Course summary
UCAS Code: 3D3Y TAR Uwchradd - Addysg Gorfforol (gyda SAC) Ar ôl cwblhau'r TAR yn llwyddiannus, bydd gan AC Addysg Gorfforol (AG) ddealltwriaeth sicr o addysgeg Addysg Gorfforol a sut mae'r pwnc yn cyfrannu at hyrwyddo ymgysylltiad gydol oes â gweithgaredd corfforol sy'n gwella iechyd. Anogir AC Addysg Gorfforol i weld eu hunain fel dysgwyr gydol oes a ysgogir i ymestyn eu dealltwriaeth o gyd-destun a diwylliant dysgu AG yng Nghymru. Caiff eu haddysgu ei oleuo gan y damcaniaethau'n ymwneud â dysgu AG gan ddatblygu eu gallu i ymwneud yn feirniadol ag ymchwil a hyrwyddo eu haddysgu eu hunain. Bwriad y rhaglen TAR Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol. Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill. Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru. Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi.
Course details
Qualified teacher status (QTS)
To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:
- Secondary
Entry requirements
O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig â pwnc astudio. Gradd B/Gradd 5 yn yr arholiadau TGAU mewn unrhyw un o’r pynciau canlynol: Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg (Iaith gyntaf), Llenyddiaeth Gymraeg. Lle bo myfyrwyr wedi cael yr hyn sy’n gyfatebol i radd B/radd 5 mewn naill ai Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cael lleiafswm o radd C yn yr arholiad TGAU cyfatebol mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith Gyntaf). Gradd B/Gradd 5 yn yr arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd. Mae profion cyfwerth â TGAU Gradd B mewn Saeseng a mathemateg ar gael i ymgeiswyr gael eu derbyn i'r cyrsiau addysg athrawon ar gyfer y sesiwn academaidd nesaf ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr sy'n dymuno sefyll y prawf cyfwerth fod â gradd C safon TGAU. Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg.
English language requirements
For the most up-to-date information on acceptable English Language proficiency qualifications, please visit our webpage below.
https://www.bangor.ac.uk/international/future/englishlanguage
Fees and funding
Tuition fees
No fee information has been provided for this course
Additional fee information
Provider information
Bangor University
Bangor (Wales)
LL57 2DG