Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar at University of Wales Trinity Saint David - UCAS

University of Wales Trinity Saint David

Degree level: Undergraduate
Awarded by: University of Wales Trinity Saint David (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant)

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar

Course options

There are other course options available which may have a different vacancy status or entry requirements – view the full list of options

Course summary

Mae’n bosibl astudio'r cwrs hwn ar gampws SA1 Abertawe neu ar ein campws yng Nghaerfyrddin, yn ddibynnol ar ba leoliad sy’n well gan y myfyriwr. Mae Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar yn rhaglen radd lawn amser dros dair blynedd sy’n cynnwys darlithoedd a phrofiad o leoliadau ymarferol. Mae’r rhaglen Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar hon wedi’i chynnwys yn rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o gymwysterau gofynnol i weithio o fewn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Yn rhan o’r rhaglen hon bydd myfyrwyr yn mynd ar leoliad mewn amrywiaeth o sefydliadau blynyddoedd cynnar i gael y profiad galwedigaethol angenrheidiol i ennill Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar. Lluniwyd yr amserlen i gefnogi myfyrwyr i gael digon o amser i gwblhau profiad lleoliadau a’r dysgu yn y Brifysgol. Gallai lleoliadau priodol gynnwys meithrinfeydd a gynhelir a rhai nas cynhelir, crèche, cylchoedd meithrin, dosbarthiadau yn y Cyfnod Sylfaen mewn ysgolion cynradd a Chanolfannau Dechrau’n Deg. Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus yn cael gradd yn ogystal â thrwydded i ymarfer o fewn ystod o sefydliadau blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrwyr yn dysgu am bob agwedd ar addysg a gofal plant ifanc, gan roi cyfleoedd i fyfyrwyr gysylltu gweithgareddau ymarferol a phrofiadau â damcaniaethau’n ymwneud â datblygiad cyfannol. Bydd y gweithgareddau dysgu’n cynnwys trafodaethau grŵp, gweithdai, ymweliadau astudio yn ogystal â darlithoedd er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o bynciau perthnasol. Mae pwyslais ar ddysgu ymarferol er mwyn cefnogi dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng damcaniaeth ac arfer o fewn y blynyddoedd cynnar. Bydd siaradwyr gwadd yn darparu cyfleoedd i glywed gan arbenigwyr sy’n arwain y sector ac yn cadw myfyrwyr yn gyfredol â pholisi a datblygiadau diweddar o fewn y sector blynyddoedd cynnar. Hefyd mae ymweliadau preswyl dewisol ag ardaloedd eraill o’r DU a thramor.

Modules

Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA) Chwarae plant: Damcaniaeth ac Arfer (20 credyd; gorfodol) Datblygiad Dynol (20 credyd; gorfodol) Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion) Amlieithrwydd, Aml-feddwl (20 credyd; gorfodol) Y 1,000 Diwrnod Cyntaf (20 credyd; gorfodol) Yr Ymarferydd Proffesiynol (20 credyd; gorfodol). Lefel 5 (Dip AU a BA) Ennyn Parch a Rhyfeddod – Mathemateg, Gwyddoniaeth a’r Awyr Agored (20 credyd; gorfodol) Iaith a Llythrennedd yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol) Arweinyddiaeth a Gwaith Tîm yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol) Ymchwil ar gyfer Dysgu (20 credyd; gorfodol) Diogelu: Arfer, Deddfwriaeth a’r Tîm Aml-ddisgyblaeth (20 credyd; gorfodol) Llesiant, Gofal a Byw yn Iach (20 credyd; gorfodol). Lefel 6 (BA) Arweinyddiaeth Gatalytig – Hawliau, Gwydnwch a Newid Cymdeithasol (20 credyd; gorfodol) Cwricwla’r Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol) Arweinyddiaeth Gynhwysol Gweithio gyda’n gilydd i Gefnogi Teuluoedd (20 credyd; gorfodol) Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Systemau Ansawdd (20 credyd; gorfodol) Adennill Paradwys? Cynaliadwyedd yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol) Cynorthwyo Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (20 credyd; gorfodol).

Assessment method

Mae’r rhaglen yn cael ei hasesu 100% drwy waith cwrs. Nid oes unrhyw arholiadau. Rydym ni wedi gweld bod defnyddio ystod amrywiol o ddulliau asesu’n cynyddu sgiliau cyflogadwyedd. Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu datrys problemau ac sydd ag ystod o sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy. Mae’r asesu’n rhoi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis y gallu i weithio mewn tîm, cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ar yr un pryd â defnyddio ystod o ddulliau o rannu gwybodaeth yn cynnwys papurau briffio, posteri academaidd, dadleuon grŵp a thrafodaethau proffesiynol. Hefyd ceir cyfleoedd am brofiadau gwaith ymarferol, gan gefnogi cyflogadwyedd, datblygiad proffesiynol a gyrfaoedd. Mae astudiaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn ganolog i’n darpariaeth; gallwch ddewis cofrestru ar y rhaglen cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg a gallwch gyflwyno’ch aseiniadau yn y naill iaith neu’r llall.


How to apply

Application codes

Please select a course option – you will then see the application code you need to use to apply for the course.

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

Additional entry requirements

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)


Student Outcomes

Operated by the Office for Students
72%
Employment after 15 months (Most common jobs)
94%
Go onto work and study

The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

EU £9000 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1
International £13500 Year 1

Additional fee information

No additional fees or cost information has been supplied for this course, please contact the provider directly.
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar at University of Wales Trinity Saint David - UCAS