Celf - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University - UCAS

Bangor University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Bangor University (Prifysgol Bangor)

Celf - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

Course summary

UCAS Code: 3D3G TAR Uwchradd - Celf (gyda SAC) Does dim rhaid i chi fod yn Artist i fod yn Athro Celf – mae'r pwyslais ar ysbrydoli eraill i weld yr annisgwyl a’r gallu i godi cwestiynau caeëdig ar weithiau Celf! O fewn ein rhaglen Celf TAR Uwchradd fe ganolbwyntir ar ddatblygu Athrawon Celf chwilfrydig a mentrus. Byddwch yn ymroi i ddarlithoedd, seminarau a phrofiad arsylwi ac addysgu lle y byddwch wedi meddu ar sgiliau cyfoethog ar sut i gydweithio, arwain, ymateb a pharatoi gwersi heriol fel athro Celf creadigol ac arloesol. Yma ym Mangor byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro Celf rhagorol, ond hefyd yn athro’r Celfyddydau Mynegiannol, trwy roi’r cyfleoedd i chi archwilio agweddau o’r Cwricwlwm i Gymru a’r Medrau fel eich bod yn rhoi ffocws cadran wrth gynllunio gwersi cyffrous a chyfoethog. Pam Astudio gyda Ni? · Does unlle gwell i astudio eich cymhwyster TAR Celf nag yma ym Mangor, lle mae posibl astudio’n ddwyieithog, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg – yn sicr, gall hyn agor drysau ar gyfer swyddi dros Gymru ac ymhellach. Heb amheuaeth, mae gennym naws gartrefol sy’n meithrin myfyrwyr Celf hapus, diymhongar a hyderus. Bydd gennych fynediad at adnoddau cyfoethog megis orielau ac amgueddfeydd Celf lleol ac atyniadau o harddwch naturiol yn Ngogledd Cymru i'ch ysbrydoli wrth i chi baratoi ar gyfer eich gyrfa newydd gyffrous mewn addysg. · Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn trosglwyddo'r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn addysgwyr effeithiol ar gyfer y dyfodol. Cewch brofiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich cynnydd a chyflawniad tuag at Statws Athro Cymwysedig. · Bydd cyfle i astudio meysydd penodol o ran rheoli ymddygiad yn gadarnhaol; gwahaniaethu strategol; dadansoddi theoriau damcaniaethwyr a chynllunio ar gyfer amgylchedd dysgu diogel a chyfforddus. • Byddwn yn herio ac yn ysgogi drwy rol fodelu o ran datblygu’r medrau o fewn gwersi er mwyn sicrhau ffocws ar gywirdeb a phatrymau iaith cyfoethog gyda hyn fe roddir ystyriaeth gref ar strategaethau asesu i gydymffurfio ag Amser Gwella a Myfyrio (AMG). • Mae lles, gofal, cymorth ac arweiniad yn flaenriaeth gennym er mwyn i bob myfyriwr deimlo’n hapus a diogel, a thrwy hynny arddangos agweddau cadarnhaol at ddysgu. Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae'n drosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwys gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored. Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am 3F5L.

Qualified teacher status (QTS)

To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:

  • Secondary

How to apply

Application codes

Course code:
3D3G
Institution code:
B06
Campus name:
Main Site
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

*Gofynion Mynediad* • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig a'r pwnc. • Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg. • Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd. • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg. • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5).

Additional entry requirements

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)

Interview


Student Outcomes

Operated by the Office for Students

There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

Republic of Ireland £9000 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1

Additional fee information

Tuition fees and scholarship information for International applicants can be found here: https://www.bangor.ac.uk/international/tuition
Celf - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University - UCAS