Skip navigation
Cymraeg Proffesiynol (Professional Welsh) at Bangor University - UCAS

Bangor University

Degree level: Undergraduate

Cymraeg Proffesiynol (Professional Welsh)

Course summary

Dyma gwrs sy’n ymateb i’r galw cynyddol gan gyflogwyr am fyfyrwyr sydd â safon uchel o sgiliau yn y Gymraeg y gellir eu cymhwyso’n rhwydd i’r gweithle. Byddwch yn astudio amryw o feysydd sy’n ymwneud ag iaith a llenyddiaeth Gymraeg gyda phwyslais mawr ar agweddau ymarferol a galwedigaethol. Bydd y cwrs hefyd yn rhoi cyfle i chi fynd ar brofiad gwaith gyda chyflogwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol o ddydd i ddydd. A hoffech weithio mewn meysydd fel y diwydiannau creadigol a’r sector treftadaeth, darlledu a’r cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, cyfieithu, cynllunio ieithyddol a gweinyddu cyhoeddus? Bydd y cwrs hwn yn fan cychwyn ardderchog i chi anelu at yrfa yn un o’r meysydd hyn.   Iaith fyw y presennol yw'r Gymraeg ym Mangor. Ar y cwrs hwn cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd hynotaf y byd, ond cyfle hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn baratoad ar gyfer gyrfa a swydd. Bydd y cwrs yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dyfnder ac i feistroli gwahanol gyweiriau’r iaith i ddibenion proffesiynol a galwedigaethol.  Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg? Sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol?  Derbynnir myfyrwyr o gefndiroedd iaith gyntaf ac ail iaith i ddilyn y cwrs hwn. Mae’n ddilyniant naturiol hefyd i fyfyrwyr a ddilynodd y flwyddyn sylfaen Cymraeg i Ddechreuwyr. Mae’n addas yn ogystal i rai a gyrhaeddodd lefel hyfedredd mewn Cymraeg, e.e. drwy Gyrsiau Dysgu Cymraeg y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad. Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565.

Modules

Am fanylion y modiwlau, ewch i wefan y brifysgol os gwelwch yn dda.


How to apply

Application codes

Course code:
Q563
Institution code:
B06
Campus name:
Main Site
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt. Gellir ystyried cymwysterau Lefel 3 ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg (e.e. Safon Uwch, IB Uwch). Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Os nad ydych yn meddwl y byddwch yn cwrdd a’r gofynion mynediad a nodwyd, efallai y gallwch gael mynediad i’r cwrs hwn trwy lwybr Blwyddyn Sylfaen. Gwelwch: Cymraeg i Ddechreuwyr (Q565). Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol), ceir manylion yn: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements We are happy to accept combinations of the qualifications listed above, as well as alternative Level 3 qualifications such as City & Guilds, Access and Cambridge Technical Diplomas. Level 3 qualifications can be considered in conjunction with another qualification in Welsh (e.g. A-level, IB Higher). We also welcome applications from mature learners. If you don't think you'll meet the entry requirements specified, you may be able to gain entry to this course via a Foundation Year route. Please see: Welsh for Beginners/ Cymraeg i Ddechreuwyr (Q565). International Candidates: school leaving qualifications that are equivalent to A levels/Level 3 and/or college diplomas are accepted from countries worldwide (subject to minimum English Language requirements), details at: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements


English language requirements

For the most up-to-date information on acceptable English Language proficiency qualifications, please visit our webpage below.

https://www.bangor.ac.uk/international/future/englishlanguage


Student Outcomes

Operated by the Office for Students
45%
Employment after 15 months (Most common jobs)
80%
Go onto work and study

The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

Republic of Ireland £9000 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1

Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .

Additional fee information

Tuition fees and scholarship information for International applicants can be found here: https://www.bangor.ac.uk/international/tuition
Cymraeg Proffesiynol (Professional Welsh) at Bangor University - UCAS