Skip navigation
Addysg Gorfforol at University of Wales Trinity Saint David - UCAS

Course options

Course summary

Mae ein gradd BA Addysg Gorfforol wedi’i chynllunio i’ch helpu i ddod yn fedrus wrth addysgu addysg gorfforol a hyfforddi chwaraeon ieuenctid. Mae’r cwrs hwn yn cyfuno cynnwys academaidd a gweithgareddau ymarferol er mwyn rhoi addysg gynhwysfawr i chi. Fel myfyriwr, byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol, megis gemau, athletau, iechyd a ffitrwydd, dawns, nofio, gymnasteg, a gweithgareddau anturus. Mae’r dull ymarferol hwn yn sicrhau eich bod yn cael profiadau byd go iawn wrth ddysgu. Byddwch yn cael eich arwain gan dîm o staff academaidd ysbrydoledig sydd â phrofiad helaeth o weithio ac ymchwilio ym meysydd addysg gorfforol a chwaraeon. Bydd eu harbenigedd yn cefnogi eich twf a’ch datblygiad trwy gydol eich astudiaethau. Mae’r cwrs wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad ag ymarferwyr o feysydd addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid. Mae hyn yn sicrhau bod y cwricwlwm yn berthnasol ac yn gyfredol, gan eich paratoi ar gyfer yr heriau yn y maes. P’un a ydych yn anelu at gymhwyster ôl-raddedig mewn addysg (Addysg Gorfforol Cynradd neu Uwchradd) neu yrfa mewn chwaraeon ieuenctid a hyrwyddo gweithgaredd corfforol, mae’r radd hon yn darparu sylfaen ardderchog. Mae astudio yn PCYDDS yn golygu bod yn rhan o gymuned sy’n gwerthfawrogi addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid o safon uchel. Mae’r meysydd hyn yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles pobl ifanc. Drwy ddatblygul gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol, byddwch yn gymwys i gefnogi pobl ifanc i fyw bywydau iach ac egnïol. Y radd Addysg Gorfforol yn PCYDDS yw eich porth i yrfa werthfawr. Mae’n cynnig cyfuniad o gynnwys academaidd a phrofiad ymarferol ar draws ystod o weithgareddau. Mae’r cydbwysedd hwn yn eich helpu i ddeall a chymhwyso egwyddorion addysgu addysg gorfforol a hyfforddi chwaraeon ieuenctid yn effeithiol. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol megis gemau, athletau, iechyd a ffitrwydd, dawns, nofio, gymnasteg a gweithgareddau antur drwy gydol eich cwrs. Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u cynllunio i wneud dysgu’n ysgogol a sicrhau eich bod yn datblygu sgiliau gwerthfawr drwy gymhwyso theori i ymarfer. Mae addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid o safon uchel yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles pobl ifanc. Drwy gwblhau’r radd hon, byddwch yn cael yr wybodaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i helpu pobl ifanc i fyw bywydau iach ac egnïol. Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfuniad unigryw o gynnwys academaidd a phrofiad ymarferol gan eich darparu â’r sgiliau a’r wybodaeth i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc.yfrwng y Gymraeg.

Modules

Blwyddyn 1 Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i hanfodion addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid. Mae modylau’n ymdrin â hanfodion hwyluso gweithgareddau anturus ac addysg greadigol drwy symud. Byddwch yn dechrau datblygu’ch gwybodaeth ddamcaniaethol ochr yn ochr â sgiliau ymarferol. Gorfodol Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credydau) Hwyluso Gweithgareddau Anturus (20 credydau) Addysg Greadigol trwy Symud (20 credydau) Addysg Gorfforol a Gweithgareddau Dŵr (20 credydau) Dewisol Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth (20 credydau) Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd ac Ymarfer Corff (20 credydau) Ffisioleg Ddynol a Ffitrwydd (20 credydau) Blwyddyn 2 Bydd yr ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddyfnhau eich dealltwriaeth o addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid. Byddwch yn archwilio dulliau addysgu uwch, technegau hyfforddi, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol mwy arbenigol. Yn ogystal, byddwch yn dechrau cymhwyso dulliau ymchwil a datblygu gwybodaeth ar iechyd a lles mewn addysg. Gorfodol Iechyd a Llesiant mewn Addysg (20 credydau) Sylfeini ar gyfer Dysgu Corfforol ac Awyr Agored o Ansawdd Uchel (20 credydau) Ymchwil mewn Iechyd, Ymarfer Corff ac Addysg Gorfforol (20 credydau) Gweithgareddau cystadleuol: Dull Ymarfer Seiliedig ar Fodel (20 credydau) Datblygu eich Proffil Proffesiynol (Lleoliad) (20 credydau) Dewisol Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (20 credydau) Ffisioleg Ymarfer Corff (20 credydau) Cyfle Symudedd Rhyngwladol (60 Credyd) Blwyddyn 3 Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn mireinio eich arbenigedd a pharatoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Byddwch yn cymryd rhan mewn astudiaeth fanwl o addysg, chwaraeon ac addysg gorfforol gan ganolbwyntio ar hyrwyddo bywydau iach ac egnïol ymhlith pobl ifanc. Mae’r flwyddyn yn dod i ben gyda phrosiect ymchwil annibynnol sylweddol sy’n cymhwyso’r cyfan yr ydych wedi’i ddysgu. Gorfodol Prosiect Annibynnol (40 credydau) Antur Cwricwlwm (20 credydau) Asesu mewn Addysg Gorfforol (20 credydau) Addysg, Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (20 credydau) Dewisol Safbwyntiau mewn Iechyd a Gweithgarwch Corfforol (20 credydau) Addysgeg Hyfforddi (20 credydau)

Assessment method

Yn unol â’r athroniaeth sy’n tanategu’r radd, rhoddir pwyslais cryf ar ddulliau dysgu ac addysgu wrth asesu modylau. Er bod perfformiad personol o ansawdd da yn cael ei annog, nid yw’n ffocws asesiadau’r modylau ymarferol eu natur. Yn lle hyn, caiff materion cynhwysiant, hawl a gwahaniaethu eu mewnosod yn llawer o’r asesiadau, a bydd rhaid i fyfyrwyr gynllunio a gwerthuso eu haddysgu nhw eu hunain ac eraill. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno dadl gytbwys â thystiolaeth trwy eu gwaith ysgrifenedig ffurfiol, yn ogystal â thrwy cyflwyniadau unigol a grŵp. Yn y flwyddyn olaf, bydd myfyrwyr yn dylunio a chynnal eu prosiect ymchwil neu bortffolio beirniadol eu hunain mewn maes arbenigol o’u dewis. Ymhlith y mathau penodol o asesiad mae: traethodau; adroddiad labordy; cyflwyniadau (grŵp ac unigol); tasgau ymarferol; a, arholiadau (papurau a welwyd ac na welwyd).


How to apply

Application codes

Course code:
XC96
Institution code:
T80
Campus name:
Carmarthen Campus
Campus code:
C

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

Additional entry requirements

Audition

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)

Interview


Student Outcomes

Operated by the Office for Students
60%
Employment after 15 months (Most common jobs)
75%
Go onto work and study

The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

England £9250 Year 1
Northern Ireland £9250 Year 1
Scotland £9250 Year 1
Wales £9250 Year 1
Channel Islands £9250 Year 1
Republic of Ireland £9250 Year 1
EU £13500 Year 1
International £13500 Year 1

Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .

Additional fee information

No additional fees or cost information has been supplied for this course, please contact the provider directly.
Addysg Gorfforol at University of Wales Trinity Saint David - UCAS