Course summary
UCAS Code: 3D2Z TAR Uwchradd - Gweithgareddau Awyr Agored (GAA) (gyda SAC) Rhannwch eich brwdfrydedd am yr awyr agored gyda'r rhaglen gweithgareddau awyr agored TAR, yr unig gyfle i ennill TAR gyda SAC mewn addysg awyr agored ac antur yn y DU. Gyda pharc cenedlaethol Eryri ar garreg ein drws, lleoliad campws yn llythrennol ar lannau’r Fenai, dim ond eich dychymyg fydd yn cyfyngu ar eich cyfleoedd i addysgu a dysgu yn yr awyr agored. Bydd cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a llawer o sesiynau profiad ymarferol yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu yn yr awyr agored ac yn rhoi’r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn athro arloesol yn yr awyr agored. Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro addysg awyr agored ac antur rhagorol, ond hefyd yn addysgwyr awyr agored (gan symud y tu hwnt i hyfforddiant awyr agored), gyda'r gallu i gyfrannu at y cwricwlwm iechyd a lles ehangach, boed hynny mewn canolfan addysg awyr agored breswyl neu addysgu mewn ysgol. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd unigryw i ddatblygu eich sgiliau addysgu ym maes arall o'r cwricwlwm gyda'n rhaglen dull ar y cyd lle gallwch gyfuno llawer o'n pynciau TAR eraill gyda Gweithgareddau Awyr Agored. Os yw eich gradd mewn pwnc nad yw'n gysylltiedig â'r awyr agored ond bod gennych brofiad sylweddol o weithio yn yr awyr agored efallai y bydd y llwybr llawn her ond buddiol hwn yn addas i chi. Mae'r rhaglen Gweithgareddau Awyr Agored yn gweithredu fel dull ar y cyd neu lwybr un dull yn dibynnu ar eich gradd a'ch profiad. Pam astudio gyda ni? • Pa le gwell i astudio addysg awyr agored ac antur nag ar gyrion parc cenedlaethol Eryri gydag arfordir Ynys Môn sydd gyda’r gorau yn y byd ar garreg ein drws. Y rhaglen Gweithgareddau Awyr Agored yw’r cwrs addysg athrawon addysg awyr agored sydd wedi cael ei gynnar hiraf yn y DU a dyma’r unig gwrs erbyn hyn sy’n cynnig SAC trwy TAR mewn addysg antur ac awyr agored. • Mae storfa o offer ardderchog yn golygu y gallwch weithio tuag at wobrau corff llywodraethu cenedlaethol heb fod angen buddsoddi'n drwm mewn cychod, beiciau, offer dringo neu offer ac mae llawer o gyfleoedd i gyfoethogi'ch astudiaethau trwy fynd ar deithiau tramor a sesiynau datblygu sgiliau. • Bydd tiwtoriaid profiadol ac ymchwilwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau ysgol arweiniol a chanolfan breswyl gyda mentoriaid medrus a phrofiadol iawn, ynghyd â lleoliadau mewn ysgolion a chanolfannau addysg awyr agored preswyl yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig. • Cewch gyfle i astudio tra'n ymdrochi yn niwylliant, iaith ac amgylchedd Cymru, yma ym mhrydferthwch gogledd Cymru. Cewch gefnogaeth broffesiynol i ddysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n rhugl yn yr iaith. Gallwch ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Caiff y TAR hwn gyda SAC ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml gellir ei drosglwyddo ymhellach na hynny i fynd i mewn i'r proffesiwn dysgu. Dylai'r rhai sy'n dymuno dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod yno ac yn drosglwyddadwy.
Qualified teacher status (QTS)
To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:
- Secondary
How to apply
This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application codes
- Course code:
- 3D2Z
- Institution code:
- B06
- Campus name:
- Main Site
- Campus code:
- -
Points of entry
The following entry points are available for this course:
- Year 1
Entry requirements
Qualification requirements
*Gofynion Mynediad* • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig a'r pwnc. • Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg. • Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd. • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg. • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5).
Additional entry requirements
Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)
Interview
Student Outcomes
There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.
Fees and funding
Tuition fees
Republic of Ireland | £9000 | Year 1 |
England | £9000 | Year 1 |
Northern Ireland | £9000 | Year 1 |
Scotland | £9000 | Year 1 |
Wales | £9000 | Year 1 |
Channel Islands | £9000 | Year 1 |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .
Additional fee information
Provider information
Bangor University
Bangor (Wales)
LL57 2DG