Hanes - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University - UCAS

Bangor University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Bangor University (Prifysgol Bangor)

Hanes - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

Course summary

UCAS Code: 3D3S TAR Uwchradd - Hanes (gyda SAC) Dewch â Hanes yn fyw i ddisgyblion trwy ddilyn ein rhaglen Hanes TAR Uwchradd. Bydd cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a phrofiad ymarferol yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae disgyblion yn dysgu ac yn eich arfogi â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddatblygu fel athro Hanes creadigol ac arloesol. Yma ym Mangor byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro Hanes rhagorol, ond hefyd yn athro’r Dyniaethau, trwy roi’r cyfleoedd i chi archwilio agweddau eraill o’r Cwricwlwm Dyniaethau, fel eich bod yn gwbl barod i gwrdd â’r anghenion y Cwricwlwm i Gymru. Pam astudio gyda ni? • Lle gorau i astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR Hanes nag yma ym Mangor, lle mae safleoedd hanesyddol allweddol, gan gynnwys un o safleoedd treftadaeth y byd UNESCO, ar garreg eich drws. Bydd gennych fynediad at adnoddau cyfoethog lleoliadau treftadaeth lleol, henebion ac amgueddfeydd i'ch ysbrydoli wrth i chi baratoi ar gyfer eich gyrfa newydd gyffrous mewn addysg. • Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig. • Cyfle i astudio tra'n ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n ddefnyddiwr rhugl o'r iaith. Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae'n drosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwys gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw. Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored. Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am 3F5S.

Qualified teacher status (QTS)

To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:

  • Secondary

How to apply

Application codes

Course code:
3D3S
Institution code:
B06
Campus name:
Main Site
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

*Gofynion Mynediad* • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig a'r pwnc. • Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg. • Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd. • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg. • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5).

Additional entry requirements

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)

Interview


Student Outcomes

Operated by the Office for Students

There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

Republic of Ireland £9000 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1

Additional fee information

Tuition fees and scholarship information for International applicants can be found here: https://www.bangor.ac.uk/international/tuition
Hanes - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University - UCAS