Cymraeg (Welsh) and Linguistics at Bangor University - UCAS

Course summary

Ar y cwrs cyd-anrhydedd hwn, bydd eich modiwlau'n cael eu rhannu rhwng Cymraeg ac Ieithyddiaeth. Mae Cymraeg yn faes eang sy'n cwmpasu chwedlau'r Mabinogi a gwaith ôl-fodernaidd awduron fel Mihangel Morgan. Ieithyddiaeth yw'r astudiaeth o strwythur iaith, sut y caiff ieithoedd eu caffael, sut y cânt eu defnyddio, a sut y gall nam ieithyddol amharu arnynt. Wrth i Gymru gofleidio dwyieithrwydd fwyfwy byddwch hefyd yn astudio defnydd proffesiynol y Gymraeg ac yn anelu at yrfa yn y sectorau marchnata, llywodraeth leol, darlledu, cyhoeddi, addysgu, cyfieithu a'r celfyddydau. Byddwch yn astudio'r pynciau hyn mewn canolfan sydd ag enw da drwy'r byd ar gyfer astudio Cymraeg, Astudiaethau Celtaidd a Dwyieithrwydd, a honno wedi ei lleoli mewn ardal lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf i'r mwyafrif. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd hynod werthfawr i wneud gwaith maes mewn meysydd fel dwyieithrwydd, caffael a throsglwyddo iaith, a sut mae plant yn ymwneud ag iaith. O gyfuno Cymraeg ac Ieithyddiaeth cewch eich arfogi â gwybodaeth eang o iaith, llenyddiaeth yn ogystal â sgiliau gwyddonol sy'n briodol i bob math o yrfaoedd. Byddwch yn dysgu sut i ymateb yn wreiddiol i lenyddiaeth, ac yn dod i ddeall mwy am hanes a chymdeithaseg yr iaith Gymraeg. Cyfoethogir hyn trwy edrych ar ddatblygiadau ieithyddol yn fyd-eang, a dod i ddeall yn wyddonol sut y mae iaith yn cael ei defnyddio a'i phrosesu gan unigolion a chymunedau, gan gynnwys rhai dwyieithog. Mwynhewch hyn oll ochr yn ochr â dysgu sgiliau ymarferol y mae galw cynyddol amdanynt yng ngweithleoedd Cymru heddiw, o ysgrifennu'n hyderus ac yn effeithiol, i gyfieithu a sgriptio, ac o gasglu a dadansoddi data i gyflwyno canfyddiadau ymchwil mewn modd eglur, trefnus ac effeithiol. Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle arbennig i gyfuno'r llenyddol, y creadigol, yr ieithyddol a'r gwyddonol. Yn sicr, mae amrywiaeth y cwrs yn eithriadol o werthfawr, a'r ddau bwnc yn cynnig rhychwant eang o sgiliau a gwybodaeth i chi. Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad. Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) neu English Language and English Literature (with Foundation Year) QQCF.

Modules

For details of the modular structure, please see the course description on Bangor University's website.


How to apply

Application codes

Course code:
QQ15
Institution code:
B06
Campus name:
Main Site
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt. Gellir ystyried cymwysterau Lefel 3 ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg (e.e. Safon Uwch, IB Uwch). Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Os nad ydych yn meddwl y byddwch yn cwrdd a’r gofynion mynediad a nodwyd, efallai y gallwch gael mynediad i’r cwrs hwn trwy lwybr Blwyddyn Sylfaen. Gwelwch: Cymraeg i Ddechreuwyr (Q565) neu English Language and English Literature with Foundation Year (QQCF). Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion sylfaenol iaith Saesneg), manylion yma: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements We are happy to accept combinations of the qualifications listed above, as well as alternative Level 3 qualifications such as City & Guilds, Access and Cambridge Technical Diplomas. Level 3 qualifications can be considered in conjunction with another qualification in Welsh (e.g. A-level, IB Higher). We also welcome applications from mature learners. If you don't think you'll meet the entry requirements specified, you may be able to gain entry to this course via a Foundation Year route. Please see: Cymraeg i Ddechreuwyr / Welsh for Beginners (Q565) or English Language and English Literature with Foundation Year (QQCF). International Candidates: school leaving qualifications and college diplomas are accepted from countries worldwide (subject to minimum English Language requirements), details at: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements


English language requirements

For the most up-to-date information on acceptable English Language proficiency qualifications, please visit our webpage below.

https://www.bangor.ac.uk/international/future/englishlanguage


Student Outcomes

Operated by the Office for Students
55%
Employment after 15 months (Most common jobs)
100%
Go onto work and study

The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

Republic of Ireland £9000 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1

Additional fee information

Tuition fees and scholarship information for International applicants can be found here: https://www.bangor.ac.uk/international/tuition
Cymraeg (Welsh) and Linguistics at Bangor University - UCAS