TAR Addysg Gynradd (3-11 ystod oedran) gyda SAC (Graddedigion yn unig) at Cardiff Metropolitan University - UCAS

Cardiff Metropolitan University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Cardiff Metropolitan University (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)

TAR Addysg Gynradd (3-11 ystod oedran) gyda SAC (Graddedigion yn unig)

Course summary

TAR Addysg Gynradd (3-11 ystod oedran) gyda SAC - X178 Os ydych yn berson graddedig sy'n awchu i ddysgu ac sydd â diddordeb mewn cael gyrfa yn athro ysgol gynradd, dyma'r cwrs i chi! Cwrs un flwyddyn yw rhaglen TAR Addysg Gynradd a fydd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (SAC). Nod y cwrs yw paratoi athrawon dan hyfforddiant i fod yn ymarferwyr medrus, hyderus ac arloesol sy'n gallu adfyfyrio'n feirniadol ac sy'n ymrwymedig i ddysgu proffesiynol gydol oes ac i addysg pobl ifanc. Nodwch, Ionawr 25 yw’r dyddiad cau cynnar i geisiadau, i warantu bod eich cais yn cael ei ystyried. Os oes lleoedd dal ar gael gallwch wneud cais ar ôl y dyddiad yma, a bydd rhain yn cael eu dangos yn y chwiliad cwrs

Qualified teacher status (QTS)

To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:

  • Primary

How to apply

Application codes

Course code:
X178
Institution code:
C20
Campus name:
Cardiff Met - Cyncoed
Campus code:
2

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

Er mwyn ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, rhaid i bob ymgeisydd Uwchradd TAR fod â'r canlynol erbyn dechrau’r tymor: Gofynion TGAU: TGAU gradd B/gradd 5 neu uwch mewn Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Lenyddiaeth Gymraeg a Mathemateg, a gradd C/gradd 4 mewn Gwyddoniaeth (neu gymhwyster cyfwerth safonol). Pan gyflawnir cymhwyster sy'n cyfateb i radd B/gradd 5 naill ai mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cyflawni o leiaf gradd C/gradd 4 yn yr arholiad TGAU cyfwerth mewn Cymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith. Bydd angen TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf) ar fyfyrwyr sy'n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd C/gradd 4 neu uwch mewn TGAU (neu gyfwerth) mewn Saesneg Iaith a Mathemateg wrth ymgeisio yn cael eu hystyried ar gyfer cyfweliad. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig arholiad cywerthedd mewnol ar gyfer TGAU Saesneg Iaith a Mathemateg i fodloni gofynion gradd B.  Cynigir arholiad cywerthedd i'r rhai sydd â gradd D mewn Gwyddoniaeth hefyd. Ar gyfer ymgeiswyr nad oes gyda’r radd berthnasol, rydym yn derbyn cymwysterau cyfatebol ac mae rhagor o wybodaeth am yr hyn a dderbynnir ar ein gwefan. Mae angen i ymgeiswyr nodi ar eu cais os ydynt yn ail-sefyll arholiad TGAU /arholiad cyfwerth. Gofynion Gradd Gychwynnol: Gradd 2:2 gyda Anrhydedd Gradd anrhydedd mewn maes sy'n ymwneud ag addysg gynradd, dosbarth 2:2 o leiaf; neu unrhyw radd anrhydedd dosbarth 2:2 o leiaf os oes gan yr ymgeisydd Safon Uwch gradd C neu uwch (neu gyfwerth) yn un o feysydd pwnc y cwricwlwm cynradd.  Ystyrir bod rhaglenni Mynediad i AU gyfwerth â Safon Uwch o fewn pwnc perthnasol lle cyflawnwyd 15 Teilyngdod ar Lefel 3. Mae Diplomâu Lefel 3 CACHE gradd C yn cael eu hystyried hefyd yn ogystal â Diplomâu Lefel 3 Pearson BTEC (FfCCh)/OCR/NQF mewn Gofal Plant yn y Proffil Teilyngdod.  Gellir ystyried ceisiadau gan y rhai sydd wedi ennill gradd Anrhydedd is na dosbarth 2:2, ond lle mae gan yr ymgeisydd gymwysterau uwch, e.e. Gradd Meistr, PhD.  Profiad Gwaith: Gofynnir i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o ryw fath o brofiad gwaith mewn ysgol brif ffrwd ar draws yr amrediad oedran cynradd ond deallwn na fydd hyn yn bosibl o reidrwydd oherwydd y sefyllfa bresennol.  Byddem yn gofyn i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o'r hyn y gallant drwy eu cais UCAS a'u datganiad personol.  Ewch i https://www.cardiffmet.ac.uk/education/courses/Pages/Primary-PGCE.aspx am ragor o wybodaeth am ein gofynion mynediad.

Additional entry requirements

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)

Interview

Other

Bydd rhaid i bob ymgeisydd wneud cais drwy UCAS. Caiff ceisiadau eu hasesu yn erbyn y meini prawf mynediad ar gyfer y rhaglen berthnasol a gwahoddir ymgeiswyr i fynychu cyfweliad ar sail y wybodaeth hon. Dylai pob ymgeisydd: Fod â chefndir blaenorol mewn addysg sy'n darparu'r sylfaen angenrheidiol ar gyfer gweithio fel athro yn y cyfnod perthnasol ac yn y pwnc arbenigol; Meddu ar y doniau, y gallu a'r gwydnwch i fodloni'r canlyniadau SAC gofynnol erbyn diwedd eu rhaglen AGA; Meddu ar y rhinweddau personol a deallusol priodol i ddod yn ymarferwyr rhagorol; Darllen yn effeithiol a gallu cyfathrebu'n glir ac yn gywir yn Gymraeg a/neu'n Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig; Peidio bod â chefndir troseddol a allai ei atal rhag gweithio gyda phlant neu bobl ifanc agored i niwed, neu fel ymarferydd addysg; a heb fod wedi cael ei wahardd neu ei eithrio yn y gorffennol rhag addysgu neu weithio gyda dysgwyr (rhaid i athrawon dan hyfforddiant drefnu Datgeliad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS); Arddangos yn ystod y cyfweliad fod ganddynt y sgiliau swyddogaethol personol priodol mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol sy'n gymwys mewn cyd-destun addysgu a dysgu proffesiynol; Dangos ei addasrwydd i fod yn athro rhagorol; Bodloni gofynion Safonau Iechyd Addysg (2004) Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau ei iechyd a'i allu corfforol i ymgymryd â chyfrifoldebau athro.


English language requirements

TestGradeAdditional details
IELTS (Academic)7.5IELTS band score 7.5 overall and minimum of 7.0 in each component in the ‘academic’ IELTS test.

Student Outcomes

Operated by the Office for Students

There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

England £9000 Whole course
Northern Ireland £9000 Whole course
Scotland £9000 Whole course
Wales £9000 Whole course
Republic of Ireland £9000 Whole course
EU £14000 Whole course
International £14000 Whole course

Additional fee information

No additional fees or cost information has been supplied for this course, please contact the provider directly.
TAR Addysg Gynradd (3-11 ystod oedran) gyda SAC (Graddedigion yn unig) at Cardiff Metropolitan University - UCAS