Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd at Aberystwyth University - UCAS

Aberystwyth University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Aberystwyth University (Prifysgol Aberystwyth)

Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd

Course summary

Mae'r radd BA Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd yn gwrs hynod ddifyr sy'n dod â'r byd Celtaidd yn fyw ac yn tanio'r dychymyg. Drwy ddewis Prifysgol Aberystwyth, byddi'n ymuno ag un o'r adrannau mwyaf blaenllaw ym maes y Gymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd. Cei ddysgu am ddiwylliant, llenyddiaeth, hanes ac ieithoedd Prydain, Iwerddon, Ewrop a'r tu hwnt o'r cyfnod cynharaf hyd heddiw. Pam astudio Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd yn Aberystwyth?

  • Enw da yn rhyngwladol – Mae'r adran ymhlith y rhai sydd â'r amgylchedd academaidd ac ysgolheigaidd bywiocaf yn y byd ym maes Astudiaethau Celtaidd.
  • Lleoliad heb ei ail - Ar lannau arfordir y gorllewin rhwng Bae Ceredigion a Mynyddoedd y Cambria, byddi'n rhan o gymuned gyfeillgar, eang ei gorwelion - y lle delfrydol i astudio'r Gymraeg ynghyd â hanes a threftadaeth cyfoethog y Celtiaid a'u hardaloedd yn fwy eang.
  • Arbenigwyr - Mae'r adran yn ganolfan ymchwil a chanddi enw da yn rhyngwladol, ac yn gartref i dîm o arbenigwyr ysbrydoledig sy'n arwain y byd ym maes iaith a diwylliant Cymreig a Gwyddelig.
  • Ieithoedd Celtaidd eraill - Cei'r cyfle i ddysgu Gaeleg yr Alban a Llydaweg yn ogystal â'r lenyddiaeth gysylltiedig.
  • Astudio Dramor - Mae myfyrwyr y cynllun fel arfer yn treulio semester yn eu trydedd flwyddyn yn astudio mewn prifysgol dramor - profiad gwerthfawr sy'n datblygu sgiliau iaith a hyder.
  • Boddhad Myfyrwyr - Yn yr arolwg cenedlaethol diweddar o fodlonrwydd myfyrwyr, roedd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar y brig yn y DU ym maes Astudiaethau Celtaidd (NSS 2020).
  • Dewis eang – Cei ddewis o blith ystod hynod ddiddorol o fodiwlau sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr.
  • Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Cei fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma. Tyrd i fyw yn neuadd Pantycelyn, ymaeloda ag UMCA, cer ar deithiau rygbi, ymuna â'r côr, a cher i nosweithiau megis Gwobrau'r Selar.
  • Digwyddiadau Ysgogol - Wrth astudio yma, fe gei di'r cyfle i fynychu cyfoeth o ddarlithoedd cyhoeddus, nosweithiau lansio llyfrau, perfformiadau a sgyrsiau yn yr Adran ei hun a'r tu allan iddi.
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Mae’r Llyfrgell ar stepen drws Campws Penglais. Mae'n unigryw yng Nghymru ac yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr fanteisio ar ei chasgliadau prin o lenyddiaeth.
  • Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd - Mae'r Ganolfan yn sefydliad ymchwil wedi’i leoli gerllaw Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Mae graddedigion y radd Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd yn canfod gwaith mewn amrywiaeth o yrfaoedd, gan gynnwys addysg, gweinyddu, y cyfryngau a'r sector cyhoeddus, yma a thramor. Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd. Beth fydda i'n ei ddysgu? Gallai’r modiwlau y byddi’n eu dilyn ar y cwrs Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd gynnwys ‘Cyflwyniad i Wyddeleg Modern a'i Llenyddiaeth’, ‘Cymraeg Ddoe a Heddiw’, ‘Diwylliant Celtaidd’ a ‘Braslun o Hanes ein Llên’ i enwi ond rhai. Yn ystod dy ail a dy drydedd flwyddyn, byddi’n datblygu dy wybodaeth ymhellach ac yn cael dewis pynciau sydd o ddiddordeb penodol i ti. Dros dair blynedd felly, byddi’n meithrin y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd ac yn magu dealltwriaeth o’r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol. Mae natur yr arlwy o fodiwlau yn golygu y gelli gyfuno astudiaeth iaith, llenyddiaeth a diwylliant cyfoes neu hanesyddol yn y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill. Sut bydda i’n cael fy addysgu? Yn Adran y Gymraeg byddi'n dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored. Sut bydda i'n cael fy asesu? Bydd dy waith yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.


How to apply

Application codes

Course code:
Q562
Institution code:
A40
Campus name:
Main Site (Aberystwyth)
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

Applicants are selected on their individual merits and offers can vary. We allow you flexibility in meeting our entry requirements, and all qualifications that you have already gained, or are working towards, will be considered when reviewing your application. We have an inclusive policy which recognises a broad range of qualifications. The entry requirements listed above represent typical offers for some of the most popular qualifications taken by applicants. If you cannot find the qualifications that you are studying (or have previously studied) please contact our Undergraduate Admissions Office (Telephone: +44 (0)1970 622021; Email: [email protected]) for advice on your eligibility and details of the typical offer you are likely to receive.

Additional entry requirements

Other

A minimum grade C or grade 4 pass in GCSE (or equivalent) English or Welsh is a requirement for entry to all our degree schemes. Business, Mathematics, Psychology and Science degree schemes also require a minimum grade C or grade 4 pass in GCSE (or equivalent).


English language requirements

TestGradeAdditional details
Cambridge English AdvancedB
Cambridge English ProficiencyC
IELTS (Academic)6.5With minimum 5.5 in each component.
PTE Academic62With minimum scores of 51 in each component.
TOEFL (iBT)88With minimum scores in components as follows: Listening 21; Writing 21; Reading 22; Speaking 23.

If you are an international student needing more information about the English Language requirement for your course (e.g. country-specific English Language tests, Partner Institution tests, EU/EEA English Language qualifications where the school curriculum is taught in a native language) please contact the Undergraduate Admissions Office for further advice.


Student Outcomes

Operated by the Office for Students
55%
Employment after 15 months (Most common jobs)
100%
Go onto work and study

The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1
Republic of Ireland £9000 Year 1
EU £16520 Year 1
International £16520 Year 1

Additional fee information

The UK and Welsh Governments have confirmed that EU students commencing their studies in the academic year 2021/22 will no longer be eligible for home fee status. Fees for EU students will therefore be charged in line with international fees from 2021/22 onwards. Please note Irish nationals will continue to be eligible for home fee status and support by the Welsh Government under the Common Travel Area arrangement

Sponsorship information

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig pecyn gwerthfawr o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gynorthwyo myfyrwyr. Mae ein cystadleuaeth Ysgoloriaeth Mynediad hirsefydlog yn golygu y gallech gael hyd at £2,000 y flwyddyn tuag at eich costau byw a’ch costau astudio. Gallwch gyfuno Ysgoloriaeth Mynediad gydag unrhyw un, neu â’n holl wobrau eraill, i wneud eich pecyn ariannol yn fwy gwerthfawr. Mae’n ein gwobrau’n cynnwys Bwrsariaeth Aberystwyth, sy’n dibynnu ar brawf modd, yr Ysgoloriaethau Chwaraeon a Cherddoriaeth, bwrsariaethau i rai sy’n gadael gofal/gofalwyr ifainc/myfyrwyr dieithredig ac ystod o wobrau adrannol-benodol. Ewch i’n gwefan i gael y manylion llawn.

Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd at Aberystwyth University - UCAS