Course summary
Mae ein rhaglen Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn agor drysau i yrfa werthfawr yn meithrin meddyliau ifanc. Ddysgwch fwy am fyd addysg plentyndod cynnar gyda ni ac archwiliwch y Blynyddoedd Cynnar. Dewch i ddarganfod sut y gallwch lunio’r dyfodol i blant a theuluoedd drwy addysg a gofal ymroddedig. Mae ein rhaglen yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol gyda phrofiad ymarferol, gan eich darparu â sgiliau hanfodol ar gyfer taith lwyddiannus mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar. O ddeall cerrig milltir datblygiad plant i weithredu arferion addysgol effeithiol, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r maes. P’un a ydych yn ystyried gweithio mewn meithrinfeydd, lleoliadau cyn-ysgol, Dechrau’n Deg, ysgolion neu ganolfannau cymunedol, mae ein rhaglen yn eich paratoi ar gyfer rolau amrywiol lle gallwch gael effaith ystyrlon. Ymunwch â chymuned fywiog sy’n gwerthfawrogi Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar. Cydweithiwch â chyfoedion o’r un anian ac addysgwyr profiadol sy’n rhannu eich angerdd am ddatblygiad plant. Archwiliwch arwyddocâd dysgu sy’n seiliedig ar chwarae, datblygu partneriaethau teuluol a dulliau addysgu arloesol sy’n meithrin creadigaeth a thwf mewn plant. Mae ein cymhwyster BA Blynyddoedd Cynnar yn gosod pwyslais cryf ar Addysg Plentyndod Cynnar. Mae ein rhaglen, nid yn unig, yn eich paratoi’n academaidd, ond mae hefyd yn eich cefnogi i gyflawni Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Rhwydwaith Gradd Astudiaethau Plentyndod Cynnar yn cydnabod bod hyn yn hanfodol ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. Byddwch yn datblygu’r arbenigedd a’r hyder i feithrin dysgwyr ifanc yn effeithiol drwy astudio modylau arbenigol a lleoliadau ymarferol.
Modules
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn gosod y sylfeini ar gyfer eich taith mewn addysg a gofal Blynyddoedd Cynnar. Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a gweithdai ysgogol sydd wedi’u cynllunio i’ch cyflwyno i gysyniadau hanfodol mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar. Byddwch yn dechrau deall yr egwyddorion sylfaenol sy’n sail i ddatblygiad plant ac arferion addysgol mewn darlithoedd sylwgar. Bydd y pwyslais ar ddysgu ymarferol a lleoliadau yn eich darparu â’r sgiliau ymarferol i gymhwyso damcaniaethau i’ch arfer eich hun yn effeithiol, gan osod sylfaen gref ar gyfer eich dyfodol mewn astudiaethau Blynyddoedd Cynnar. Datblygiad Dynol (20 credydau) Yr Ymarferydd Proffesiynol (20 credydau) Chwarae Plant: Theori ac Arfer (20 credydau) Y 1000 diwrnod cyntaf (20 credydau) Datblygu Sgiliau Academaidd Llwyddiannus (20 credydau) Arfer Amlieithog yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credydau) Bydd eich ail flwyddyn yn dyfnhau eich dealltwriaeth o Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar. Byddwch yn archwilio pynciau uwch ymhellach mewn gweithdai rhyngweithiol a lleoliadau. Bydd siaradwyr gwadd ac arbenigwyr yn y maes yn ehangu eich persbectif ar bolisïau a datblygiadau cyfredol o fewn y sector blynyddoedd cynnar. Byddwch yn mireinio eich sgiliau mewn Addysg Plentyndod Cynnar a chryfhau eich gallu i ddadansoddi’n feirniadol a gweithredu arferion gorau mewn Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar drwy brosiectau cydweithredol ac aseiniadau ymarferol. Iaith a Llythrennedd yn yr Oes Ddigidol (20 credydau) Syndod a rhyfeddod - gwyddoniaeth, mathemateg a'r awyr agored (20 credydau) Arweinyddiaeth a gwaith tîm yn y blynyddoedd cynnar (20 credydau) Diogelu: arfer, deddfwriaeth a'r tîm amlddisgyblaethol (20 credydau) Lles, gofal a byw'n iach (20 credydau) Ymchwil ar gyfer Dysgu (20 credydau) Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn atgyfnerthu eich dysgu a pharatoi i ragori yn eich llwybr dewisol o fewn addysg a gofal Blynyddoedd Cynnar. Bydd trafodaethau a gweithdai yn eich herio i gymhwyso eich gwybodaeth i senarios cymhleth a materion sy’n dod i’r amlwg mewn addysg plentyndod cynnar. Yn ystod eich cyfnod yn astudio ar y cwrs, bydd cyfleoedd ar gyfer ymweliadau preswyl dewisol yn y DU neu dramor sy’n cynnig dirnadaethau diwylliannol amhrisiadwy ac yn ehangu eich rhwydwaith proffesiynol. Yn ogystal, byddwch yn cael cyfle i wrando ar siaradwyr gwadd a fydd yn eich ysbrydoli gyda’u profiadau a’u dirnadaethau, gan sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda i lywio tirwedd esblygol Ymarfer Blynyddoedd Cynnar a chael effaith gadarnhaol ar fywydau plant ifanc. Arweinyddiaeth Gynhwysol: gweithio gyda'n gilydd i gefnogi teuluoedd (20 credydau) Adennill Paradwys? Cynaliadwyedd yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credydau) Cynorthwyo Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (20 credydau) Cwricwla Blynyddoedd Cynnar (20 credydau) Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer systemau ansawdd (20 credydau) Sgiliau arwain mewn entrepreneuriaeth (20 credydau)
Assessment method
Mae’r rhaglen yn cael ei hasesu 100% drwy waith cwrs. Nid oes unrhyw arholiadau. Rydym ni wedi gweld bod defnyddio ystod amrywiol o ddulliau asesu’n cynyddu sgiliau cyflogadwyedd. Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu datrys problemau ac sydd ag ystod o sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy. Mae’r asesu’n rhoi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis y gallu i weithio mewn tîm, cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ar yr un pryd â defnyddio ystod o ddulliau o rannu gwybodaeth yn cynnwys papurau briffio, posteri academaidd, dadleuon grŵp a thrafodaethau proffesiynol. Hefyd ceir cyfleoedd am brofiadau gwaith ymarferol, gan gefnogi cyflogadwyedd, datblygiad proffesiynol a gyrfaoedd. Mae astudiaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn ganolog i’n darpariaeth; gallwch ddewis cofrestru ar y rhaglen cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg a gallwch gyflwyno’ch aseiniadau yn y naill iaith neu’r llall.
How to apply
This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application codes
Please select a course option – you will then see the application code you need to use to apply for the course.
Points of entry
The following entry points are available for this course:
- Year 1
Entry requirements
Qualification requirements
UCAS Tariff - 88 points
Additional entry requirements
Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)
Student Outcomes
The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.
Fees and funding
Tuition fees
England | £9250 | Year 1 |
Northern Ireland | £9250 | Year 1 |
Scotland | £9250 | Year 1 |
Wales | £9250 | Year 1 |
Channel Islands | £9250 | Year 1 |
Republic of Ireland | £9250 | Year 1 |
EU | £13500 | Year 1 |
International | £13500 | Year 1 |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .
Additional fee information
Provider information
University of Wales Trinity Saint David
College Road
Carmarthen
SA31 3EP