Skip navigation
Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant at University of Wales Trinity Saint David - UCAS

University of Wales Trinity Saint David

Degree level: Undergraduate
Awarded by: University of Wales Trinity Saint David (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant)

Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant

Course options

Course summary

Mae ein rhaglen BA (Anrh) mewn Astudiaethau Addysg gyda ffocws ar Anghenion Dysgu Ychwanegol ac ymarfer cynhwysol yn archwilio pynciau allweddol sy’n bwysig i unrhyw un sydd am wneud gwahaniaeth ym myd addysg. Byddwch yn dysgu am y gwahanol fathau o anghenion a allai fod gan fyfyrwyr a sut i’w cefnogi’n effeithiol. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i chi o sut i greu amgylcheddau dysgu lle gall pawb ffynnu. Rydym yn credu mewn dysgu trwy wneud. Byddwch yn cael cyfle i weithio mewn lleoliadau addysgol go iawn, gan eich helpu i ddod yn weithiwr proffesiynol myfyriol. Byddwch yn gweld yn uniongyrchol sut mae’r damcaniaethau rydych chi’n eu dysgu yn y dosbarth yn cael eu rhoi ar waith mewn bywyd go iawn. Mae’r profiad hwn yn amhrisiadwy iar gyfer eich gyrfa mewn addysg yn y dyfodol. Mae ein rhaglen yn cynnwys ystod eang o bynciau i roi persbectif eang i chi ar addysg. Byddwch yn astudio polisi cymdeithasol er mwyn deall sut mae penderfyniadau’r llywodraeth yn effeithio ar addysg. Bydd astudiaethau anabledd yn eich helpu i ddysgu am yr heriau sy’n cael eu hwynebu gan bobl ag anableddau a sut i’w cefnogi. Byddwch hefyd yn ymchwilio i ddatblygiad plant i ddeall sut mae plant yn tyfu ac yn dysgu ar wahanol adegau o’u bywydau. Mae ffocws arbennig y cwrs ar ymarfer cynhwysol. Byddwch yn dysgu sut i sicrhau bod pob myfyriwr, waeth beth fo’i gefndir neu allu, yn cael cyfle i lwyddo. Mae hwn yn sgìl hanfodol i unrhyw un sydd am weithio ym myd addysg heddiw. Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd gennych y wybodaeth a’r sgiliau i ddilyn gyrfaoedd amrywiol ym myd addysg. P’un ai eich bod am fod yn athro, gweithio mewn polisi addysgol, neu gefnogi myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, bydd y rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer gyrfa werth chweil. Byddwch yn gadael y cwrs fel ymarferydd myfyriol cyflawn, yn barod i gael effaith gadarnhaol ar y system addysg.

Modules

Yn eich blwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i sylfeini astudiaethau addysg, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad plant ac anghenion addysgol ychwanegol. Byddwch hefyd yn archwilio polisi cymdeithasol a’i effaith ar addysg, gan osod y sylfaen ar gyfer eich dealltwriaeth o sut mae systemau addysg yn gweithredu. Addysg: ddoe, heddiw, yfory (20 credydau) Damcaniaeth ac Arfer Dysgu (20 credydau) Parchu Hawliau Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru (20 credydau) Datblygiad ar draws y rhychwant oes (20 credydau) Datblygu Sgiliau Academaidd Llwyddiannus (20 credydau) A phopeth yn gyfartal? (20 credyd) Mae’r ail flwyddyn yn ymchwilio’n ddyfnach i amgylcheddau dysgu amgen a’r gwahanol ddulliau o ymarfer cynhwysol. Byddwch yn ymgymryd ag ymchwil i ennill gwybodaeth ddamcaniaethol a dechrau datblygu eich sgiliau fel addysgwr yn yr oes fodern. Mae’r flwyddyn hon yn pwysleisio rhoi theori ar waith mewn lleoliadau addysgol y byd go iawn. Mae Pawb yn Golygu Pawb (20 credydau) Amgylcheddau dysgu amgen (20 credydau) Y 3 R (20 credydau) Ymddygiad a dysgu: Dulliau o reoli ystafell ddosbarth (20 credydau) Y Meddwl Ymchwilgar: Dulliau Creadigol o Ddysgu ac Addysgu (20 credyd) Ymchwil Addysgol (20 credyd) Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn mireinio eich dealltwriaeth feirniadol o ddamcaniaethau ac arferion addysgol, gan ganolbwyntio’n benodol ar y cwricwlwm. Byddwch yn canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth mewn addysg a deall pwysigrwydd llesiant, gan eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd amrywiol mewn addysg. Mae eleni hefyd yn cynnwys prosiect annibynnol i arddangos eich dysgu cynhwysfawr. Gwneud Gwahaniaeth Gyda'n Gilydd (20 credydau) Llesiant mewn Addysg (20 credydau) Prosiect Annibynnol (40 credydau) Astudiaethau Cwricwlwm ac Asesu (20 credydau) Gwaith Therapiwtig gydag Unigolion (20 credydau)

Assessment method

Asesir myfyrwyr mewn amryw o ffyrdd i helpu i ddatblygu sgiliau astudio annibynnol yn ogystal â gweithio mewn tîm. Nid ydym yn asesu yn defnyddio arholiadau ond yn hytrach yn defnyddio ystod amrywiol o ddulliau megis portffolios, cyflwyniadau, posteri academaidd yn ogystal ag ystod o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n seiliedig ar ymchwil.


How to apply

Application codes

Course code:
X362
Institution code:
T80
Campus name:
SA1 Waterfront Campus, Swansea
Campus code:
T

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

International applicants

Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

Entry requirements

Qualification requirements


Student Outcomes

Operated by the Office for Students

There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

England £9535 Year 1
Northern Ireland £9535 Year 1
Scotland £9535 Year 1
Wales £9535 Year 1
Channel Islands £9535 Year 1
Republic of Ireland £9535 Year 1
EU £15525 Year 1
International £15525 Year 1

Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .

Additional fee information

Mae myfyrwyr yn gyfrifol am dalu cost gwerslyfrau hanfodol, ac am gynhyrchu unrhyw draethodau, aseiniadau a thraethodau hir sy’n ofynnol i gyflawni’r gofynion academaidd ar gyfer pob rhaglen astudio. Bydd costau pellach hefyd ar gyfer y canlynol, na ellir eu prynu gan y Brifysgol: Deunydd ysgrifennu Llyfrau Gwaith maes Dillad Argraffu a chopïo Gwiriad DBS *Dim ond ar Lefel 6 y mae angen DBS os yw myfyrwyr yn dewis cynnal eu hymchwil prosiect annibynnol gyda phlant a phobl ifanc.
Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant at University of Wales Trinity Saint David - UCAS