Cymraeg gyda Newyddiaduraeth (Welsh with Journalism) at Bangor University - UCAS

Bangor University

Degree level: Undergraduate

Cymraeg gyda Newyddiaduraeth (Welsh with Journalism)

Course summary

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen academaidd gadarn i chi yn Gymraeg (dwy ran o dair o'r cwrs) a'r cyfle i astudio modiwlau ymarferol ac academaidd mewn newyddiaduraeth. Byddwch yn ennill dealltwriaeth o agweddau sylfaenol ar newyddiaduraeth a hynny heb gau'r drws ar yrfa yn un o'r meysydd lu lle mae gradd yn y Gymraeg yn ddymunol. Gyda chyfuniad o sgiliau ysgrifennu academaidd a phroffesiynol, mae'r gyrfaoedd posibl yn cynnwys cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, llywodraeth leol, darlledu a newyddiaduraeth, cyhoeddi, addysgu, y celfyddydau a threftadaeth. Mae BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth yn darparu sylfaen academaidd gadarn mewn Cymraeg (dwy ran o dair o’ch cwrs) ynghyd â'r cyfle i astudio modiwlau ymarferol ac academaidd mewn newyddiaduraeth (traean o’ch cwrs). Dysgwch am ofynion creiddiol newyddiaduraeth, heb gau'r drws ar y llu o feysydd eraill sy’n gofyn am radd yn y Gymraeg. I rai sy’n meddu ar gyfuniad o sgiliau uchel mewn ysgrifennu academaidd a phroffesiynol, mae gyrfaoedd posib yn cynnwys newyddiaduraeth, darlledu, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, cyfieithu, llywodraeth leol, cyhoeddi, addysgu, y celfyddydau a threftadaeth. Iaith fyw y presennol yn hytrach na chrair o'r gorffennol yw'r Gymraeg ym Mangor. Yma cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd hynotaf y byd, ond cyfle hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn baratoad ardderchog ar gyfer gyrfa a swydd. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dyfnder ac i feistroli gwahanol gyweiriau’r iaith. Os dymunwch, bydd cyfle i chi ddilyn eich diddordebau creadigol o dan arweiniad ysgrifenwyr a beirdd profiadol. Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg? Sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol?  Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad. Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565.

Modules

For details of the modular structure, please see the course description on Bangor University's website.


How to apply

Application codes

Course code:
Q5P5
Institution code:
B06
Campus name:
Main Site
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt. Gellir ystyried cymwysterau Lefel 3 ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg (e.e. Safon Uwch, IB Uwch). Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Os nad ydych yn meddwl y byddwch yn cwrdd a’r gofynion mynediad a nodwyd, efallai y gallwch gael mynediad i’r cwrs hwn trwy lwybr Blwyddyn Sylfaen. Gwelwch: Cymraeg i Ddechreuwyr (Q565). Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol), ceir manylion yn: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements We are happy to accept combinations of the qualifications listed above, as well as alternative Level 3 qualifications such as City & Guilds, Access and Cambridge Technical Diplomas. Level 3 qualifications can be considered in conjunction with another qualification in Welsh (e.g. A-level, IB Higher). We also welcome applications from mature learners. If you don't think you'll meet the entry requirements specified, you may be able to gain entry to this course via a Foundation Year route. Please see: Welsh for Beginners/ Cymraeg i Ddechreuwyr (Q565). International Candidates: school leaving qualifications that are equivalent to A levels/Level 3 and/or college diplomas are accepted from countries worldwide (subject to minimum English Language requirements), details at: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements


English language requirements

For the most up-to-date information on acceptable English Language proficiency qualifications, please visit our webpage below.

https://www.bangor.ac.uk/international/future/englishlanguage


Fees and funding

Tuition fees

Republic of Ireland £9000 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1

Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .

Additional fee information

Tuition fees and scholarship information for International applicants can be found here: https://www.bangor.ac.uk/international/tuition

Provider information

Visit our website

Bangor University
Bangor (Wales)
LL57 2DG


Clearing contact details

Clearing Enquiries
Published admissions contact

0800 0851818

Course Clearing information

Additional information

The easiest way to get in touch with us prior to August 10 is by using the Online Enquiry form and/or social media. From August 10 onwards, please call the Clearing Helpline.


Course contact details

Visit our course page
Enquiry form
Contact Bangor University
Cymraeg gyda Newyddiaduraeth (Welsh with Journalism) at Bangor University - UCAS