Skip navigation
Cymraeg Proffesiynol at Aberystwyth University - UCAS

Aberystwyth University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Aberystwyth University (Prifysgol Aberystwyth)

Cymraeg Proffesiynol

Course summary

Cwrs ar gyfer ymgeiswyr iaith gyntaf yn unig. Bu sefydlu Senedd Cymru ac ychwanegu mwy o bwerau yn ddiweddarach ynghyd a Deddf yr Iaith Gymraeg yn sbardun i'r angen am raddedigion o safon uchel - unigolion sydd sy'n gymwys i ymuno â gweithlu proffesiynol, ac i weithio'n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Oherwydd hynny, mae'n amser hynod gyffrous i astudio Cymraeg yn y brifysgol. Wrth ddewis astudio'r cwrs BA Cymraeg Proffesiynol, byddi'n ymuno â chwrs Cymraeg arloesol sydd yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol a galwedigaethol sy'n addas ar gyfer y gweithle proffesiynol yn y Gymru gyfoes a'r tu hwnt. Heddiw, mae cyflogwyr, yn ogystal â darpar fyfyrwyr a rhieni, yn chwilio am radd ‘safon aur’ yn y Gymraeg. Dyma’r radd honno. Pam astudio Cymraeg Proffesiynol yn Aber?

  • Cartref Cymraeg Proffesiynol - Cyflwynwyd y cwrs yma yn gyntaf yn 2012 ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.
  • Safonau Uchel - Fel adran rydym yn cynnal safonau sy’n gyson uchel ac yn cyflwyno cyrsiau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg.
  • Arbenigwyr - Byddi'n cael dy ddysgu gan ddarlithwyr sy'n arbenigwyr yn eu meysydd.
  • Darlithydd Cymraeg Proffesiynol Dynodedig - Mae'r cwrs yn cael ei gyd-lynu gan Dr Rhianedd Jewell, darlithydd dynodedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol, sydd yn rhoi ei sylw yn arbennig i'r cwrs hwn.
  • Amrywiaeth - Cei ddewis o blith amrywiaeth eang o bynciau diddorol, o gyfieithu, golygu a chyhoeddi i ysgrifennu creadigol a hybu treftadaeth.
  • Canlyniadau Gwych - Mae canlyniadau ein graddedigion mewn Cymraeg Proffesiynol o safon uchel iawn.
  • Grwpiau Bach - Cwrs dethol yw hwn, ac felly mae'r dysgu'n digwydd mewn grwpiau bach. Mae'r sesiynau hyn yn adlewyrchu cyfarfodydd tîm y byd gwaith.
  • Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Yn Aberystwyth cei fyw trwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma: gweithgareddau UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth), neuadd Pantycelyn, teithiau rygbi, côr Pantycelyn, a mwy.
  • Boddhad Myfyrwyr - Yn yr arolwg cenedlaethol diweddar o fodlonrwydd myfyrwyr, roedd 100% o foddhad cyffredinol ym maes Astudiaethau Cymraeg ac roedd 94% o foddhad cyffredinol yn yr Adran (NSS 2020).
  • Y Llyfrgell Genedlaethol - Yn ogystal â'r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae'r Adran ar stepen drws y Llyfrgell Genedlaethol - llyfrgell hawlfraint sydd â thros 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau ac fe gei ymaelodi'n rhad ac am ddim!
Dyma grynodeb o'r hyn y mae'n bosibl y byddi'n ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd. Blwyddyn 1 Yn y flwyddyn gyntaf byddi'n astudio'r modiwl Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol. Fel y mae'r enw yn ei awgrymu, mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i'r maes. Byddi'n dysgu rhychwant o sgiliau megis cyfieithu ar y pryd, sgiliau gweinyddol, siarad cyhoeddus, golygu a marchnata. Bydd cyfle iti weithio fel tîm ac i ddatblygu dy sgiliau marchnata wrth drefnu'r Noson Llên a Chân. Byddi'n cael gweithredu ar fwrdd golygyddol Y Ddraig, cylchgrawn llenyddol yr Adran. Ti a'r myfyrwyr eraill fydd yn comisiynu ac yn golygu'r gwaith. Blwyddyn 2 a 3 Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn byddi'n dilyn pedwar modiwl Cymraeg Proffesiynol: Y Gymraeg yn y Gweithle - Modiwl profiad gwaith yw hwn; Trosi ac Addasu - Modiwl cyfieithu; Bro a Bywyd - trafod twristiaeth a threftadaeth lenyddol; Prosiect Hir - cyfle i weithio ar brosiect ymchwil gwreiddiol ym maes Cymraeg Proffesiynol. Cei ddewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau eraill yr Adran yn ogystal. Sut y bydda i'n cael fy addysgu? Drwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae’r grwpiau yn llai a’r awyrgylch yn fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored. Sut y bydda i'n cael fy asesu? Mae gwaith y myfyrwyr yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.


