Course summary
Wrth ddewis astudio’r radd gyfun BA Cymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n rhannu dy amser rhwng Adran y Gymraeg a’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol - dwy adran uchel iawn eu bri. Adran y Gymraeg yw’r adran hynaf a’r fwyaf o’i bath y byd. Mae’n gartref i gymuned frwdfrydig o fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth a’i lle yn y byd cyfoes. Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn arbenigwyr mewn meysydd amrywiol ac o ganlyniad byddi’n gallu dewis o blith amrywiaeth eang o bynciau sy’n dy ddiddori.Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn bwnc hollol ddeinamig. Mae’n adlewyrchu bywiogrwydd, egni a datblygiadau byd sy’n newid yn gyflym. Astudir elfen hon y cwrs yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, sef y ganolfan orau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer astudio cysylltiadau rhyngwladol. Mae’r adran hefyd yn gartref i Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol ac ymchwil gyffrous yn creu profiad unigryw ac eithriadol yma, a hynny mewn awyrgylch cyfeillgar. Ceir cyfle o bob math hefyd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu dy gyfle am yrfaoedd. Byth oddi ar sefydlu’r Coleg yn Aberystwyth yn 1872, bu Adran y Gymraeg yn cyfrannu’n loyw i ddysg a bywyd diwylliannol y genedl, ym meysydd llenyddiaeth a’r cyfryngau eraill, addysg, gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth. Bu nifer o ysgolheigion a llenorion mwyaf nodedig Cymru yn dysgu ac yn astudio yma. Mae’r adran yn cynnal safonau sy’n gyson uchel ac yn cyflwyno cyrsiau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg. Yn ystod dy gyfnod yn fyfyriwr gyda ni byddi’n cael dewis o amrywiaeth helaeth o fodiwlau sy’n cwmpasu ystod eang o ddiddordebau ac yn dod yn rhan naturiol o’r bwrlwm sy’n gysylltiedig â’r Adran. Cei dy ddysgu gan arbenigwyr sydd yn arloesi yn eu maes a byddi’n dilyn cwrs cyffrous a heriol. Mae cymuned glos a chyfeillgar iawn o fewn Adran y Gymraeg ac mae’r staff yn ymfalchïo yn eu perthynas â’i myfyrwyr. Mae elfen Cysylltiadau Rhyngwladol y radd yn ymwneud â grym a chyfiawnder, gwrthdaro a chydweithio. Byddi’n astudio cyflwr dynoliaeth a’r modd y mae cymdeithasau dynol yn ymwneud â’i gilydd ac yn delio â phob math o newidiadau byd-eang, yn economaidd, diwylliannol a gwleidyddol. Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn bwnc cyffrous a rhyngddisgyblaethol sy’n cynnwys Gwleidyddiaeth, Hanes, Athroniaeth, y Gyfraith, Daearyddiaeth a Chymdeithaseg er mwyn ceisio deall y byd o’n cwmpas a’r problemau sy’n ei wynebu. Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath. Mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol fwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd. Mae gan yr adran hanes hir o edrych ar y byd a gofyn cwestiynau sylfaenol am ystod o bynciau – materion megis rhyfel, cudd-wybodaeth a diogelwch, tlodi byd-eang, moeseg a newid hinsawdd; sut y daeth y byd i fod fel ag y mae, a sut y mae hynny’n newid o hyd. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol a pheth o’r gwaith ymchwil mwyaf cyffrous yn y maes yn creu profiad unigryw ac eithriadol. Mae gennym fantais fawr arall yn Aberystwyth gan mai dyma gartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd yn llyfrgell hawlfraint. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau. Mae’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd hefyd wrth law. Trwy ddewis dod yma i Aberystwyth byddi hefyd yn dod yn ran o fwrlwm o ddarlithoedd cyhoeddus, lansiadau, perfformiadau a sgyrsiau sy’n digwydd yn gyson trwy’r flwyddyn yr yr Adran ei hun a’r tu hwnt.
How to apply
This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application codes
- Course code:
- 5FQL
- Institution code:
- A40
- Campus name:
- Main Site (Aberystwyth)
- Campus code:
- -
Points of entry
The following entry points are available for this course:
- Year 1
Entry requirements
Qualification requirements
UCAS Tariff - 104 - 120 points
A level - BBB - BCC
Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016) - DDM - DMM
Access to HE Diploma
International Baccalaureate Diploma Programme - 28 - 30 points
Applicants are selected on their individual merits and offers can vary. We allow you flexibility in meeting our entry requirements, and all qualifications that you have already gained, or are working towards, will be considered when reviewing your application. We have an inclusive policy which recognises a broad range of qualifications. The entry requirements listed above represent typical offers for some of the most popular qualifications taken by applicants. If you cannot find the qualifications that you are studying (or have previously studied) please contact our Undergraduate Admissions Office (Telephone: +44 (0)1970 622021; Email: [email protected]) for advice on your eligibility and details of the typical offer you are likely to receive.
Additional entry requirements
Other
A minimum grade C or grade 4 pass in GCSE (or equivalent) English or Welsh is a requirement for entry to all our degree schemes. Business, Psychology, Mathematics, and Science degree schemes also require a minimum grade C or grade 4 pass in Mathematics and/or Science at GCSE (or equivalent).
English language requirements
Test | Grade | Additional details |
---|---|---|
Cambridge English Advanced | B | |
Cambridge English Proficiency | C | |
IELTS (Academic) | 6.5 | With minimum 5.5 in each component. |
PTE Academic | 62 | With minimum scores of 51 in each component. |
TOEFL (iBT) | 88 | With minimum scores in components as follows: Listening 21; Writing 21; Reading 22; Speaking 23. |
If you are an international student needing more information about the English Language requirement for your course (e.g. country-specific English Language tests, Partner Institution tests, EU/EEA English Language qualifications where the school curriculum is taught in a native language) please contact the Undergraduate Admissions Office for further advice.
Student Outcomes
The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.
Fees and funding
Tuition fees
England | £9250 | Year 1 |
Northern Ireland | £9250 | Year 1 |
Scotland | £9250 | Year 1 |
Wales | £9250 | Year 1 |
Channel Islands | £9250 | Year 1 |
Republic of Ireland | £9250 | Year 1 |
EU | £18170 | Year 1 |
International | £18170 | Year 1 |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .
Additional fee information
Provider information
Aberystwyth University
Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
Wales
SY23 3FL