Course summary
UCAS Code: 3D35 TAR Uwchradd - Cemeg (gyda SAC) Ydych chi’n angerddol am Gemeg a byd sylweddau, ac a allech chi drosglwyddo'r angerdd hwn i eraill. Gogledd Cymru yw’r lle perffaith i ddysgu i ysbrydoli eraill am Gemeg gyda phrifysgol sy’n cyfuno cefndir gwyddoniaeth ac addysg cryf ag angerdd am herio ein myfyrwyr a bod yn un o’r lleoedd mwyaf prydferth ac ysbrydoledig i fyw ynddo. Os mai dysgu Cemeg yw'r yrfa i chi, yna Bangor yw'r lle i chi. Gyda'n labordai addysgu newydd, staff angerddol, ac ysgolion partneriaeth gwych byddwch yn dysgu'r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ysbrydoli eraill. Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro/athrawes Cemeg rhagorol, ond hefyd yn athro/athrawes gwyddoniaeth, trwy roi cyfle i chi archwilio agweddau eraill ar y Cwricwlwm Gwyddoniaeth. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar un o’r cwricwla newydd mwyaf cyffrous y byd ar hyn o bryd, y Cwricwlwm newydd i Gymru, ond bydd y sgiliau y byddwch yn eu hennill yn eich paratoi i addysgu yn unrhyw le. Pam astudio gyda ni? Ble gwell i astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR Cemeg nag yma ym Mangor, gyda’n profiad gwyddoniaeth unigryw, ein profiad o ddysgu yn yr awyr agored a phrifysgol gyda choleg sy’n ganolfan flaenllaw yn y Deyrnas Unedig ar gyfer addysgu ac ymchwil mewn ystod eang o bynciau gwyddonol. • Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig. • Cyfle i astudio tra'n ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n ddefnyddiwr rhugl o'r iaith. Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae'n drosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwys gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw. Cyfunwch y pwnc hwn gyda Gweithgareddau Awyr Agored Mae Bangor yn lle gwych ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â’n cysylltiadau â darparwyr addysg awyr agored, yn rhoi cyfle arbennig i gyfuno’r pwnc hwn gyda chwaraeon awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, yna gwnewch gais am: TAR Uwchradd - Cemeg (Cyfrwng Cymraeg) 3E5D.
Qualified teacher status (QTS)
To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:
- Secondary
How to apply
This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application codes
- Course code:
- 3D35
- Institution code:
- B06
- Campus name:
- Main Site
- Campus code:
- -
Points of entry
The following entry points are available for this course:
- Year 1
Entry requirements
Qualification requirements
*Gofynion Mynediad* • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig a'r pwnc. • Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg. • Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd. • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg. • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5).
Additional entry requirements
Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)
Interview
Student Outcomes
There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.
Fees and funding
Tuition fees
No fee information has been provided for this course
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .
Additional fee information
Provider information
Bangor University
Bangor (Wales)
LL57 2DG