Course summary
O dan hyfforddiant rhai o awduron blaenllaw Cymru, mae'r cwrs unigryw hwn yn eich galluogi i gyfuno astudio Cymraeg ag ysgrifennu creadigol. Byddwch yn astudio modiwlau sy'n seiliedig ar ymarfer mewn barddoniaeth, ysgrifennu rhyddiaith, ysgrifennu sgriptiau a drama, a bydd eich sgiliau ieithyddol a chyflogadwyedd yn cael eu gwella ymhellach gan fodiwlau sy'n ymwneud â defnydd proffesiynol o'r Gymraeg. Byddwch yn archwilio cywreinrwydd a grym creadigol y Gymraeg ac yn astudio modiwlau academaidd mwy traddodiadol eu naws, a siwrnai a allai arwain at yrfa fel sgriptiwr, awdur, golygydd, neu lywodraeth leol, darlledu ac addysgu. Os ydych chi yn eich elfen yn darllen llenyddiaeth Gymraeg ac o ddifri ynglŷn â datblygu eich ysgrifennu eich hun, efallai mai BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw’r cwrs gradd ar eich cyfer chi! Bydd modiwlau amrywiol – rhai’n canolbwyntio ar feirdd o Aneirin hyd at Catrin Dafydd, nofelwyr o Daniel Owen hyd at Manon Steffan Ros, a dramodwyr o Saunders Lewis hyd at Aled Jones Williams - yn cyfoethogi eich profiad llenyddol ac yn bwydo eich creadigrwydd. A than arweiniad darlithwyr sy’n awduron profiadol, bydd cyfle i ddatblygu eich ysgrifennu creadigol chithau o fewn cyfres o fodiwlau arbenigol. Cewch gyfle o fewn y radd hon nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd hynotaf y byd, ond cyfle hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn baratoad ardderchog ar gyfer gyrfa a swydd. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dyfnder ac i feistroli gwahanol gyweiriau’r iaith. Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg? Sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol? O’r cyfnodau cynharaf hyd at y presennol, mae’r dewisiadau o ran modiwlau yn eang a’r cyfleoedd i ehangu eich gorwelion yn ddi-ben-draw. Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad. Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565.
Modules
For details of the modular structure, please see the course description on Bangor University's website.
How to apply
This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application codes
- Course code:
- Q5WK
- Institution code:
- B06
- Campus name:
- Main Site
- Campus code:
- -
Points of entry
The following entry points are available for this course:
- Year 1
Entry requirements
Qualification requirements
UCAS Tariff - 104 - 128 points
A level
Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016) - DMM - DDM
Access to HE Diploma
Scottish Higher
International Baccalaureate Diploma Programme
Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (last awarded Summer 2024)
Extended Project
OCR Cambridge Technical Extended Diploma - DMM - DDM
T Level
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt. Gellir ystyried cymwysterau Lefel 3 ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg (e.e. Safon Uwch, IB Uwch). Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Os nad ydych yn meddwl y byddwch yn cwrdd a’r gofynion mynediad a nodwyd, efallai y gallwch gael mynediad i’r cwrs hwn trwy lwybr Blwyddyn Sylfaen. Gwelwch: Cymraeg i Ddechreuwyr (Q565). Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol), ceir manylion yn: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements We are happy to accept combinations of the qualifications listed above, as well as alternative Level 3 qualifications such as City & Guilds, Access and Cambridge Technical Diplomas. Level 3 qualifications can be considered in conjunction with another qualification in Welsh (e.g. A-level, IB Higher). We also welcome applications from mature learners. If you don't think you'll meet the entry requirements specified, you may be able to gain entry to this course via a Foundation Year route. Please see: Welsh for Beginners/ Cymraeg i Ddechreuwyr (Q565). International Candidates: school leaving qualifications that are equivalent to A levels/Level 3 and/or college diplomas are accepted from countries worldwide (subject to minimum English Language requirements), details at: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements
English language requirements
For the most up-to-date information on acceptable English Language proficiency qualifications, please visit our webpage below.
https://www.bangor.ac.uk/international/future/englishlanguage
Student Outcomes
The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.
Fees and funding
Tuition fees
England | £9250* | Year 1 |
Northern Ireland | £9250* | Year 1 |
Scotland | £9250* | Year 1 |
Wales | £9250* | Year 1 |
Channel Islands | £9250* | Year 1 |
Republic of Ireland | £9250* | Year 1 |
*This is a provisional fee and subject to change.
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .
Additional fee information
Provider information
Bangor University
Bangor (Wales)
LL57 2DG