Course summary
Mae Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Cyfryngau yn bwnc hollol ddeinamig. Mae’n adlewyrchu bywiogrwydd, ynni a datblygiadau byd sy’n newid yn gyflym. Wrth ddewis astudio’r cwrs gradd Cysylltiadau Rhyngwladol yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n dewis astudio yn y ganolfan orau yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer astudio cysylltiadau rhyngwladol. Mae’r adran hefyd yn gartref i Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol ac ymchwil gyffrous yn creu profiad unigryw ac eithriadol yma, a hynny mewn awyrgylch gyfeillgar. Ceir cyfleoedd yma i ddatgblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu dy gyfle am yrfaoedd, ac rydym yn cynnig cynllun lleoliadau yn Nhŷ’r Cyffredin a’r Cynulliad Cenedlaethol, yn ogystal â rhaglenni cyfnewid gyda gwledydd Ewropeaidd, Canada ac Awstralia i’n myfyrwyr. Rydym yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr efelychu argyfyngau gwleidyddol ar gyrsiau maes cyffrous, ac mae hyn oll wedi ei leoli mewn amgylchedd bywiog a chosmopolitaidd yng nghalon campws y Brifysgol. Amcan y radd Cysylltiadau Rhyngwladol yw edrych yn fanwl ar waith a phatrymau llywodraeth, ac yn bwysicach fyth, ar ganlyniadau’r gwaith a’r patrymau rheiny. Mae’n ymwneud â gwleidyddion a llywodraethau, ond hefyd â grwpiau a mudiadau eraill megis cwmnïau rhyngwladol, undebau llafur, grwpiau cymdeithas sifil, ac eraill sy’n dylanwadu ar fywyd gwleidyddol. Mae’r radd hon yn trafod y syniadau sy’n sail i’n bywydau o ddydd i ddydd, megis cyfiawnder, rhyddid, grym, cymuned, cydraddoldeb a dinasyddiaeth, a gwneir hynny wrth astudio ystod eang o wledydd a sefyllfaoedd. Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath, ac mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd. Mae’r awyrgylch dysgu cynhyrfus a chosmopolitaidd yma yn croesawu myfyrwyr o bedwar ban byd, ac yn gartref bywiog i drafodaeth wleidyddol gyfoes. Mae gan yr adran hanes hir o edrych ar y byd a gofyn cwestiynau sylfaenol am ystod o bynciau – materion megis rhyfel, cudd-wybodaeth a diogelwch, tlodi byd-eang, moeseg a newid hinsawdd; sut y daeth y byd i fod fel ag y mae, a sut y mae hynny’n newid o hyd. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol a pheth o’r gwaith ymchwil mwyaf cyffrous yn y maes yn creu profiad unigryw ac eithriadol. Mae’r adran yn rhedeg Cynllun Lleoliadau Tŷ’r Cyffredin a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r lleoliadau yma’n darparu profiad gwaith gwerthfawr dros ben fydd yn ychwanegu llawer at CV myfyrwyr yn ogystal â chynnig profiad go iawn o wleidyddiaeth wrth iddo ddigwydd. Caiff myfyrwyr eu gosod gydag Aelod Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin, San Steffan neu gydag Aelod Cynulliad yn Senedd Cymru, Caerdydd am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf, sydd yn brofiad gwych i unrhyw fyfyriwr Gwleidyddiaeth. Mae gan yr Adran gysylltiadau hefyd â phrifysgolion dethol yn Ewrop, Awstralia a Chanada, a dyma gyfle gwych i ti ehangu dy orwelion academaidd a chymdeithasol drwy dreulio rhan o dy brofiad prifysgol dramor. Ymhlith y cymdeithasau myfyrwyr bywiog sy’n meithrin ymdeimlad cryf o gymuned o fewn yr Adran, mae Cymdeithas Wleidyddiaeth Gymraeg Aberystwyth (CWGA). Cynhelir cyfarfodydd y Gymdeithas ddwywaith neu dair y tymor, gyda’r bwriad o glywed ysgolheigion ac ymarferwyr yn rhannu eu syniadau a’u hymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg, cynnal trafodaethau bywiog ar ystod o bynciau perthnasol, a rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff cyfrwng Cymraeg yr adran a’r brifysgol ac unigolion brwdfrydig lleol i rannu syniadau a chymdeithasu. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yma, cafwyd darlithoedd gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Carwyn Jones AC, Arglwydd Elystan Morgan, y Gwir Anrhydeddus Dafydd Wigley, Glyn Davies AC, a’r Arglwydd John Morris, sgyrsiau am yr Ariannin gan Dr Lucy Taylor, ar etholiadau gan yr Athro Roger Scully, ac am brofiadau newyddiadurwr gwleidyddol yng Nghymru gan Betsan Powys.
How to apply
This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application codes
- Course code:
- 3P2L
- Institution code:
- A40
- Campus name:
- Main Site (Aberystwyth)
- Campus code:
- -
Points of entry
The following entry points are available for this course:
- Year 1
Entry requirements
Qualification requirements
UCAS Tariff - 96 - 120 points
A level - BBB - CCC
Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016) - DDM - MMM
Access to HE Diploma
International Baccalaureate Diploma Programme - 26 - 30 points
Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (last awarded Summer 2024)
Applicants are selected on their individual merits and offers can vary. We allow you flexibility in meeting our entry requirements, and all qualifications that you have already gained, or are working towards, will be considered when reviewing your application. We have an inclusive policy which recognises a broad range of qualifications. The entry requirements listed above represent typical offers for some of the most popular qualifications taken by applicants. If you cannot find the qualifications that you are studying (or have previously studied) please contact our Undergraduate Admissions Office (Telephone: +44 (0)1970 622021; Email: [email protected]) for advice on your eligibility and details of the typical offer you are likely to receive.
Additional entry requirements
Other
A minimum grade C or grade 4 pass in GCSE (or equivalent) English or Welsh is a requirement for entry to all our degree schemes. Business, Psychology, Mathematics, and Science degree schemes also require a minimum grade C or grade 4 pass in Mathematics and/or Science at GCSE (or equivalent).
English language requirements
Test | Grade | Additional details |
---|---|---|
Cambridge English Advanced | B | |
Cambridge English Proficiency | C | |
IELTS (Academic) | 6.5 | With minimum 5.5 in each component. |
PTE Academic | 62 | With minimum scores of 51 in each component. |
TOEFL (iBT) | 88 | With minimum scores in components as follows: Listening 21; Writing 21; Reading 22; Speaking 23. |
If you are an international student needing more information about the English Language requirement for your course (e.g. country-specific English Language tests, Partner Institution tests, EU/EEA English Language qualifications where the school curriculum is taught in a native language) please contact the Undergraduate Admissions Office for further advice.
Student Outcomes
The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.
Fees and funding
Tuition fees
England | £9250 | Year 1 |
Northern Ireland | £9250 | Year 1 |
Scotland | £9250 | Year 1 |
Wales | £9250 | Year 1 |
Channel Islands | £9250 | Year 1 |
Republic of Ireland | £9250 | Year 1 |
EU | £18170 | Year 1 |
International | £18170 | Year 1 |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .
Additional fee information
Provider information
Aberystwyth University
Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
Wales
SY23 3FL