Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd at University of Wales Trinity Saint David - UCAS

University of Wales Trinity Saint David

Degree level: Postgraduate
Awarded by: University of Wales Trinity Saint David (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant)

Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd (Taught)

There are other course options available which may have a different vacancy status or entry requirements – view the full list of options

Course summary

Cymhwyster ôl-radd unigryw drwy ddarpariaeth dysgu-o-bell yw’r MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd, sef yr un gyntaf o’i bath yn Ewrop. Mae’n rhan o genhadaeth y Brifysgol i gyfrannu at y bwrlwm cyffrous o weithgareddau ym maes cynllunio iaith a datblygiad dwyieithrwydd / amlieithrwydd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Modules

Rhan I TystȎl-radd, TystDip & MA Crynodeb o brif amcanion modylau unigol: Agweddau Gwybyddol ar Dwyieithrwydd (30 credyd; dewisol) Archwilio unrhyw effeithiau deallusol, gwybyddol a meta-ieithyddol posibl ar yr unigolyn y gellir eu priodoli i ddwyieithrwydd. Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd yn yr Unigolyn (30 credyd; dewisol) Archwilio agweddau amrywiol ar hanfod dwyieithrwydd ac amlieithrwydd ar lefel yr unigolyn gan hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddatblygiad damcaniaethau a chysyniadau academaidd cyfredol am y ffenomenau hynny. Cynhwysir amlieithrwydd yn ogystal wrth gyfeirio at ddwyieithrwydd isod. Dwyieithrwydd Cymdeithasol (30 credyd; dewisol) Archwilio’n fanwl y prif ffactorau sydd yn gallu dylanwadu ar fywioldeb, sefydlogrwydd, ymlediad, dyfudiad neu dranc ieithoedd lleiafrifol, gan dalu sylw i broses cynllunio ieithyddol. Hanfodion Cynllunio Iaith (30 credyd; dewisol) Ystyried yn feirniadol brif agweddau damcaniaethol y maes cynllunio iaith, gan gyfeirio at ddamcaniaethau a dadansoddiadau perthnasol ac at enghreifftiau ymarferol a dynnir o Gymru a gwledydd tramor ynghyd â thrafod y prif ddatblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol o safbwynt cynllunio iaith yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Hyrwyddo’r Gymraeg (30 credyd; dewisol) Rhoi cyfle i’r myfyrwyr astudio sut yr hyrwyddir y Gymraeg yng Nghymru trwy gynllunio iaith. Edrychir ar y modd y mae sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn hyrwyddo’r Gymraeg, beth sy’n eu cymell a pha brosesau ac egwyddorion yr ymwneir â nhw. Edrychir hefyd ar sut y caiff defnydd o’r Gymraeg ei hyrwyddo gan unigolion a chymunedau Cymraeg eu hiaith, gan asiantaethau’r wladwriaeth ac eraill. Er mwyn sicrhau perthnasedd proffesiynol, rhoddir cyfle digonol i fyfyrwyr gymhwyso at eu dibenion eu hunain y deunydd a gyflwynir iddynt, ac i gyfeirio at eu meysydd gwaith unigol yng ngorff yr aseiniadau. Plîs sylwch, mae modiwlau'n newid ychydig o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd newidiadau staff, datblygu'r cwricwlwm ac argymhellion yn dilyn dilysu. Modelau ar gyfer Addysgu Dwyieithog (30 credyd; dewisol) Astudio amrediad o fodelau a gwmpesir gan y term “addysg ddwyieithog” ac, yng nghyd-destun eu hamcanion gwleidyddol ac addysgol, i werthuso eu heffeithiolrwydd o safbwynt eu gallu i sicrhau lefelau dwyieithrwydd cytbwys mewn unigolion. Rhan II MA Y Gyfadran Addysg a Chymunedau: Traethawd Hir (60 credyd; gorfodol) Darparu cyfle i ymgymryd ag ymchwil beirniadol a gwerthusol sy’n ymwneud â materion a dadleuon sy’n berthnasol i gynllun gradd y myfyriwr a darparu perthynas diwtora unigol gefnogol a beirniadol effeithiol i annog cynnydd strwythuredig, cyson a boddhaol o ran gwybodaeth, sgiliau ymchwil a deilliannau.

Assessment method

Mabwysiedir amryw ddulliau asesu er mwyn galluogi myfyrwyr i arddangos eu gwybodaeth a’u medrau mewn perthynas â’r deilliannau dysgu, gan gynnwys: Aseiniadau Ysgrifenedig Cyflwyniadau Traethodau hir. Dewisir dulliau asesu ar sail eu haddasrwydd gogyfer â sicrhau y gall myfyrwyr arddangos eu bod wedi cyflawni’r deilliannau dysgu hynny a nodir yn glir ar gyfer pob modwl ac y seilir meini-prawf yr asesu arnynt.


Entry requirements

Goruchwylir trefniadau mynediad yr Ysgol gan y Tiwtor Mynediad ynghyd â Phennaeth Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd. Dilyna’r Ysgol ganllawiau’r Brifysgol parthed y cymwysterau angenrheidiol megis y nodir yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Fel arfer, disgwylir bod myfyrwyr ôl-radd wedi ennill gradd gyntaf a ddyfarwyd gan brifysgol neu gorff dyfarnu cydnabyddedig. Beth bynnag, caniatâ’r canllawiau hyn hefyd geisiadau oddi wrth fyfyrwyr nad ydynt efallai yn cydymffurfio â gofynion academaidd y dull mynediad arferol.Gall yr Ysgol, felly, ystyried ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr aeddfetach y bydd ganddynt brofiad perthnasol a /neu gymwysterau amgen i’r rheiny a amlinellir uchod. Fel arfer, gofynnir i fyfyrwyr rhyngwladol nad yw’r iaith Saesneg yn famiaith iddynt ac sydd yn ceisio am gyrsiau ôl-radd ddangos tystiolaeth am feistrolaeth ddigonol ar yr iaith Saesneg ar gyfer dilyn cwrs, ymgymryd ag ymchwil a chynhyrchu gwaith ysgrifenedig heb drafferthion ieithyddol sylweddol. Fel arfer, disgwylir tystiolaeth Tystysgrif Uwch neu Hyfedredd Caergrawnt, sgôr lleiafswm 6.5 gan IELTS, 575 gan TOEFL neu 700 gan TOEIC. Ar ôl derbyn ceisiadau a’u harchwilio gan Bennaeth yr Ysgol a Chyfarwyddwr y Rhaglen, gwahoddir pob ymgeisydd cymwys am gyfweliad. Cyfwelir myfyrwyr astudio-o-bell sydd dramor ar Skype neu ar y ffôn ac o dan yr un amodau trwyadl â’r rheiny a gyfwelir yn y brifysgol.


Fees and funding

Tuition fees

EU £7800 Whole course
England £7800 Whole course
Northern Ireland £7800 Whole course
Scotland £7800 Whole course
Wales £7800 Whole course
Channel Islands £7800 Whole course
International £15000 Whole course

Additional fee information

No additional fees or cost information has been supplied for this course, please contact the provider directly.
Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd at University of Wales Trinity Saint David - UCAS