Course summary
Mae Mathemateg o'n cwmpas ni ym mhobman, ac ym mhopeth a wnawn. Mathemateg yw'r wyddor sy'n ymdrin â rhesymeg siâp, maint a threfniant. Mae galw mawr ledled y Deyrnas Unedig a'r byd am athrawon Mathemateg cymwys. Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae ein cwrs TAR Mathemateg yn cyd-fynd yn agos â'r cwricwlwm newydd yng Nghymru, ac ar ôl cwblhau ein cwrs bydd gennych yr ystod o sgiliau dysgu a’r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i fod yn athro Mathemateg effeithiol. Mae'r rhaglen hon yn un arloesol ac integredig sy’n ymateb i anghenion addysg athrawon yn yr 21ain ganrif, ac yn hyfforddi darpar athrawon a fydd yn gallu addysgu ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd. Mae'r pwyslais hwn ar addysgu ar draws cyfnodau yn cyd-daro â Chenhadaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru a Chwricwlwm Cymru, yn ogystal â'r cynnydd a welir yn nifer yr ysgolion Pob Oed. Mae'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) yn rhaglen academaidd a phroffesiynol amser llawn, sy'n cynnwys, yn fras, darpariaeth o tua 12 wythnos mewn prifysgolion, ac o leiaf 24 wythnos yn yr ysgol. Ynghyd â'ch cyd-fyfyrwyr ar y rhaglenni cynradd ac uwchradd eraill, byddwch yn astudio egwyddorion effeithiol addysgeg, asesu, a chynllunio gwersi a maes llafur. Byddwch yn cymryd rhan weithredol trwy addysgu, cyfrannu at seminarau, rhoi cyflwyniadau, ac ymchwilio'n feirniadol. Yn ystod sesiynau'r Brifysgol, byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno mân-wersi i baratoi am elfen ymarferol y cwrs. Byddwch yn astudio’r cwricwlwm Mathemateg o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg a byddwch yn cydweithio . myfyrwyr o feysydd pynciol eraill i ddatblygu eich arferion tra’n gweithio ar draws y cwricwlwm. Byddwch yn canolbwyntio ar ddysgu Mathemateg i holl ystod oed uwchradd, gan gynnwys y manylebau TGAU ac UG/Safon Uwch Mathemateg. Mae gan y Grŵp Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon Statws Rhagoriaeth ar .l ennill y ‘Mathematics Tribal Award’. Mae’r grŵp hefyd wedi ei gymeradwyo gan ERW ar gyfer statws ysgol arfer gorau wrth addysgu mathemateg a rhifedd ar draws y cwricwlwm. Mae pob ysgol yn brofiadol wrth gynnal athrawon dan hyfforddiant. Cynhelir y lleoliadau mewn Canolfannau Clwstwr Partneriaeth dethol lle mae gan ysgolion gysylltiadau agos â'r Brifysgol a lle bydd mentoriaid hyfforddedig yn arwain ac yn cefnogi eich datblygiad. Yn y lleoliad, byddwch yn cydweithio'n agos â'ch mentor pwnc a Thiwtor Cyswllt y Brifysgol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol wrth addysgu. Yn ogystal â lleoliadau arbenigol mewn ysgolion uwchradd, byddwch yn cael cyfnod byr ar leoliad mewn ysgol gynradd ac yn cydweithio ag athrawon cynradd medrus. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil gweithredol i ddatblygu agwedd ar eich ymarfer a dechrau eich gyrfa fel athro sy'n seilio ymarfer ar ymchwil.
Modules
Sylwch: Y modiwlau a restrir isod yw'r rhai y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf a gallant newid. Fe'u cynhwysir yma i roi syniad o strwythur y cwrs. Mae'r modiwlau cod cyfredol yn cynnwys: • Addysgeg Effeithiol (30 credyd) • Gwerthuso Dysgu a Sgiliau (30 credyd) • Addysgeg a Gwybodaeth Cwricwlwm (30 credyd) • Astudiaethau Proffesiynol (30 credyd) Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am fodiwlau yn https://courses.aber.ac.uk/postgraduate/drana-tar/#learning-and-teaching
Assessment method
Mae asesu ar y cwrs ar sawl ffurf gan gynnwys, er enghraifft: traethodau, ysgrifennu myfyriol, cyflwyniadau, cynlluniau gwersi, prosiect ymchwil weithredu. Nid oes unrhyw arholiadau ffurfiol. Asesir ymarfer yn barhaus trwy'r tri lleoliad yn barhaus.
Qualified teacher status (QTS)
To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:
- Secondary
How to apply
You can no longer submit a new application for courses starting in 2023.
If you already have a 2023 application and are in Clearing, you can add this course as a Clearing choice – contact the university or college first to check they have places.
This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application codes
- Course code:
- 3DH8
- Institution code:
- A40
- Campus name:
- Main Site (Aberystwyth)
- Campus code:
- -
Points of entry
The following entry points are available for this course:
- Year 1
Entry requirements
Qualification requirements
• Gradd Baglor y DU (Anrhydedd), neu gyfwerth rhyngwladol, mewn pwnc perthnasol. Dylai lleiafswm o 50% o gynnwys y radd Baglor hon fod yn berthnasol i'r pwnc rydych chi am ei ddysgu (hy Mathemategs). • TGAU Gradd B naill ai am Gymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Gymraeg Llenyddiaeth, Saesneg Iaith neu Saesneg Llenyddiaeth. Os enillir gradd B am Gymraeg Llenyddiaeth neu Saesneg Llenyddiaeth rhaid cael o leiaf gradd C am Gymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith. Mae hefyd angen Gradd B am TGAU Mathemateg neu Fathemateg Rhifedd. Gall y Brifysgol gynnig Profion Cyfwerthedd TGAU yn y pynciau hyn i ymgeiswyr sydd heb y cymwysterau/graddau. • Mae profiad neu gyfnod arsylwi mewn ysgol yn fantais. Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad yn rhan o’r drefn o ddethol.
Additional entry requirements
Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)
Interview
English language requirements
Rhaid i ymgeiswyr rhyngwladol ddangos bod ganddynt hyfedredd iaith Saesneg yn IELTS 7.0, gydag isafswm o 6.5 ym mhob cydran, neu gyfwerth.
Student Outcomes
There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.
Fees and funding
Tuition fees
Channel Islands | £9000* | Whole course |
Republic of Ireland | £9000* | Whole course |
EU | £14280* | Whole course |
International | £14280* | Whole course |
*This is a provisional fee and subject to change.
Additional fee information
Provider information
Aberystwyth University
Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
Wales
SY23 3FL