Skip navigation
Ieithoedd Modern gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University - UCAS

Bangor University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Bangor University (Prifysgol Bangor)

Ieithoedd Modern gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

Course summary

UCAS Code: 3F5H TAR Uwchradd - Ieithoedd Modern gyda GAA (gyda SAC) Dewch ag Ieithoedd yn fyw i ddisgyblion trwy ddilyn ein rhaglen TAR Uwchradd - Ieithoedd Modern gyda GAA. Bydd cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a phrofiad ymarferol yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae disgyblion yn dysgu ac yn darparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddatblygu yn athro Ieithoedd Rhyngwladol, creadigol ac arloesol. Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen, nid yn unig i fod yn athro Ieithoedd Modern gyda GAA rhagorol, ond hefyd yn athro Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, trwy roi cyfle i chi archwilio agweddau eraill ar y Cwricwlwm Ieithoedd, er mwyn sicrhau eich bod yn gwbl barod i ddiwallu anghenion Cwricwlwm i Gymru. Pam astudio gyda ni? Ble gwell i astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR Ieithoedd Modern gyda GAA nag yma ym Mangor, lle mae clywed a siarad mwy nag un iaith yn arferol. Ffrangeg ac Almaeneg yw'r prif ieithoedd a addysgir ar hyn o bryd mewn ysgolion uwchradd yng Ngogledd Cymru, ac mae rhai ysgolion yn cynnig rhywfaint o Sbaeneg. Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Cewch gyfle i astudio tra'n ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cewch hefyd gefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n ddefnyddiwr rhugl o'r iaith. Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwysedig gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw. Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.

Qualified teacher status (QTS)

To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:

  • Secondary

How to apply

Application codes

Course code:
3F5H
Institution code:
B06
Campus name:
Main Site
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

*Gofynion Mynediad* • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig a'r pwnc. • Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg. • Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd. • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg. • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5).

Additional entry requirements

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)

Interview


Student Outcomes

Operated by the Office for Students

There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

No fee information has been provided for this course

Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .

Additional fee information

Tuition fees and scholarship information for International applicants can be found here: https://www.bangor.ac.uk/international/tuition
Ieithoedd Modern gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University - UCAS