeth bywiog ac amrywiol o brofiadau diwylliannol. Mae Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd yn eich galluogi chi i astudio, dadansoddi a gwerthuso datblygiadau cyfredol ar draws y byd sy'n siarad Sbaeneg, yn ogystal â diwylliannau a gwerthoedd y gorffennol. Wedi ichi astudio Sbaeneg, byddwch chi’n barod i fanteisio ar y cyfleoedd eang sy’n agored i raddedigion yr iaith heddiw Rydym ni’n cynnig Sbaeneg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr. O ran caffael iaith, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, llafar a gwrando drwy amrywiaeth o weithgareddau dysgu, a chan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau clyweledol. Yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant Sbaen yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth ichi ddilyn eich cwrs. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn Sbaen neu mewn gwlad lle siaredir Sbaeneg, yn ymarfer ac yn datblygu eich sgiliau iaith. Mae'n bwysig cofio nad yw astudio ieithoedd yn golygu astudio’r iaith a dim arall. Mae'n golygu edrych ar sawl agwedd o'r wlad a'i diwylliant, ei strwythurau cymdeithasol a’i sefydliadau, ei gwleidyddiaeth, ei hanes, ei llenyddiaeth a'i sinema. Drwy astudio meysydd o'r fath rydych chi’n gallu cael dealltwriaeth well o ddiwylliant Sbaeneg a sut mae wedi esblygu dros y canrifoedd, gan ddatblygu i fod yr hyn ydyw heddiw. Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil diweddar. Mae pob ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i gefnogi gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr. Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych hyfedredd iaith lefel uchel yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol o lenyddiaeth, diwylliant, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Cymreig a Sbaeneg. Nodweddion nodedig CYMRAEG • y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle • modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith • ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa • y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa • y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol • y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil • y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn SBAENEG • modiwlau craidd sy’n gwarantu sylfaen gadarn i bawb, ond wedyn yn caniatáu, gyda chyngor gan eich tiwtor personol, ichi fireinio rhaglen a fydd fwyaf addas ar gyfer eich diddordebau a’ch dyheadau gyrfaol • llwybr at y radd hon i ddechreuwyr nad oes ganddynt Sbaeneg Safon Uwch • y cyfle i dreulio blwyddyn yn astudio neu’n gweithio mewn gwlad Sbaeneg ei hiaith
How to apply
This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application codes
- Course code:
- QR54
- Institution code:
- C15
- Campus name:
- Main Site - Cardiff
- Campus code:
- -
Points of entry
The following entry points are available for this course:
- Year 1
Entry requirements
Qualification requirements
UCAS Tariff - Not accepted
A level - BBB - BBC
Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)
International Baccalaureate Diploma Programme - 30 - 31 points
Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)
Extended Project - A
GCSE/National 4/National 5
T Level
Nid ydym yn derbyn Meddwl Beirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau tebyg eraill tebyg. Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Lefel A, a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc. We do not accept Critical Thinking, General Studies, Citizenship Studies, or other similar equivalent subjects. We will accept a combination of BTEC subjects, A-levels, and other qualifications, subject to the course specific grade and subject requirements.
English language requirements
All applicants are expected to have demonstrable English language skills. Most courses ask for GCSE English grade C/4 or equivalent, but some courses ask for GCSE English grade B/6 or equivalent.
To find out more, please go to:
https://www.cardiff.ac.uk/study/international/english-language-requirements/undergraduate
Student Outcomes
The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.
Fees and funding
Tuition fees
Republic of Ireland | £9000 | Year 1 |
Channel Islands | £9000 | Year 1 |
EU | £22700 | Year 1 |
England | £9000 | Year 1 |
Northern Ireland | £9000 | Year 1 |
Scotland | £9000 | Year 1 |
Wales | £9000 | Year 1 |
International | £22700 | Year 1 |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .
Additional fee information
Sponsorship information
Mae llawer o ysgoloriaethau ar gael i ddarpar fyfyrwyr. Ewch i https://www.cardiff.ac.uk/cy/study/undergraduate/funding/scholarships i gael rhagor o wybodaeth.
Provider information
Cardiff University
PO Box 921
Cardiff
CF10 3XQ
Clearing contact details
Admissions
0333 241 2800