Cerddoriaeth - TAR Uwchradd -(yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University - UCAS

Bangor University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Bangor University (Prifysgol Bangor)

Cerddoriaeth - TAR Uwchradd -(yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

Course summary

UCAS Code: 3D3V TAR Uwchradd - Cerddoriaeth (gyda SAC) Mae cerddoriaeth yn bwysig i bawb. Yn ifanc iawn, bydd rhai yn ymwneud yn ymarferol â cherddoriaeth – boed yn lleisiol, yn offerynnol, mewn band roc, côr neu gerddorfa; bydd eraill yn bodloni ar ymlacio dwy wrando ar gerddoriaeth o arddulliau amrywiol. Ydy, mae cerddoriaeth yn elfen annatod o fywyd, ac mae’n bwysig ein bod yn darparu sylfaen o wybodaeth a sgiliau cerddorol cadarn ar gyfer dysgwyr y dyfodol. Mae cwrs TAR Cerddoriaeth yn gyfle i chi ymwneud yn ymarferol â’ch pwnc, datblygu sgiliau addysgu a gwneud gwahaniaeth. Prif nod cwrs TAR Cerddoriaeth yw dirnad sut i ddysgu a chael profiad trwy Gerddoriaeth. Yn un o bynciau Y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm i Gymru newydd, mae cyfle ymarferol a rhyngweithiol, drwy Gerddoriaeth, i archwilio, ymateb, ac i greu. Yn y darlithoedd bydd cyfle i astudio, trafod, a datblygu dealltwriaeth o sut i greu gweithgareddau deniadol, diddorol sy’n cyfuno Perfformio, Cyfansoddi a Gwerthuso. Drwy ddulliau ymarferol, bydd y cwrs yn ffocysu ar bedagogeg gerddorol a strategaethau addysgu effeithiol a fydd yn arwain at ddatblygu chwilfrydedd, creadigrwydd, meddwl beirniadol, hunan werth, hunan hyder a gwydnwch. Dyma gwrs a galwedigaeth sy’n caniatáu ichi fwynhau eich pwnc ac i ysbrydoli cerddorion y dyfodol, beth bynnag eu profiad a’u diddordeb cerddorol. Mae’n llwybr ichi ddatblygu’n broffesiynol, i gydweithio ag eraill yn ogystal â lledaenu eich arbenigedd personol. Pam astudio gyda ni?

  • Bydd tiwtor prifysgol profiadol ac empathetig yn eich arwain ac yn eich cefnogi, gan sicrhau bod gennych y sgilau, yr wybodaeth gyfredol a’r hyder i fod yn addysgwyr effeithiol
  • Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau leoliad ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig (SAC)
  • Byddwch yn meithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ddiwylliant cerddorol cyfoethog ac amrywiol Cymru yng nghyd-destun ymwybyddiaeth gymdeithasol a diwylliannol ehangach. Gellir astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn unol â’r gofyn
  • Bydd cyfle ichi fwynhau harddwch Eryri a glannau arfordir Gogledd Cymru yn ystod eich astudiaethau ym Mangor. Bydd cyfle o gydweithio gydag adrannau eraill e.e. TAR Uwchradd Awyr Agored
Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf! Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwysedig gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored. Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am 3F5W.

Qualified teacher status (QTS)

To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:

  • Secondary

How to apply

Application codes

Course code:
3D3V
Institution code:
B06
Campus name:
Main Site
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

*Gofynion Mynediad* • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig a'r pwnc. • Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg. • Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd. • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg. • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5).

Additional entry requirements

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)

Interview


Student Outcomes

Operated by the Office for Students

There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

Republic of Ireland £9000 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1

Additional fee information

Tuition fees and scholarship information for International applicants can be found here: https://www.bangor.ac.uk/international/tuition
Cerddoriaeth - TAR Uwchradd -(yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University - UCAS