Mathemateg - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University - UCAS

Bangor University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Bangor University (Prifysgol Bangor)

Mathemateg - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

Course summary

UCAS Code: 3D34 TAR Uwchradd - Mathemateg (gyda SAC) A oes gennych chi frwdfrydedd heintus ynghylch Mathemateg? Ydych chi wedi'ch cymell i ysbrydoli a herio'r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr newid? Allech chi wneud y gwahaniaeth? Dewch i Ogledd Cymru a chychwyn ar eich taith o ddod yn athro Mathemateg dyfeisgar, myfyriol a gwydn. Mae darlithoedd prifysgol, sydd wedi'u cynllunio i'ch arfogi â'r sylfaen ddamcaniaethol a thystiolaethol o addysgu a dysgu yn cael eu hategu gan weithdai yn yr ysgol sy'n darparu cyfleoedd i gysylltu'r wyddoniaeth ag ymarfer, trwy gyfrwng arsylwadau a mannau diogel i fireinio sgiliau newydd. Bydd 24 wythnos ychwanegol o brofiad ymarferol yn allweddol i ddatblygu eich gwybodaeth broffesiynol wrth i chi weithio ochr yn ochr â mentoriaid tosturiol, sydd wedi ymrwymo i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o athrawon Mathemateg dylanwadol. Pam astudio gyda ni? • Ble gwell i ddechrau'r daith hon sy'n newid bywydau nag wrth odre'r Wyddfa a glannau arfordir prydferth Gogledd Cymru? Gyda golygfeydd o un neu'r ddau o lawer o'n hysgolion rhwydwaith, ni fyddwch byth yn bell o'r naill na'r llall. • Bydd tiwtoriaid prifysgol ac ysgol profiadol, angerddol ac empathetig yn eich cefnogi i ddatblygu'r wybodaeth broffesiynol sydd ei hangen ar gyfer eich gyrfa newydd gyffrous mewn addysg. • Mae ein rhwydwaith o adrannau Mathemateg ysbrydoledig, cydlynol a chefnogol yn awyddus i gefnogi eich taith tuag at Statws Athro Cymwysedig. • Mae cymorth pwrpasol ar gyfer dysgu am rôl addysg yng Nghymru wedi'i deilwra i'ch gwybodaeth a'ch profiad o ddiwylliant ac iaith Cymru. Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwysedig gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw. Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored. Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am 3F5C.

Qualified teacher status (QTS)

To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:

  • Secondary

How to apply

Application codes

Course code:
3D34
Institution code:
B06
Campus name:
Main Site
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

*Gofynion Mynediad* • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig a'r pwnc. • Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg. • Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd. • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg. • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5).

Additional entry requirements

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)

Interview


Student Outcomes

Operated by the Office for Students

There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

Republic of Ireland £9000 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1

Additional fee information

Tuition fees and scholarship information for International applicants can be found here: https://www.bangor.ac.uk/international/tuition
Mathemateg - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University - UCAS