Course summary
Mae Perfformio yn gwrs cyfrwng Cymraeg unigryw a deinameg a addysgir dros ddwy flynedd. Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy’n angerddol am Actio, Canu, Cerddoriaeth, Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol. Mae’n cynnig addysg gynhwysfawr yn y meysydd hyn, gan eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd yn y celfyddydau perfformio. Mae’r cwrs wedi’i strwythuro i ddatblygu perfformwyr amlddisgyblaethol a hyderus. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr sydd â’r potensial i ragori mewn amrywiaeth o leoliadau, boed yn y theatr, neuaddau cyngerdd, radio neu deledu. Mae ein cwricwlwm yn uchelgeisiol ac wedi’i gynllunio’n ofalus i sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiadau cyfoethog, amserol ac amrywiol. Bydd y dull hwn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer cyfleoedd gyrfa lluosog yn y celfyddydau perfformio. Byddwch yn cael eich cyflwyno i ystod eang o sgiliau ymarferol a fydd yn eich helpu i ddod yn berfformiwr amryddawn. Bydd hyn eich galluogi i gyfrannu’n greadigol ac yn hyderus ar draws llawer o wahanol gyd-destunau. Byddwch yn gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant dros ddwy flynedd y cwrs. Bydd hyn eich helpu i ddeall gofynion y diwydiant a’ch paratoi i fanteisio ar yr angen cynyddol am berfformwyr medrus, amryddawn a dibynadwy. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gydweithio ac ymarfer creadigol, gan eich annog i archwilio arferion arloesol yn eich gwaith perfformio. Yn ychwanegol i hyfforddiant ymarferol, mae’r cwrs yn cynnwys nifer o gyfleoedd arddangos. Bydd y rhain yn caniatáu i chi gyflwyno’ch gwaith i gynulleidfa ehangach ac adeiladu portffolio proffesiynol. Mae’r cyfuniad hwn o astudio academaidd a phrofiad ymarferol yn sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda i weithio ym myd proffesiynol perfformio. Mae BA Perfformio wedi’i gynllunio i feithrin eich twf fel perfformiwr sy’n hyddysg yn y tueddiadau a’r arferion diweddaraf yn y diwylliant cyfoes. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi datblygu’r arbenigedd a’r hyder sydd eu hangen i lwyddo mewn amrywiaeth o yrfaoedd yn ymwneud â pherfformio.
Modules
Blwyddyn 1 Byddwch yn cael eich cyflwyno i ddisgyblaethau craidd Actio, Canu, Cerddoriaeth, Dawns, gan gynnwys Tap, Bale, Jazz, Dawns gyfoes a Theatr Gerddorol. Bydd y ffocws ar adeiladu sylfaen gref o sgiliau ymarferol ac archwilio pob maes i ddatblygu eich hyblygrwydd a’ch hyder. Gorfodol Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credydau) Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (20 credydau) Dosbarth Perfformio (20 credydau) Actio (20 credydau) Hyfforddiant Dawns 1 (20 credydau) Canu 1 (20 credydau) Labordy Theatr (20 credydau) Sgiliau Clyweliad (10 credydau) Actio 2 (20 credyd) Blwyddyn2 Mae’r pwyslais yn newid i dechnegau uwch ac integreiddio sgiliau ar draws gwahanol ffurfiau perfformio. Mae’n dod â’r sgiliau a’r dechneg a gafodd eu dysgu mewn dau gynhyrchiad at ei gilydd sy’n rhoi’r cyfle i chi weithio gyda chyfarwyddwr a thîm cynhyrchu proffesiynol gan eich paratoi ar gyfer cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol yn y celfyddydau perfformio. Gorfodol Prosiect Annibynnol (40 credydau) Diwydiannau Creadigol (20 credydau) Hyfforddiant Dawns 2 (20 credydau) Canu 2 (30 credydau) Prosiect Cydweithredol (20 credydau) Cynhyrchiad 1 (30 credydau) Cynhyrchiad Terfynol (30 credydau)
Assessment method
Perfformiadau/digwyddiadau Mae myfyrwyr yn cael cyfle yn rheolaidd i gymryd rhan mewn perfformiadau/ digwyddiadau trwy gydol eu gradd, lle gwelwn eu sgiliau a’u gwybodaeth yn cynyddu ac yn cael eu cymhwyso. Tiwtorialau rheolaidd Rydym yn cynnal tiwtorialau ffurfiol ac anffurfiol trwy gydol y radd lle mae pob myfyriwr yn trafod ei waith gyda’r tiwtor modwl neu’r Cyfarwyddwr Rhaglen. Edrychwn ar ddatblygiad ymarferol, twf cysyniadol a bwriadau i’r dyfodol. Cyflwyniadau Cynhelir cyflwyniadau fel arfer ar ddiwedd modwl, arddangosfa neu berfformiad, er mwyn mesur perfformiad myfyriwr yn erbyn meini prawf asesu. Gweithlyfrau proses Bydd myfyrwyr yn cofnodi eu proses a’u gwaith ymarferol mewn gweithlyfr sy’n dangos eu dysgu a’u llwybr unigol.
Qualified teacher status (QTS)
To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:
- Course does not award QTS
How to apply
This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application codes
- Course code:
- C68M
- Institution code:
- T80
- Campus name:
- Cardiff (Caerdydd)
- Campus code:
- F
Points of entry
The following entry points are available for this course:
- Year 1
International applicants
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr. I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
Entry requirements
Qualification requirements
UCAS Tariff - 96 - 112 points
Additional entry requirements
Audition
Student Outcomes
The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.
Fees and funding
Tuition fees
| England | £9535 | Year 1 |
| Northern Ireland | £9535 | Year 1 |
| Scotland | £9535 | Year 1 |
| Wales | £9535 | Year 1 |
| Channel Islands | £9535 | Year 1 |
| Republic of Ireland | £9535 | Year 1 |
| EU | £15600 | Year 1 |
| International | £15600 | Year 1 |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .
Additional fee information
Provider information
University of Wales Trinity Saint David
College Road
Carmarthen
SA31 3EP