Course summary
UCAS Code: 3F5W TAR Uwchradd - Cerddoriaeth gyda GAA (gyda SAC) Mae cerddoriaeth yn bwysig i bawb. Yn ifanc iawn, bydd rhai yn ymwneud yn ymarferol â cherddoriaeth – boed yn lleisiol, yn offerynnol, mewn band roc, côr neu gerddorfa; bydd eraill yn bodloni ar ymlacio dwy wrando ar gerddoriaeth o arddulliau amrywiol. Ydy, mae cerddoriaeth yn elfen annatod o fywyd, ac mae’n bwysig ein bod yn darparu sylfaen o wybodaeth a sgiliau cerddorol cadarn ar gyfer dysgwyr y dyfodol. Mae cwrs TAR Cerddoriaeth yn gyfle i chi ymwneud yn ymarferol â’ch pwnc, datblygu sgiliau addysgu a gwneud gwahaniaeth. Prif nod cwrs TAR Cerddoriaeth yw dirnad sut i ddysgu a chael profiad trwy Gerddoriaeth. Yn un o bynciau Y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm i Gymru newydd, mae cyfle ymarferol a rhyngweithiol, drwy Gerddoriaeth, i archwilio, ymateb, ac i greu. Yn y darlithoedd bydd cyfle i astudio, trafod, a datblygu dealltwriaeth o sut i greu gweithgareddau deniadol, diddorol sy’n cyfuno Perfformio, Cyfansoddi a Gwerthuso. Drwy ddulliau ymarferol, bydd y cwrs yn ffocysu ar bedagogeg gerddorol a strategaethau addysgu effeithiol a fydd yn arwain at ddatblygu chwilfrydedd, creadigrwydd, meddwl beirniadol, hunan werth, hunan hyder a gwydnwch. Dyma gwrs a galwedigaeth sy’n caniatáu ichi fwynhau eich pwnc ac i ysbrydoli cerddorion y dyfodol, beth bynnag eu profiad a’u diddordeb cerddorol. Mae’n llwybr ichi ddatblygu’n broffesiynol, i gydweithio ag eraill yn ogystal â lledaenu eich arbenigedd personol. Pam astudio gyda ni?
- Bydd tiwtor prifysgol profiadol ac empathetig yn eich arwain ac yn eich cefnogi, gan sicrhau bod gennych y sgilau, yr wybodaeth gyfredol a’r hyder i fod yn addysgwyr effeithiol
- Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau leoliad ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig (SAC)
- Byddwch yn meithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ddiwylliant cerddorol cyfoethog ac amrywiol Cymru yng nghyd-destun ymwybyddiaeth gymdeithasol a diwylliannol ehangach. Gellir astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn unol â’r gofyn
- Bydd cyfle ichi fwynhau harddwch Eryri a glannau arfordir Gogledd Cymru yn ystod eich astudiaethau ym Mangor.
Qualified teacher status (QTS)
To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:
- Secondary
How to apply
This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application codes
- Course code:
- 3F5W
- Institution code:
- B06
- Campus name:
- Main Site
- Campus code:
- -
Points of entry
The following entry points are available for this course:
- Year 1
Entry requirements
Qualification requirements
*Gofynion Mynediad* • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig a'r pwnc. • Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg. • Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd. • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg. • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5).
Additional entry requirements
Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)
Interview
Student Outcomes
There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.
Fees and funding
Tuition fees
Republic of Ireland | £9000 | Year 1 |
England | £9000 | Year 1 |
Northern Ireland | £9000 | Year 1 |
Scotland | £9000 | Year 1 |
Wales | £9000 | Year 1 |
Channel Islands | £9000 | Year 1 |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .
Additional fee information
Provider information
Bangor University
Bangor (Wales)
LL57 2DG