Skip navigation
Astudiaethau Addysg at University of Wales Trinity Saint David - UCAS

Course options

Course summary

Dyluniwyd y BA (Anrh) Astudiaethau Addysg i roi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth i weithio gyda dysgwyr o bob oed ac mewn lleoliadau amrywiol. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn addysg blynyddoedd cynnar, datblygiad plentyndod, neu gefnogi oedolion mewn addysg, mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen gynhwysfawr ar gyfer gyrfa ystyrlon yn y maes. Mae’r rhaglen hon yn eich annog i archwilio rôl addysg wrth greu newid cadarnhaol. Gyda ffocws ar gyfiawnder cymdeithasol mewn addysg ac amrywiaeth a chynhwysiant, byddwch yn archwilio sut y gall addysg fynd i’r afael â heriau cymdeithasol allweddol, yn y DU ac yn fyd-eang. Byddwch hefyd yn astudio polisi addysg, gan edrych ar sut mae penderfyniadau’n siapio profiadau dysgwyr ac addysgwyr. Wrth wraidd y cwrs mae datblygu sgiliau trosglwyddadwy, sy’n eich galluogi i ffynnu mewn gwahanol leoliadau proffesiynol. Byddwch yn archwilio dulliau addysgu a dysgu, yn deall pwysigrwydd Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), ac yn ymgysylltu â themâu fel dysgu gydol oes a globaleiddio ym myd addysg. Nod y rhaglen yw eich gwneud yn feddyliwr beirniadol, yn barod i weithredu fel asiant newid mewn proffesiynau sy’n canolbwyntio ar gymdeithas. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn addysgu, datblygu polisi, gwaith ieuenctid, neu rolau mewn elusennau a sefydliadau cymunedol, mae’r cwrs yn cefnogi eich datblygiad gyrfa mewn addysg. Mae’r radd hon yn croesawu hyblygrwydd, gan eich helpu i lunio eich dyfodol yn unol â’ch diddordebau. Gyda modylau sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, megis addysg gynhwysol ac effaith technoleg ar ddysgu, fe gewch safbwynt eang ar yr hyn y mae’n ei olygu i addysgu yn y byd sydd ohoni. Mae’r rhaglen BA (Anrh) Astudiaethau Addysg yn gyfle i ddeall grym trawsnewidiol addysg. Byddwch yn graddio yn barod i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.

Modules

Byddwch yn archwilio gwreiddiau hanesyddol a chyfoes addysg ac yn archwilio sut mae pobl yn dysgu ar wahanol gyfnodau mewn bywyd. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau craidd ar gyfer llwyddiant academaidd ac yn archwilio materion hanfodol yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn addysg. Addysg: ddoe, heddiw, yfory (20 credydau) Damcaniaeth ac Arfer Dysgu (20 credydau) Parchu Hawliau Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru (20 credydau) Datblygiad ar draws y rhychwant oes (20 credydau) Datblygu Sgiliau Academaidd Llwyddiannus (20 credydau) A phopeth yn gyfartal? (20 credyd) Blwyddyn 2 Mae’r flwyddyn hon yn dyfnhau eich dealltwriaeth o arferion addysgu, drwy ystod eang o fodylau. Byddwch hefyd yn mireinio eich sgiliau ymchwil drwy Ymchwil Addysgol. Mae Pawb yn Golygu Pawb (20 credydau) Amgylcheddau dysgu amgen (20 credydau) Dysgu Ymgysylltiedig â'r Gymuned (20 credydau) Y 3 R (20 credydau) Dod yn Addysgwr Cynradd (20 credydau) Y Meddwl Ymchwilgar: Dulliau Creadigol o Ddysgu ac Addysgu (20 credyd) Ymchwil Addysgol (20 credyd) Blwyddyn 3 Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau uwch fel Oedolion sy’n Dysgu ac Astudiaethau Cwricwlwm ac Asesu. Byddwch hefyd yn ymgymryd â Phrosiect Annibynnol, lle gallwch ymchwilio’n ddwfn i bwnc o’ch dewis, gan arddangos eich arbenigedd a’ch parodrwydd ar gyfer arfer proffesiynol. Dysgwyr sy'n oedolion a dysgu (20 credydau) Astudiaethau Cwricwlwm ac Asesu (20 credydau) Gwneud Gwahaniaeth Gyda'n Gilydd (20 credydau) Llesiant mewn Addysg (20 credydau) Prosiect Annibynnol (40 credydau)

Assessment method

Asesir myfyrwyr mewn amryw o ffyrdd i helpu i ddatblygu sgiliau astudio annibynnol yn ogystal â gweithio mewn tîm. Nid ydym yn asesu yn defnyddio arholiadau ond yn hytrach yn defnyddio ystod amrywiol o ddulliau megis portffolios, cyflwyniadau, posteri academaidd yn ogystal ag ystod o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n seiliedig ar ymchwil.


How to apply

Application codes

Course code:
ADD1
Institution code:
T80
Campus name:
SA1 Waterfront Campus, Swansea
Campus code:
T

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

International applicants

Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

Entry requirements

Qualification requirements

Additional entry requirements

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)


Student Outcomes

Operated by the Office for Students
71%
Employment after 15 months (Most common jobs)
91%
Go onto work and study

The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

England £9535 Year 1
Northern Ireland £9535 Year 1
Scotland £9535 Year 1
Wales £9535 Year 1
Channel Islands £9535 Year 1
Republic of Ireland £9535 Year 1
EU £15525 Year 1
International £15525 Year 1

Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .

Additional fee information

Mae myfyrwyr yn gyfrifol am dalu cost gwerslyfrau hanfodol, ac am gynhyrchu unrhyw draethodau, aseiniadau a thraethodau hir sy’n ofynnol i gyflawni’r gofynion academaidd ar gyfer pob rhaglen astudio. Bydd costau pellach hefyd ar gyfer y canlynol, na ellir eu prynu gan y Brifysgol: Deunydd ysgrifennu Llyfrau Gwaith maes Dillad Argraffu a chopïo Gwiriad DBS *Dim ond ar Lefel 6 y mae angen DBS os yw myfyrwyr yn dewis cynnal eu hymchwil prosiect annibynnol gyda phlant a phobl ifanc.
Astudiaethau Addysg at University of Wales Trinity Saint David - UCAS