Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid at Bangor University - UCAS

Bangor University

Degree level: Undergraduate

Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

Course summary

Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn. Am y cwrs cyfrwng Saesneg, gweler Childhood and Youth Studies, X313. Wrth wraidd y cwrs hwn mae plant a phobl ifanc yr 21ain ganrif fel actorion cymdeithasol: sydd â rhywbeth i'w ddweud, gyda gwytnwch, gyda bywydau cymhleth ac sy'n brofiadol yng nghanol yr holl newidiadau diwylliannol, cymdeithasol, addysgol a gwleidyddol sy'n digwydd yn y byd o'u cwmpas. Mae'n gallu arwain at amrywiaeth eang o yrfaoedd yn cynnwys dysgu, gwaith cymdeithasol, cwnsela a'r gyfraith lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc. Mae'r radd ddeinamig, amlddisgyblaethol hon yn cynnig cyfle i chi astudio ystod amrywiol o bynciau sy'n ymwneud â phrofiadau byw plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes, gan eich cynorthwyo i ddilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys dysgu, gwaith cymdeithasol, cwnsela a'r gyfraith. Mae gan ein tîm addysgu arbenigedd a chefndiroedd mewn seicoleg, cymdeithaseg, hawliau plant, ieithyddiaeth, addysg, fforenseg, iechyd a lles. Mae'r amgylchedd dysgu cyfoethog ac amrywiol hwn yn nodwedd unigryw o'n cwrs, ac yn rhoi'r cyfle i chi astudio plentyndod a phobl ifanc o nifer o safbwyntiau. Mae'r cwrs 3 blynedd wedi'i gynllunio o gwmpas tri llwybr, gyda modiwlau'n ymwneud â safbwyntiau seicolegol, cymdeithasegol ac addysgol ar faterion sy'n berthnasol i blentyndod a phobl ifanc yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol. Mae'r flwyddyn gyntaf wedi'i chynllunio i roi sylfaen gref i chi ym mhob un o'r tri maes. Mae'r ail flwyddyn yn parhau i adeiladu ar y llinynnau hyn ac i ddatblygu ymarfer effeithiol drwy weithio gyda chyflogwyr yn y meysydd gwaith er mwyn datblygu gwybodaeth ymarferol a gwneud cysylltiadau pwysig â darpar gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau. Mae hyn yn arwain at flwyddyn tri, lle gallwch astudio o leiaf bedwar pwnc a ddewisir o'r ystod o fodiwlau sydd ar gael ar hyn o bryd ar draws y llwybrau astudio. Yn y flwyddyn olaf hon byddwch hefyd yn cwblhau project ymchwil pwysig sy'n eich galluogi i ddyfnhau'ch arbenigedd a'ch gwybodaeth yn eich maes dewisol. Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnwys siaradwyr gwadd, cyfleoedd i astudio dramor, yn ogystal â chyfleoedd i gyflwyno mewn cynadleddau, gan eich helpu i ddatblygu'ch sgiliau academaidd a chyflogadwyedd. Bob blwyddyn cewch gyfle i fynd ar leoliadau gwaith i ddatblygu eich dealltwriaeth o agweddau ar anghenion a datblygiad plant ac i wneud ymchwil i faterion ac ymarfer cyfredol. Nod y radd hon mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yw rhoi sylw i’r galw cyfredol am arbenigwyr cymwysedig a all weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn ystod o gyd-destunau, yn y gymuned ac mewn sefydliadau. Yn y rhaglen ceir cyfuniad o sylfaen academaidd gadarn ynghyd â dimensiwn ymarferol a gweithredol a fydd yn cynhyrchu gweithwyr proffesiynol a all ymdopi a sialensiau cymdeithas gyfoes a phrysur mewn gwlad ddwyieithog. Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.

Modules

Am wybodaeth am fodiwlau'r cwrs hwn, ewch i'r disgrifiad cwrs ar wefan Prifysgol Bangor os gwelwch yn dda.


How to apply

Application codes

Course code:
X314
Institution code:
B06
Campus name:
Main Site
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel: City & Guilds; Cwrs Mynediad; Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt; Tystysgrif Ymadael Iwerddon (mewn o leiaf 4 pwnc uwch); NCFE CACHE Level 3 Diploma Estynedig. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Nodir: Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestr rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion sylfaenol iaith Saesneg). Manylion yma: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements We are happy to accept combinations of the qualifications listed above, as well as alternative Level 3 qualifications such as: City & Guilds; Access; Cambridge Technical Diplomas; Irish Leaving Certificate (from a minimum of 4 higher subjects); and NCFE CACHE Level 3 Extended Diploma. We also welcome applications from mature learners. Note: Applicants are required to undergo an enhanced DBS check for the child workforce including a check of the children’s barred list. Applicants who have lived or worked outside the UK are also required to undertake a criminal records check in their countries of residence.  International Candidates: school leaving qualifications and college diplomas are accepted from countries worldwide (subject to minimum English Language requirements), details at: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements

Additional entry requirements

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)


English language requirements

For the most up-to-date information on acceptable English Language proficiency qualifications, please visit our webpage below.

https://www.bangor.ac.uk/international/future/englishlanguage


Student Outcomes

Operated by the Office for Students
64%
Employment after 15 months (Most common jobs)
88%
Go onto work and study

The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

Republic of Ireland £9000 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1

Additional fee information

Tuition fees and scholarship information for International applicants can be found here: https://www.bangor.ac.uk/international/tuition
Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid at Bangor University - UCAS