How to apply

Application codes

Course code:
Q5P0
Institution code:
A40
Campus name:
Main Site (Aberystwyth)
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

Applicants are selected on their individual merits and offers can vary. We allow you flexibility in meeting our entry requirements, and all qualifications that you have already gained, or are working towards, will be considered when reviewing your application. We have an inclusive policy which recognises a broad range of qualifications. The entry requirements listed above represent typical offers for some of the most popular qualifications taken by applicants. If you cannot find the qualifications that you are studying (or have previously studied) please contact our Undergraduate Admissions Office (Telephone: +44 (0)1970 622021; Email: [email protected]) for advice on your eligibility and details of the typical offer you are likely to receive.

Additional entry requirements

Other

A minimum grade C or grade 4 pass in GCSE (or equivalent) English or Welsh is a requirement for entry to all our degree schemes. Business, Psychology, Mathematics, and Science degree schemes also require a minimum grade C or grade 4 pass in Mathematics and/or Science at GCSE (or equivalent).


English language requirements

TestGradeAdditional details
Cambridge English AdvancedB
Cambridge English ProficiencyC
IELTS (Academic)6.5With minimum 5.5 in each component.
PTE Academic62With minimum scores of 51 in each component.
TOEFL (iBT)88With minimum scores in components as follows: Listening 21; Writing 21; Reading 22; Speaking 23.

If you are an international student needing more information about the English Language requirement for your course (e.g. country-specific English Language tests, Partner Institution tests, EU/EEA English Language qualifications where the school curriculum is taught in a native language) please contact the Undergraduate Admissions Office for further advice.


Student Outcomes

Operated by the Office for Students
55%
Employment after 15 months (Most common jobs)
70%
Go onto work and study

The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

England £9250 Year 1
Northern Ireland £9250 Year 1
Scotland £9250 Year 1
Wales £9250 Year 1
Channel Islands £9250 Year 1
Republic of Ireland £9250 Year 1
EU £18170 Year 1
International £18170 Year 1

Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .

Additional fee information

Please note Irish nationals will continue to be eligible for home fee status and support by the Welsh Government under the Common Travel Area arrangement

Sponsorship information

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig pecyn gwerthfawr o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gynorthwyo myfyrwyr. Mae ein cystadleuaeth Ysgoloriaeth Mynediad hirsefydlog yn golygu y gallech gael hyd at £2,000 y flwyddyn tuag at eich costau byw a’ch costau astudio. Gallwch gyfuno Ysgoloriaeth Mynediad gydag unrhyw un, neu â’n holl wobrau eraill, i wneud eich pecyn ariannol yn fwy gwerthfawr. Mae’n ein gwobrau’n cynnwys Bwrsariaeth Aberystwyth, sy’n dibynnu ar brawf modd, yr Ysgoloriaethau Chwaraeon a Cherddoriaeth, bwrsariaethau i rai sy’n gadael gofal/gofalwyr ifainc/myfyrwyr dieithredig ac ystod o wobrau adrannol-benodol. Ewch i’n gwefan i gael y manylion llawn.

Cymraeg Proffesiynol at Aberystwyth University - UCAS