Course summary
Beth yw dylanwad rhyngwladol y Gymraeg? Sut mae’r iaith yn gyfrwng diwylliant? Pa mor bwysig a pherthnasol yw creu cynnwys drwy gyfrwng iaith leiafrifol yn yr oes sydd ohoni? Dyma rai o gwestiynau mawrion BA Cymraeg (Iaith Gyntaf) Prifysgol Abertawe. Dewch i ymgolli mewn llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg, ochr yn ochr â dysgu am hanes cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yr iaith. Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o lenyddiaeth gan gynnwys dramâu, straeon byrion a nofelau, yn ogystal â barddoniaeth o'r traddodiad barddol canoloesol i ganeuon protest modern. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o iaith a gramadeg Cymraeg, sosioieithyddiaeth a pholisi cynllunio iaith, ac yn dysgu sgiliau cyfieithu gwerthfawr. Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan agor y drws at nifer fawr o yrfaoedd amrywiol. Pam Cymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf) yn Abertawe? Mae gradd BA Cymraeg o Brifysgol Abertawe yn bwrw golwg eang ar y Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol, gan drafod polisiau iaith, llenyddiaeth y byd a chyfieithu. Mae’r modiwlau wedi’u cynllunio gan ymchwilwyr uchel eu parch yn eu meysydd arbenigol, gyda golwg ar sicrhau eich bod yn meithrin sgiliau trosglwyddiadawy fydd o ddefnydd i chi ym myd gwaith. Mae Astudiaethau Celtaidd yn Abertawe: • 2il yn y DU yn gyffredinol (Times Good University Guide 2025) Eich Profiad Cymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf) Mae pob cam o’n cwrs gradd BA Cymraeg (Iaith Gyntaf) wedi’i gynllunio i sicrhau eich bod yn datblygu’n gyfathrebwyr hyderus ac yn ymchwilwyr craff. Mae teilwra ein modiwlau a’n hasesiadau i’ch galluogi i feithrin y sgiliau proffesiynol y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth arnynt yn bwysig iawn i ni, ac rydym yn cydweithio gyda sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt er mwyn sicrhau bod ein cwrs gradd yn ateb y galw. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddulliau asesu sydd wedi’u cynllunio’n ofalus er mwyn eich galluogi i ennyn sgiliau bydd yn eich helpu chi i gyflawni eich nodau gyrfa neu'ch uchelgeisiau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig. Fel un o’n cymuned ddysgu, byddwch yn derbyn cymorth addysgol heb ei ail.
Modules
"Bydd eich blwyddyn gyntaf yn cynnwys cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, enghreifftiau o fodiwlau gorfodol o’r blynyddoedd diwethaf gan gynnwys: • Defnyddio'r Laith • Trawsieithu Bydd eich ail a'ch trydedd flwyddyn yn cynnwys modiwlau cwbl ddewisol. Mae enghreifftiau o fodiwlau dewisol o'r blynyddoedd diwethaf wedi cynnwys: • Hawliau Laith yn y Cyd-destun Rhyngwladol • Amlddiwylliannedd a'r Gymraeg • Cyfraith Hywel • Blas ar Ymchwil • Y Gymraeg, Datganoli a'r Gyfraith Bydd eich blwyddyn olaf yn cynnwys prosiect traethawd hir annibynnol. "
Assessment method
Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i anghenion penodol eich cwrs. Ar wahân i nifer fach o gyrsiau ar-lein, mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau'n cynnwys addysgu wyneb yn wyneb ar y campws, gan alluogi ymgysylltiad llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr. Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy, a gweithdai yn bennaf yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y campws, gan ganiatáu gweithio mewn grŵp ac arddangosiadau. Rydym hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac Amgylcheddau Dysgu Efelychol a fydd yn hwyluso mwy o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae ein dulliau addysgu hefyd yn cynnwys defnyddio rhywfaint o ddysgu ar-lein i gefnogi a gwella addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol. Gall dysgu ar-lein ddigwydd ‘yn fyw’ gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, sy'n eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Mae recordiadau darlithoedd hefyd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ailedrych ar ddeunydd, i adolygu at asesiadau ac i wella dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol ar Canvas, megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi astudiaeth hyblyg bellach.
How to apply
This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application codes
- Course code:
- Q561
- Institution code:
- S93
- Campus name:
- Singleton Park Campus
- Campus code:
- -
Points of entry
The following entry points are available for this course:
- Year 1
International applicants
If you are an International Student, please visit our International pages for more information about entry requirements: http://www.swansea.ac.uk/international/students/requirements/
Entry requirements
Qualification requirements
A level - ABB - BBC
Access to HE Diploma - D: 21 credits M: 18 credits
International Baccalaureate Diploma Programme - 32 points
WJEC Level 3 Advanced Skills Baccalaureate Wales
Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (last awarded Summer 2024)
Extended Project
Leaving Certificate - Higher Level (Ireland) (first awarded in 2017) - H3, H3, H3, H3, H3, H3
GCSE/National 4/National 5
Our preferred offer is BBB at A-level or equivalent. We do not require A-level Welsh for first language Welsh speakers. All offers are made following a review of the application form, predicted/achieved grades and subjects, the reference and personal statement. Welsh-medium provision is a key priority for the Welsh Government. The Welsh Government has a target of one million Welsh speakers by 2050 and sees education and linguistic progression as one of the main ways to achieve this, Therefore to support this priority, candidates, applying for Single Honours Welsh-medium degrees will receive an unconditional offer if their predicted achievement meets or exceeds our entry requirements, there is a record of success in a relevant GCSE and they hold Swansea University as their firm choice.
English language requirements
For applicants whose first language is not English we require a minimum overall IELTS score of 6.0 (or equivalent) and no less than 5.5 in each component.
English Language Requirements at Swansea University
https://www.swansea.ac.uk/admissions/english-language-requirements/
Student Outcomes
The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.
Fees and funding
Tuition fees
No fee information has been provided for this course
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .
Additional fee information
Sponsorship information
Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau. https://www.swansea.ac.uk/cy/israddedig/ysgoloriaethau/ I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol. Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi: https://www.swansea.ac.uk/cy/academi-hywel-teifi/dysgu/ysgoloriaethau/
Provider information
Swansea University
Singleton Park
Swansea
SA2 8PP