Course summary
TAR Uwchradd Addysg Gorfforol (11-18 ystod oedran) gyda SAC - C6XX Os ydych yn berson graddedig sy'n awchu i astudio eich pwnc arbenigol ac sydd ag awydd i ysbrydoli pobl ifanc, dyma'r cwrs i chi! Cwrs un flwyddyn yw rhaglen TAR Addysg Uwchradd a fydd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (SAC). Nod y cwrs yw paratoi athrawon dan hyfforddiant i fod yn ymarferwyr medrus, hyderus ac arloesol sy'n gallu adfyfyrio'n feirniadol ac sy'n ymrwymedig i ddysgu proffesiynol gydol oes ac i addysg pobl ifanc. Nodwch, Ionawr 31 yw’r dyddiad cau cynnar i geisiadau, i warantu bod eich cais yn cael ei ystyried. Os oes lleoedd dal ar gael gallwch wneud cais ar ôl y dyddiad yma, a bydd rhain yn cael eu dangos yn y chwiliad cwrs
Modules
Ewch i wefan Metropolitan Caerdydd
Assessment method
Bydd angen i ymgeiswyr a fydd yn boddhau’r meini prawf hanfodol ar gyfer cyrsiau a fydd yn arwain at SAC ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd sefyll profion Cyn-Mynediad mewn Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol. Caiff y profion eu cwblhau a’u harolygu o dan amodau arholiad. Cynhelir y profion yn rhan o’r diwrnod cyfweld. Bydd angen i ymgeiswyr sydd ag anghenion ychwanegol y gofynnir iddyn nhw sefyll y profion hyn, roi gwybod i Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn syth fel y gellir gwneud y trefniadau priodol. Mae mynediad yn amodol hefyd ar wiriad cofnodion troseddol boddhaol. I gael rhagor o wybodaeth ar weithdrefnau cofnodion troseddol, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/dbs
Qualified teacher status (QTS)
To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:
- Secondary
Entry requirements
Gofynion TGAU: TGAU (neu gyfwerth) mewn Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg Iaith (iaith gyntaf) neu Lenyddiaeth Gymraeg a Mathemateg ar radd B neu’n uwch (gradd 5 neu’n uwch ar gyfer ymgeiswyr sydd â’r TGAU newydd yn Lloegr). Ar gyfer Addysg Gorfforol yn unig, bydd gofyn bod TGAU Gwyddoniaeth ar radd C neu’n uwch gan ymgeiswyr. Lle bo cymhwyster cyfwerth a gradd B/gradd 5** mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg yn cael ei gyflawni, rhaid cyflawni o leiaf gradd C/gradd 4** yn yr arholiad TGAU cyfatebol mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) Caiff ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd D neu’n uwch yn Saesneg Iaith a Mathemateg TGAU (neu gyfwerth) eu hystyried ar gyfer cyfweliad (gradd 4 neu’n uwch ar gyfer ymgeiswyr sydd â’r TGAU newydd yn Lloegr). Bydd myfyrwyr sy'n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg hefyd angen TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg Iaith (iaith gyntaf) ** ar gyfer ymgeiswyr a fydd â’r cymwysterau TGAU newydd yn Lloegr Gofynion o ran Gradd Gychwynnol: Er y disgwylir bydd cynnwys eich gradd yn cynnwys cyfran sylweddol o'r pwnc yr ydych am hyfforddi i addysgu, rydym yn ystyried yn ffafriol ymgeiswyr sydd gyda gradd mewn pwnc sydd â chysylltiad agos. Bydd eich cais a'ch cyfweliad (os cewch eich dewis) yn cael eu hasesu ar eich potensial i fodloni lefel SAC y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth sy'n ymwneud â gwybodaeth am bwnc, dealltwriaeth a sgiliau, ac i ba raddau gall y rhain ategu eich ymarfer fel athro pwnc penodol hyd at, a gan gynnwys addysgu safon uwch a chwricwla ôl-16. Am rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau cyrsiau ar ein gwefan.
English language requirements
IELTS band score 7.5 overall and minimum of 7.0 in each component in the ‘academic’ IELTS test.
Fees and funding
Tuition fees
England | £9000 | Whole course |
Northern Ireland | £9000 | Whole course |
Scotland | £9000 | Whole course |
Wales | £9000 | Whole course |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .
Additional fee information
Provider information
Cardiff Metropolitan University
Student Recruitment & Admissions
Western Avenue
Cardiff
CF5 2YB