Addysg Gorfforol - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University - UCAS

Bangor University

Degree level: Undergraduate
Awarded by: Bangor University (Prifysgol Bangor)

Addysg Gorfforol - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

Course summary

UCAS Code: 3D3Y TAR Uwchradd - Addysg Gorfforol (gyda SAC) Ysbrydolwch genedlaethau o blant a phobl ifanc i fyw bywyd iach a heini trwy gydol eu hoes ac i danio angerdd am chwaraeon a gweithgaredd corfforol trwy ddilyn ein rhaglen TAR Uwchradd Addysg Gorfforol. Bydd cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a phrofiad ymarferol yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae disgyblion yn dysgu ac yn darparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddatblygu fel athro Addysg Gorfforol, creadigol ac arloesol. Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro Addysg Gorfforol rhagorol, ond hefyd yn athro Iechyd a Lles, trwy roi’r cyfle i chi archwilio agweddau eraill o’r cwricwlwm Iechyd a Lles, fel eich bod yn gwbl barod i ddiwallu anghenion Cwricwlwm i Gymru. Pam astudio gyda ni?

  • Ble gwell i astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR Addysg Gorfforol nag yma ym Mangor, sy'n falch o'i hanes llwyddiannus a thraddodiad o ddarparu addysg athrawon Addysg Gorfforol. Bydd gennych fynediad nid yn unig i amrywiaeth eang o chwaraeon, gweithgaredd corfforol a chyfleoedd mewn addysg, ond hefyd i weithgareddau awyr agored ac antur rhagorol. Mae’r agwedd hon yn unigryw i Fangor, lle rydym nid yn unig yn darparu cyfleoedd dysgu allgyrsiol rhagorol yma yng Ngogledd Cymru, ond hefyd ymhellach i ffwrdd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd gennych fynediad at adnoddau a chyfleusterau chwaraeon a gweithgareddauau corfforol o’r radd flaenaf, yn ogystal â’r adnoddau o fewn ardal naturiol hardd sydd gennym ym Mangor – mynyddoedd, llynnoedd, afonydd a thraethau. Bydd hyn i gyd yn eich ysbrydoli wrth i chi baratoi ar gyfer eich gyrfa newydd gyffrous mewn addysg.
  • Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig (SAC).
  • Cewch gyfle i astudio tra'n ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cewch hefyd gefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n ddefnyddiwr rhugl o'r iaith.
Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwysedig gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.

Qualified teacher status (QTS)

To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:

  • Secondary

How to apply

Application codes

Course code:
3D3Y
Institution code:
B06
Campus name:
Main Site
Campus code:
-

Points of entry

The following entry points are available for this course:

  • Year 1

Entry requirements

Qualification requirements

*Gofynion Mynediad* • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig a'r pwnc. • Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg. • Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd. • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg. • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5).

Additional entry requirements

Criminal records declaration (DBS/Disclosure Scotland)

Interview


Student Outcomes

Operated by the Office for Students

There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.

Fees and funding

Tuition fees

Republic of Ireland £9000 Year 1
England £9000 Year 1
Northern Ireland £9000 Year 1
Scotland £9000 Year 1
Wales £9000 Year 1
Channel Islands £9000 Year 1

Additional fee information

Tuition fees and scholarship information for International applicants can be found here: https://www.bangor.ac.uk/international/tuition
Addysg Gorfforol - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University - UCAS