Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau (Welsh, Theatre and Media) at Bangor University - UCAS

Bangor University

Degree level: Undergraduate

Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau (Welsh, Theatre and Media)

Course summary

Agwedd arbennig ar y cwrs hwn yw’r cyfle i fynychu gweithdai arbenigol a fydd yn eich arfogi â’r sgiliau pwrpasol i greu gwaith gwreiddiol eich hunain, boed hynny’n yn sgript ar gyfer y teledu neu’r llwyfan, yn gynhyrchiad llwyfan, yn ffilm fer, neu’n rhaglen radio. Mae’r dysgu drwy gyfrwng gweithdai, darlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Mae'r asesiad yn gyfuniad o waith cwrs (e.e.  gwaith ymarferol / creadigol, cyflwyniadau llafar, traethodau, a thasgau wythnosol) ac arholiadau, gyda rhai modiwlau wedi’u hasesu’n llwyr ar sail gwaith cwrs. Bydd eich modiwlau bob blwyddyn yn gyfwerth ag 120 credyd.    Mae’r flwyddyn gyntaf yn gyfle i adeiladu ar eich profiadau ac i agor drysau newydd, e.e. trafod yr iaith a’i chelfyddyd mewn cyd-destunau sy’n ymwneud â’i hanes a’i chyflwr heddiw, dysgu sgiliau beirniadol newydd, ymateb yn wreiddiol i weithiau celfyddydol a meithrin sgiliau ymarferol ym maes theatr a’r cyfryngau. Yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn, cewch ddewis helaeth o fodiwlau damcaniaethol, megis ar y theatr Gymraeg o gyfnod Saunders Lewis hyd at Aled Jones Williams ac ar ddramâu teledu Meic Povey, yn ogystal â dewis eang o fodiwlau ymarferol megis sgriptio, dyfeisio cynhyrchiad llwyfan a chynhyrchu ffilm fer, i enwi ond rhai. Yn y drydedd flwyddyn cewch lunio traethawd hir ac ymchwilio i bwnc diddorol o’ch dewis. Yn y gorffennol, mae nifer wedi dewis ymchwilio i feysydd megis gweithiau amrywiol ddramodwyr Cymraeg, hanes cwmnïau amatur Cymru ac addasiadau llwyfan a sgrin o weithiau llenyddol Cymraeg. Mae’r opsiynau’n ddiderfyn! Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad. Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565.

Modules

For details of the modular structure, please see the course description on Bangor University's website.


How to apply

Application codes

Course code:
QWM5
Institution code:
B06
Campus name:
Main Site
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt. Gellir ystyried cymwysterau Lefel 3 ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg (e.e. Safon Uwch, IB Uwch). Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Os nad ydych yn meddwl y byddwch yn cwrdd a’r gofynion mynediad a nodwyd, efallai y gallwch gael mynediad i’r cwrs hwn trwy lwybr Blwyddyn Sylfaen. Gwelwch: Cymraeg i Ddechreuwyr (Q565). Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion sylfaenol iaith Saesneg), manylion yma: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements We are happy to accept combinations of the qualifications listed above, as well as alternative Level 3 qualifications such as City & Guilds, Access and Cambridge Technical Diplomas. Level 3 qualifications can be considered in conjunction with another qualification in Welsh (e.g. A-level, IB Higher). We also welcome applications from mature learners. If you don't think you'll meet the entry requirements specified, you may be able to gain entry to this course via a Foundation Year route. Please see: Welsh for Beginners/ Cymraeg i Ddechreuwyr (Q565). International Candidates: school leaving qualifications and college diplomas are accepted from countries worldwide (subject to minimum English Language requirements), details at: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements


English language requirements

For the most up-to-date information on acceptable English Language proficiency qualifications, please visit our webpage below.

https://www.bangor.ac.uk/international/future/englishlanguage


Student Outcomes

Operated by the Office for Students
75%
Employment after 15 months (Most common jobs)
100%
Go onto work and study

The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

Republic of Ireland £9000 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1

Additional fee information

Tuition fees and scholarship information for International applicants can be found here: https://www.bangor.ac.uk/international/tuition
Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau (Welsh, Theatre and Media) at Bangor University - UCAS