Cymraeg - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University - UCAS

Bangor University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Bangor University (Prifysgol Bangor)

Cymraeg - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

Course summary

UCAS Code: 3D38 TAR Uwchradd - Cymraeg (gyda SAC) Mae bod yn athro/awes Cymraeg yn broffesiwn gwerth chweil. Dewch i rannu eich angerdd a’ch diddordeb yn yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth gyda’r to ifanc. Dewch i wneud y Gymraeg yn fyw a pherthnasol iddynt yn eu bywydau bob dydd a sicrhau fod Cymraeg pawb yn cyfri boed hwy’n siaradwyr Cymraeg rhugl neu yn siaradwyr ar dwf. Bydd cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a phrofiad ymarferol mewn ysgolion yn rhoi dealltwriaeth gadarn i chi o sut mae disgyblion yn dysgu. Bydd y cyfleoedd i ymchwilio, arsylwi athrawon fel modelau rôl a chyd drafod a chynllunio’n broffesiynol yn eich arfogi i arbrofi â’r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddatblygu fel athro/awes Cymraeg creadigol ac arloesol. Yma, ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro Cymraeg rhagorol, ond hefyd yn athro/awes Ieithoedd. Gwneir hyn trwy roi’r cyfleoedd i chi archwilio agweddau eraill o’r Cwricwlwm Ieithoedd, fel eich bod yn gwbl barod i gwrdd ag anghenion y Cwricwlwm i Gymru a chynorthwyo disgyblion i ddefnyddio a chymhwyso eu medrau llythrennedd Cymraeg ymhob pwnc a maes dysgu. Pam astudio gyda ni? • ‘Does unman gwell nag ardal y Brigfysgol ym Mangor i gael profiadau cyforiog o ddiwylliant a llenyddiaeth Gymraeg draddodiadol a chyfoes yn ddaearyddol, hanesyddol a chymdeithasol. Bydd y cwrs TAR Cymraeg yn rhoi cyfle i chi adnabod potensial yr ardal leol fel cyd-destun real wrth gyflwyno’r Gymraeg mewn cymdeithas ddwyieithog a chymuned amlieithog. • Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Cydnebir gwaith ymchwil Prifysgol Bangor ym maes dwyieithrwydd ar lefel rhyngwaldol a byd-eang . Bydd modd i chi elwa ar hyn i ddatblygu gwybodaeth yn y maes ac wrth arbrofi ar lawr-dosabrth. • Mae ein hysgolion Arweiniol a Rhwydwaith ar draws rhanbarth y Gogledd yn cynrychioli gwahanol ardaloedd a gwahanol fathau o ddisgyblion o ran eu cefndiroedd Cymraeg. Bydd derbyn profiadau addysgu’r Gymraeg mewn dau leoliad gwahanol gyda mentoriaid hyfforddedig yn fodd i chi ddod i ddeall ffyrdd addysgu gwahanol er mwyn hybu a datblygu sgiliau Cymraeg disgyblion ag iddynt broffiliau iaith amrywiol. Dyma ddulliau trosglwyddadwy fydd yn eich paratoi, maes o law, at addysgu ar draws Cymru. • Cewch gyfle i gefnogi cyfoedion mewn dosbarthiadau iaith a derbyn cefnogaeth broffesiynol a phersonol wrth ddechrau’ch taith fel athrawon ac arweinwyr y Gymraeg y dyfodol mewn ysgolion. • Drwy’r cwrs ym Mangor cewch eich hannog i chwilio am bob cyfle i roi profiadau byw a chyfoes i ddisgyblion fwynhau defnyddio’r Gymraeg bob dydd mewn gweithgareddau allgyrsiol. Ymunwch gyda’r cwrs! Dewch i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a dod yn rhan greiddiol o’r ymgyrch i greu miliwn o siaradwyr. Awydd? Amdani! Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored. Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am 3F5J.

Qualified teacher status (QTS)

To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:

  • Secondary

How to apply

Application codes

Course code:
3D38
Institution code:
B06
Campus name:
Main Site
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

*Gofynion Mynediad* • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig a'r pwnc. • Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg. • Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd. • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg. • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5).

Additional entry requirements

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)

Interview


Student Outcomes

Operated by the Office for Students

There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

Republic of Ireland £9000 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1

Additional fee information

Tuition fees and scholarship information for International applicants can be found here: https://www.bangor.ac.uk/international/tuition
Cymraeg - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University - UCAS