Course summary
Drwy astudio’r Gymraeg, byddwch yn archwilio’r berthynas rhwng iaith, hunaniaeth a chymdeithas a’r cysylltiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n siapio’r Gymraeg a phrofiadau ei siaradwyr. Gyda’n rhaglen Cymraeg (BA), byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant. Byddwch yn meithrin sgiliau lefel uchel mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithio a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy'n berthnasol i'r Gymru gyfoes a thu hwnt. Byddwn yn eich cefnogi i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol â’r cyfleon a’r heriau sy’n wynebu’r Gymraeg fel iaith leiafrifol mewn ffordd eangfrydig a chydweithredol, gydag ystyriaeth i bwysigrwydd cynaliadwyedd diwylliannol ac amgylcheddol. Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Os yw'r Gymraeg yn ail iaith i chi, byddwch yn dilyn modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf i ymarfer a datblygu eich gwybodaeth ieithyddol a’ch sgiliau cyfathrebu. Wedi hynny, mae myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dod at ei gilydd ar gyfer modiwlau'r ail a’r drydedd flwyddyn, gyda chefnogaeth bellach i fyfyrwyr ail iaith ar ffurf tiwtorialau iaith a chyfathrebu. Asgwrn cefn y radd yw ein modiwlau craidd a fydd yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer archwilio iaith, llenyddiaeth, hunaniaeth a chynaliadwyedd mewn cyd-destunau hanesyddol a chyfoes. Yn ogystal, mae ein modiwlau dewisol yn rhoi’r cyfle ichi arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu broffesiynol, gan gynnwys polisi iaith ac ysgrifennu creadigol. Hefyd, byddwch yn meithrin eich sgiliau proffesiynol a’ch dealltwriaeth o anghenion y Gymraeg yn y gweithle drwy ymgymryd â lleoliad gwaith lle defnyddir y Gymraeg. Yn y flwyddyn olaf, cewch y cyfle i roi eich holl sgiliau ar waith drwy ymgymryd â phrosiect ymchwil neu bortffolio creadigol, lle byddwch yn cymryd perchnogaeth o’r pwnc a’ch siwrne addysgol drwy ddylunio a chynnal prosiect ar faes o'ch dewis chi sy'n ymwneud â'r Gymraeg. Dyma gyfle ichi arddangos eich angerdd, eich hyder a’ch mewnwelediad, wrth ddangos sut y gall disgyblaeth y Gymraeg gyfrannu at fynd i'r afael â heriau lleol, cenedlaethol a byd-eang. Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol, gan gynnwys cydweithio, cyfathrebu a dadansoddi beirniadol. Byddwch hefyd yn ymwybodol o'r problemau a’r heriau ieithyddol a diwylliannol sy'n wynebu cymdeithasau amlieithog cyfoes mewn cyd-destun byd-eang, a bydd gennych y syniadau a'r hyder sydd eu hangen i'w datrys. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr hefyd, gan olygu bod gennych gyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol, dinesig ac economaidd Cymru. Nodweddion Unigryw’r Rhaglen • Dilyn eich diddordebau: Dewiswch o fodiwlau ar draws ystod o feysydd yn ymwneud â’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth. • Meithrin annibyniaeth barn: Ymdriniwch yn feirniadol ac yn greadigol â gwahanol fathau o destunau mewn ffordd annibynnol ac eangfrydig. • Magu hyder yn y gweithle: Dewch i ddeall y cyfleon a'r heriau sy'n wynebu'r Gymraeg mewn cyd-destunau proffesiynol a datblygwch eich sgiliau ymarferol drwy ddefnyddio'r Gymraeg ar leoliad profiad gwaith. • Cyfathrebu’n effeithiol: Rhowch eich dealltwriaeth am y Gymraeg a’i chyweiriau ar waith ar lafar ac yn ysgrifenedig wrth lunio a chyflwyno eich syniadau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. • Cyfrannu at gymuned Gymraeg fywiog: Byddwch yn rhan o gymuned glos, gynhwysol o siaradwyr Cymraeg o bob cefndir a chyfrannwch at ffyniant y Gymraeg yn y brifddinas.
How to apply
This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application codes
- Course code:
- Q560
- Institution code:
- C15
- Campus name:
- Main Site - Cardiff
- Campus code:
- -
Points of entry
The following entry points are available for this course:
- Year 1
Entry requirements
Qualification requirements
UCAS Tariff - Not accepted
A level - BBC - CCC
Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)
International Baccalaureate Diploma Programme - 30 - 28 points
WJEC Level 3 Advanced Skills Baccalaureate Wales
Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (last awarded Summer 2024)
Extended Project - A
GCSE/National 4/National 5
T Level
We do not accept Critical Thinking, General Studies, Citizenship Studies, or other similar equivalent subjects. We will accept a combination of BTEC subjects, A-levels, and other qualifications, subject to the course specific grade and subject requirements.
English language requirements
All applicants are expected to have demonstrable English language skills. Most courses ask for GCSE English grade C/4 or equivalent, but some courses ask for GCSE English grade B/6 or equivalent.
To find out more, please go to:
https://www.cardiff.ac.uk/study/international/english-language-requirements/undergraduate
Student Outcomes
The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.
Fees and funding
Tuition fees
| Republic of Ireland | £9535 | Year 1 |
| Channel Islands | £9535 | Year 1 |
| EU | £24700 | Year 1 |
| England | £9535 | Year 1 |
| Northern Ireland | £9535 | Year 1 |
| Scotland | £9535 | Year 1 |
| Wales | £9535 | Year 1 |
| International | £24700 | Year 1 |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .
Additional fee information
Sponsorship information
Mae llawer o ysgoloriaethau ar gael i ddarpar fyfyrwyr. Ewch i https://www.cardiff.ac.uk/cy/study/undergraduate/funding/scholarships i gael rhagor o wybodaeth.
Provider information
Cardiff University
PO Box 921
Cardiff
CF10 3XQ