Cynradd gyda SAC at Swansea University - UCAS

Swansea University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Swansea University (Prifysgol Abertawe)

Cynradd gyda SAC

Course summary

Mae SUSP (Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe) wedi ymrwymo i ddarparu addysg gychwynnol athrawon o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion system addysg Gymraeg sy'n cael ei thrawsnewid yn sylweddol yn y cwricwlwm. Mae'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) amser llawn am flwyddyn gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) a gynigir gan Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe yn cysylltu ymchwil a pholisi ag ymarfer cynradd. Bydd ein rhaglen TAR Cynradd yn caniatáu ichi ddatblygu sgiliau addysgu ar draws y cyfnod oedran cynradd a datblygu eich dealltwriaeth o'r cwricwlwm newydd yng Nghymru. Byddwch yn gweithio gyda thiwtoriaid a mentoriaid Prifysgol profiadol, brwdfrydig yn ein hysgolion Partneriaeth ledled De Cymru i ddatblygu a myfyrio ar eich ymarfer addysgu eich hun. Mae'r rhaglen yn unigryw oherwydd, ar ôl profi lleoliadau addysgu ar draws y cyfnod oedran cynradd, gallwch ddewis arbenigo mewn cyd-destunau Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 neu Bob Oed. Bydd hyn nid yn unig yn gwella'ch gwybodaeth am addysgu a'r cwricwlwm yn eich cyfnod arbenigol, ond hefyd yn dwysau eich dealltwriaeth o sut mae plant yn dysgu ac yn datblygu. Mae ymchwil yn sail i bob agwedd ar raglen SUSP, sy'n eich galluogi i elwa o enw da cenedlaethol a rhyngwladol y Brifysgol. Gydag ymrwymiad cryf y Bartneriaeth i les, byddwch yn profi cefnogaeth bersonol, broffesiynol ac academaidd o ansawdd uchel trwy gydol y flwyddyn.

Modules

Cyflwynir y rhaglen TAR (Cynradd) gan Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (SUSP) sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe ac Ysgolion Partneriaeth Arweiniol a Rhwydwaith wedi'u lleoli ledled de Cymru. Mae'r brifysgol a'r ysgolion yn rhannu atebolrwydd am bob agwedd ar lywodraethu, cynllunio, cyflwyno a gwerthuso rhaglenni. Yn ogystal, mae Academi Hywel Teifi yn darparu 35 awr o hyfforddiant Iaith Gymraeg i'r holl athrawon dan hyfforddiant ar y rhaglen. Mae'r rhaglen yn cynnwys 3 modiwl: Mae'r modiwl Archwilio Addysgeg, Cwricwlwm ac Asesu yn yr Ysgol Gynradd (EDPM31) yn datblygu dealltwriaeth athro dan hyfforddiant o, a gallu i ddefnyddio strategaethau effeithiol ar gyfer addysgu, dysgu ac asesu ar draws y cyfnod oedran cynradd. Mae'r modiwl Ymarfer Myfyriol seiliedig ar Ymchwil (EDPM32) yn cyflwyno athrawon cynradd i ddulliau meintiol, ansoddol a dull cymysg o ymchwil addysg. Mae'r modiwl Ymarfer a Lleoliad Proffesiynol (EDP301) wedi'i gynllunio i alluogi athrawon dan hyfforddiant i weithio mewn lleoliad ‘ymarfer clinigol’ ysgol ac i weithio tuag at Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth ar lefel Statws Athro Cymwysedig (SAC). Mae wedi'i leoli yn yr ysgol yn bennaf ac mae'n cynnwys dau leoliad addysgu bloc a'r diwrnodau Ymarfer a Theori (PAT).

Qualified teacher status (QTS)

To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:

  • Primary

How to apply

Application codes

Course code:
3FZ1
Institution code:
S93
Campus name:
Singleton Park Campus
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

Please click the following link to find out more about qualification requirements for this course

https://www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/addysgir/gwyddorau-cymdeithasol/addysg-astudiaethau-plentyndod/tar-cynradd/

Additional entry requirements

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)

Other

Gwiriadau iechyd. Cyfweliad. Datganiad cofnodion troseddol (Tystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd/Datgeliad yr Alban).


Student Outcomes

Operated by the Office for Students

There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

No fee information has been provided for this course

Additional fee information

For the latest fee information, please check the individual course page on our website. Our full range of programmes are listed here: https://www.swansea.ac.uk/undergraduate/courses/ Further information on tuition fees can be found here: https://www.swansea.ac.uk/undergraduate/fees-and-funding/tuition-fees/
Cynradd gyda SAC at Swansea University - UCAS