Skip navigation
Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog) (gyda Blwyddyn Sylfaen) at Cardiff Metropolitan University - UCAS

Cardiff Metropolitan University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Cardiff Metropolitan University (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)

Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog) (gyda Blwyddyn Sylfaen)

Course options

Course summary

Mae hon yn rhaglen pedair blynedd sy'n cynnwys blwyddyn o astudiaeth sylfaenol ar ein campws yn Llandaf ac yn arwain yn uniongyrchol at y cwrs gradd, a fydd yn cael ei addysgu ar ein campws yng Nghyncoed. Mae ein blwyddyn sylfaen yn cynnig y cyfle i ddatblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch hyder, cyn i chi symud ymlaen i gam un eich gradd anrhydedd. Mae'r flwyddyn sylfaen ar gael yn Saesneg yn unig, ond gall myfyrwyr gyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau yn y Gymraeg. Gellir cynnal cyfarfodydd gyda thiwtoriaid personol drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Gweithio gyda phlant o’u genedigaeth hyd at wyth oed a’u teuluoedd. Ar y radd hon, byddwch yn dod yn ymarferydd blynyddoedd cynnar medrus iawn. Byddwch yn ennill Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (SYBC) cymwysedig, gan ennill profiad seiliedig ar waith ymarferol wedi’i gyfuno â gwybodaeth ddamcaniaethol a pholisi sy’n ofynnol ar gyfer ymarfer effeithiol yn y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys rheoli lleoliadau blynyddoedd cynnar. Rydym yn cynnig rhaglen radd BA (Anrh) arloesol mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol sy’n cynnig ystod amrywiol o fodiwlau ymarfer a theori perthnasol. Elfen sylfaenol o’r radd arloesol hon yw’r profiad ymarferol wedi’i asesu y byddwch yn ei gwblhau er mwyn ennill SYBC. Mae hyn yn cynnwys lleoliad yn ystod pob blwyddyn o astudio mewn amrywiaeth o leoliadau perthnasol megis ystafelloedd dosbarth y Cyfnod Sylfaen, meithrinfeydd preifat, canolfannau plant ac ysgolion cynradd. Byddwch yn treulio amser yn ein darpariaeth Ysgol Goedwig ar y campws, lle byddwchyn gallu cael profiad uniongyrchol o gyfleoedd dysgu awyr agored i blant y blynyddoeddcynnar. Wrth gwblhau'r radd, byddwch hefyd yn gallu cyflawni cymwysterau ychwanegol, gan wella eich sgiliau cyflogadwyedd. Dyma'r Wobr Lefel 2 Chwarae Cymru mewn Ymarfer Gwaith Chwarae (L2APP) a'r Dystysgrif Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth sy'n cael ei chymeradwyo gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Yn ystod y radd, cewch eich addysgu gan academyddion gweithgar ym maes ymchwil ac arbenigwyr blynyddoedd cynnar, gan gynnwys darlithwyr gwadd o leoliadau cysylltiedig, megis Chwarae Cymru a Tŷ Hafan, i ddarparu cyfleoedd addysgu a dysgu ychwanegol. Trwy ennill gradd sydd ar flaen y gad o ran newidiadau yn y sector, bydd eich cymhwyster yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan ddarpar gyflogwyr yn y maes hwn. Mae’r radd hon hefyd yn darparu sylfeini cadarn ar gyfer ystod o yrfaoedd cysylltiedig fel gwaith cymorth i deuluoedd, iechyd a gofal cymdeithasol a gwaith cymunedol. Mae dau lwybr astudio ar gael:

  • BA (Hons) Early Years Education and Professional Practice with Early Years Practitioner Status (EYPS)
  • BA (Anrh) Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog)

Qualified teacher status (QTS)

To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:

  • Course does not award QTS

How to apply

Application codes

Course code:
XBPF
Institution code:
C20
Campus name:
Cardiff Met - Llandaff
Campus code:
1

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Foundation

Entry requirements

Qualification requirements

Please click the following link to find out more about qualification requirements for this course

https://www.cardiffmet.ac.uk/undergraduate


Student Outcomes

Operated by the Office for Students

There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

No fee information has been provided for this course

Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .

Additional fee information

£5,760 for Year 0 only. Students progressing onto Year 1 of their chosen programme will be eligible to pay full undergraduate fees. Further details can be found at: https://www.cardiffmet.ac.uk/fees For additional costs relating to this programme, please refer to https://www.cardiffmet.ac.uk/additionalcosts
Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog) (gyda Blwyddyn Sylfaen) at Cardiff Metropolitan University - UCAS