Hanes a Hanes Cymru at Aberystwyth University - UCAS

Aberystwyth University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Aberystwyth University (Prifysgol Aberystwyth)

Hanes a Hanes Cymru

Course summary

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Hanes a Hanes Cymru hwn, byddi’n dewis dysgu mewn adran uchel ei pharch sy’n llwyddo i ddod â’r gorffennol yn fyw. Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn cael ei chydnabod yn un o’r prif adrannau Hanes ym Mhrydain. Bwriad y radd hon yw datblygu dy ddiddordebau hanesyddol, gan ehangu a dyfnhau dy wybodaeth a dy ddealltwriaeth o’r pwnc gan astudio elfennau penodol o hanes Cymru. Mae’r rhaglen wedi ei chynllunio i fod yn hyblyg iawn, felly mae modd teilwra’r radd Hanes a Hanes Cymru i dy ddiddordebau penodol dy hun. Fel rhan o dy radd ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n meithrin sgiliau gwerthfawr gan gynnwys y gallu i brosesu llawer iawn o wybodaeth a chyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac ar bapur. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn chwilfrydig am y gorffennol ac am y ffordd mae cymdeithas ddynol wedi esblygu dros amser. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, mae astudio hanes yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau’r byd sydd ohoni. Wrth astudio’r radd hon byddi’n astudio modiwlau hanes Cymru ac hefyd yn dewis o blith yr ystod eang o fodiwlau eraill (Hanes) a gynigir gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru. Byddi’n edrych pa effaith mae digwyddiadau’r gorffennol wedi eu cael ar y presennol ac yn meithrin sgiliau dadansoddi, dehongli a chyfathrebu, sydd mor bwysig mewn bywyd bob dydd. Bu modd astudio Hanes fel pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth ers ei sefydlu yn 1872, a thros y 140 mlynedd diwethaf rydym wedi perffeithio’r cynlluniau gradd yr ydyn ni’n eu cynnig er mwyn sicrhau dy fod yn cael y radd Hanes orau posib. Mae’r cynllun gradd mewn Hanes yn un cyffrous a diddorol. Mae diddordebau ein darlithwyr yn amrywio o’r cynfyd i’r byd modern, felly gallwn gynnig modiwlau hanes diwylliannol, economaidd, cymdeithasol a gwleidyddiol amrywiol o bob cyfnod i ti. Mae’r darlithwyr i gyd yn ymwneud â gwaith ymchwil diweddar hefyd. Yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o ymchwil a gynnalwyd yn Brifysgol Aberystwyth o safon â gydnabyddir yn rhyngwladol. Gallwn felly roi cyfle iti ddatblygu dy ddoniau a dy ddiddordebau hanesyddol drwy astudio’n agos gyda thiwtoriaid sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu mewn grwpiau bach, a bron yn unigryw am ddarparu sesiynau tiwtorial un-i-un. Bydd hyn yn fantais mawr iti fel myfyriwr. Yn ogystal â Llyfrgell wych y Brifysgol, gall myfyrwyr Hanes yn Aberystwyth fwynhau aelodaeth gyflawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau, ac mae’r cwbl o fewn pum munud i’r Adran. Bydd yr adnoddau hyn yn werthfawr dros ben wrth i ti astudio dy Bwnc Arbennig ac ysgrifennu dy draethawd estynedig yn y drydedd flwyddyn. Mae cymuned glos a chyfeillgar yn yr Adran, sydd wedi ei lleoli yng nghanol campws y Brifysgol. Rydym yn ymfalchïo yn y berthynas gyfeillgar ac anffurfiol sydd rhwng y staff a’r myfyrwyr. Mae yma Gymdeithas Hanes fywiog sydd yn trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, ymweliadau â mannau o ddiddordeb a digwyddiadau cymdeithasol drwy’r flwyddyn. Mae gennym hefyd nifer o gysylltiadau â phrifysgolion tramor, sy’n golygu y gallet fanteisio ar y cyfle i dreulio amser dramor yn mwynhau diwylliant hanesyddol gwahanol. Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau proffesiwn mewn llawer o feysydd gwahanol; Addysg; Y Gyfraith; Archifwyr; Cyhoeddwyr; Gwleidyddion; Gweision Sifil; Y Cyfryngau; Y Lluoedd Arfog; Entrepreneuriaid.


How to apply

Application codes

Course code:
VV21
Institution code:
A40
Campus name:
Main Site (Aberystwyth)
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

Applicants are selected on their individual merits and offers can vary. We allow you flexibility in meeting our entry requirements, and all qualifications that you have already gained, or are working towards, will be considered when reviewing your application. We have an inclusive policy which recognises a broad range of qualifications. The entry requirements listed above represent typical offers for some of the most popular qualifications taken by applicants. If you cannot find the qualifications that you are studying (or have previously studied) please contact our Undergraduate Admissions Office (Telephone: +44 (0)1970 622021; Email: [email protected]) for advice on your eligibility and details of the typical offer you are likely to receive.

Additional entry requirements

Other

A minimum grade C or grade 4 pass in GCSE (or equivalent) English or Welsh is a requirement for entry to all our degree schemes. Business, Mathematics, Psychology and Science degree schemes also require a minimum grade C or grade 4 pass in GCSE (or equivalent).


English language requirements

TestGradeAdditional details
Cambridge English AdvancedB
Cambridge English ProficiencyC
IELTS (Academic)6.5With minimum 5.5 in each component.
PTE Academic62With minimum scores of 51 in each component.
TOEFL (iBT)88With minimum scores in components as follows: Listening 21; Writing 21; Reading 22; Speaking 23.

If you are an international student needing more information about the English Language requirement for your course (e.g. country-specific English Language tests, Partner Institution tests, EU/EEA English Language qualifications where the school curriculum is taught in a native language) please contact the Undergraduate Admissions Office for further advice.


Student Outcomes

Operated by the Office for Students
50%
Employment after 15 months (Most common jobs)
90%
Go onto work and study

The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1
Republic of Ireland £9000 Year 1
EU £15375 Year 1
International £15375 Year 1

Additional fee information

The UK and Welsh Governments have confirmed that EU students commencing their studies in the academic year 2021/22 will no longer be eligible for home fee status. Fees for EU students will therefore be charged in line with international fees from 2021/22 onwards. Please note Irish nationals will continue to be eligible for home fee status and support by the Welsh Government under the Common Travel Area arrangement

Sponsorship information

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig pecyn gwerthfawr o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gynorthwyo myfyrwyr. Mae ein cystadleuaeth Ysgoloriaeth Mynediad hirsefydlog yn golygu y gallech gael hyd at £2,000 y flwyddyn tuag at eich costau byw a’ch costau astudio. Gallwch gyfuno Ysgoloriaeth Mynediad gydag unrhyw un, neu â’n holl wobrau eraill, i wneud eich pecyn ariannol yn fwy gwerthfawr. Mae’n ein gwobrau’n cynnwys Bwrsariaeth Aberystwyth, sy’n dibynnu ar brawf modd, yr Ysgoloriaethau Chwaraeon a Cherddoriaeth, bwrsariaethau i rai sy’n gadael gofal/gofalwyr ifainc/myfyrwyr dieithredig ac ystod o wobrau adrannol-benodol. Ewch i’n gwefan i gael y manylion llawn.

Hanes a Hanes Cymru at Aberystwyth University - UCAS