Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg at Cardiff University - UCAS

Cardiff University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Cardiff University (Prifysgol Caerdydd)

Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg

Course options

Course summary

Gyda’n rhaglen BA Llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg (BA), byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, ac yn ymwneud â llenyddiaeth Saesneg o wahanol gyfnodau a diwylliannau, ar draws yr ystod o brif genres llenyddol. Byddwch yn ennill sgiliau lefel uchel mewn Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithio a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy'n berthnasol i'r Gymru fodern a thu hwnt. Byddwn yn eich cefnogi i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn ffordd feddwl-agored a chydweithredol, gan gynnwys ar bynciau sensitif a dadleuol. Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Os yw'r Gymraeg yn ail iaith i chi, byddwch yn cael modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn i ymarfer a gwella eich sgiliau cyfathrebu ac iaith. Ar ôl hyn, mae myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dod at ei gilydd am y mwyafrif o fodiwlau'r ail flwyddyn, a holl fodiwlau'r flwyddyn olaf. Mae opsiynau modiwl yn eich galluogi i archwilio pynciau fel ysgrifennu Cymraeg hanesyddol a chyfoes, polisi iaith, a chyfieithu proffesiynol. Ym maes Llenyddiaeth Saesneg, mae’r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celf, hanes, technoleg, iaith, a bywyd bob dydd wedi ein cyfareddu, ac mae ein haddysgu yn adlewyrchu’r diddordebau hyn. Byddwch yn dysgu sut mae llenyddiaeth yn mynd i'r afael â phryderon cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd gyda'r nod o greu byd gwell, mwy cynhwysol a datblygu atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol y blaned. Ym mlwyddyn olaf y rhaglen, gallwch arbenigo yn eich dewis feysydd astudio. Yn ystod eich gradd, cewch gyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith mewn gweithle lle siaredir Cymraeg yn ddyddiol, i ddatblygu eich hyder a’ch sgiliau proffesiynol. Byddwch hefyd yn ymgymryd â thraethawd hir, lle byddwch yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar bwnc o'ch dewis sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg, ei diwylliant neu ei llenyddiaeth. Mae modiwl craidd blwyddyn olaf mewn Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi’r cyfle i chi wneud archwiliad manwl o un testun ar draws semester cyfan a defnyddio’r profiad a’r wybodaeth a enillwyd fel sail i ddarn o waith sydd ar gael i’r cyhoedd. Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol, gan gynnwys cydweithio, cyfathrebu a dadansoddi beirniadol. Byddwch hefyd yn ymwybodol o'r heriau ieithyddol a diwylliannol sy'n wynebu cymdeithas a diwydiant cyfoes, a bydd gennych y syniadau a'r hyder sydd eu hangen i'w datrys. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr hefyd, gan olygu bod gennych gyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol, dinesig ac economaidd Cymru. Nodweddion Unigryw’r Rhaglen Dilynwch eich diddordebau: Dewiswch o fodiwlau ar draws ystod o feysydd mewn llenyddiaeth ac iaith Gymraeg, a gwahanol gyfnodau a genres mewn llenyddiaeth Saesneg. Meddyliwch dros eich hun: Ymdriniwch yn feirniadol ac yn greadigol â gwahanol fathau o destunau mewn ffordd annibynnol a meddwl agored. Antur ac archwilio: Cyfleoedd i astudio dramor yn Ewrop a thu hwnt, gan feithrin annibyniaeth a gwytnwch. Cymraeg yn y gweithle: Magwch eich hyder a'ch sgiliau ymarferol drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad proffesiynol ar brofiad gwaith. Cyfathrebu’n effeithiol: Datblygwch sgiliau dwyieithog wrth lunio a chyflwyno eich syniadau a dadleuon ar lafar ac yn ysgrifenedig.


How to apply

Application codes

Course code:
QQ53
Institution code:
C15
Campus name:
Main Site - Cardiff
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

We do not accept Critical Thinking, General Studies, Citizenship Studies, or other similar equivalent subjects. We will accept a combination of BTEC subjects, A-levels, and other qualifications, subject to the course specific grade and subject requirements.


English language requirements

All applicants are expected to have demonstrable English language skills. Most courses ask for GCSE English grade C/4 or equivalent, but some courses ask for GCSE English grade B/6 or equivalent.

To find out more, please go to:

https://www.cardiff.ac.uk/study/international/english-language-requirements/undergraduate


Student Outcomes

Operated by the Office for Students
65%
Employment after 15 months (Most common jobs)
100%
Go onto work and study

The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

Republic of Ireland £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1
EU £22700 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
International £22700 Year 1

Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .

Additional fee information

Students from the UK and Islands: Fees stated are for the 2024/25 academic year. The University reserves the right to increase tuition fees in the second and subsequent years of a course as permitted by law or Welsh Government policy. Where applicable we will notify you of any change in tuition fee by the end of June in the academic year before the one in which the fee will increase. Fees for entry in subsequent years are subject to increase and will be confirmed by the end of October in the year preceding your start date of your programme. Tuition fees cover all reasonable costs required for you to complete to the degree programme stated. Please note that you may choose to participate in study trips, associated placements or purchase equipment while studying on your degree programme which will be at your own cost. Tuition fees do not include living costs such as accommodation, subsistence or travel. Students from the EU, EEA, and Switzerland: If you are an EU/EEA/Swiss national, unless you qualify for UK fee status, tuition fees for 2024/25 will be in line with the fees charged for international students. You can check whether you are eligible for UK (Home) fee status on the UKCISA website: https://www.ukcisa.org.uk/Information--Advice/Fees-and-Money/Wales-fee-status#layer-6099 Students from the rest of the world (international): Fees stated are for 2024/25 entry and are fixed for the duration of the programme, excluding Medicine and Dentistry programmes. Please note that during the pre-clinical element of Medicine and Dentistry programmes the fee rate will be fixed, after which the clinical fee rate will be charged. Further details are available on the university website at: http://www.cardiff.ac.uk/study/international/funding-and-fees Fees for entry in subsequent years are subject to increase and will be confirmed by the end of October in the year preceding your start date of your programme. Tuition fees cover all reasonable costs required for you to complete the degree programme stated. Please note that you may choose to participate in study trips, associated placements or purchase equipment while studying on your degree programme which will be at your own cost. Tuition fees do not include living costs such as accommodation, subsistence or travel.

Sponsorship information

Mae llawer o ysgoloriaethau ar gael i ddarpar fyfyrwyr. Ewch i https://www.cardiff.ac.uk/cy/study/undergraduate/funding/scholarships i gael rhagor o wybodaeth.

Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg at Cardiff University - UCAS